Etholiad Cyffredinol 2024 – y canlyniadau

Yr ymateb o Gymru a thu hwnt wrth gyfrif pleidleisiau etholiad San Steffan

Croeso i Blog Byw Etholiad Cyffredinol 2024 golwg360.

Byddwn ni’n dod â’r diweddaraf i chi ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau, gan gynnwys canlyniadau, y diweddaraf o rai o’r canolfannau cyfrif, a’r holl ymateb o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Gydol nos Iau ac oriau mân fore Gwener, bydd criw o ohebwyr, golygyddion, colofnwyr a sylwebwyr yn dod â phigion o bob cyfeiriad ynghyd yma, ac yn cadw golwg ar y sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn ogystal â golygyddion a gohebwyr golwg360, bydd yr academyddion Dr Huw Lewis (Prifysgol Aberystwyth) a Dr Edward Jones (Prifysgol Bangor), colofnwyr golwg360 Huw Prys Jones a Dylan Wyn Williams, sylfaenydd Golwg Dylan Iorwerth, y sylwebydd Elin Roberts, y colofnydd ac awdur Jason Morgan, a mwy yn cynnig dadansoddiadau a sylwebaeth hefyd. A bydd ambell un mewn etholaethau ledled Cymru wrth i ni agosáu at gyhoeddi’r canlyniadau.

Prif benawdau’r etholiad:

  • Llafur wedi ennill mwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol, Keir Stamer ar ei ffordd i Rif 10.
  • Y darlun llawn yng Nghymru – Llafur ar 27 sedd, Plaid Cymru â phedair a’r Democratiaid Rhyddfrydol gydag un.
  • Plaid Cymru wedi cipio Ynys Môn a Chaerfyrddin, a dal gafael ar Ddwyfor Meirionnydd a Cheredigion Preseli.
  • Alun Cairns o’r Ceidwadwyr yn colli sedd Bro Morgannwg i Kanishka Narayan o Lafur
  • Llafur gydag Andrew Ranger yn cipio etholaeth Wrecsam gan Sarah Atherton o’r Ceidwadwyr
  • Canlyniad olaf Cymru – Y Ceidwadwr David TC Davies yn colli’i sedd i Lafur yn Sir Fynwy.
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe gan y Ceidwadwyr. 

Canlyniadau llawn etholaethau unigol Cymru ar waelod ein tudalen Etholiad.

22:51

Anthony Slaughter, arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, yn siarad efo’n Gohebydd Gwleidyddol, Rhys Owen:

“Dwi’n meddwl ei bod hi’n gydnabyddiaeth gadarnhaol o’r gwaith sydd wedi cael ei wneud yng Nghanol Bryste gan Carla Denyer.

“Bydd Bryste yn newid y gwelediad yn gyfan gwbl yng Nghymru, ac yn enwedig yng Nghaerdydd.

“Dwi yn hyderus bydd y blaid yn gallu ennill yn Ogledd Sir Henffordd hefyd.”

22:48

Nicola Sturgeon yn cyfaddef na fydd yn “noson dda” i’r SNP heno.

Yn ôl yr arolwg ymadael, bydd nifer o seddi’r SNP yn syrthio o 48 i 10, ac y lleiaf ers 2010 pan enillon nhw chwe sedd yn unig. 

Wrth siarad ar ITV, dywedodd cyn-arweinydd yr SNP, “Nid yw hon yn noson dda i’r SNP ar y canlyniadau hyn.

“Rwy’n meddwl y bydd cwestiwn a oedd digon yn yr ymgyrch, i bob pwrpas, i roi llais unigryw i’r SNP mewn etholiad a oedd yn ymwneud â chael y Torïaid allan a’u disodli â Llafur.”

22:47

O gymharu â rhai arolygon barn yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, dydi’r exit poll ddim yn ymddangos  llawn mor drychinebus i’r Torīaid ag y gallai fod. Codi bwganod am Lafur wedi dal ychydig ar y llanw’n ôl efallai? Reform efo mwy o seddau na’r disgwyl, ond pe bai eu cyfanswm eu pleidlais wedi codi gymaint ag oedd rhai o’r poliau diweddar yn awgrymu, byddai cyfanswm seddau’r Toriaid i lawr yn dipyn is. Mae arbenigwyr yn rhybuddio y gallai nifer seddau Reform fod yn is na’r 13 a awgrymir hefyd. Os caiff y Toriaid 131 o seddau bydd eu safle fel y brif wrthblaid yn gwbl gadarn. Ar y llaw arall, go brin y byddai gobaith gan neb o’u llusgo’n ôl i’r tir canol gwleidyddol mor gyflym a wnaeth Keir Starmer ar ôl llanast Jeremy Corbyn. 

Y ffigurau cychwynnol yn ymddangos yn drychinebus i’r SNP hefyd – cawn weld yn nes ymlaen i ba raddau y gwireddir hyn.

22:46

Sion Wyn sydd yn Llandysul ar gyfer cyfrif sedd Ceredigion Preseli.

Dilynwch ei flog byw ar Aeron360 gydol y nos i gael y diweddara.

22:42

Un o’r seddi mwya tynn yng Nghymru ydy Ynys Môn.

Owain Siôn yw’r gohebydd bro sydd yn Llangefni, a bydd yn dod â’r sïon diweddaraf ar flog byw Môn360 o’r cyfrif.

22:36

Pan gaiff senedd San Steffan ei diddymu, mae enwau’r rhai sydd wedi’u henwebu gan eu pleidiau i gael seddi yn Nhŷ’r Arglwyddi yn cael eu cyhoeddi.

Ymhlith y rhai sydd wedi’u henwebu gan Rishi Sunak mae Theresa May (cyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig) a Syr Graham Brady (cyn-Gadeirydd Pwyllgor 1922).

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog Oliver Dowden, y cyn-Brif Chwip Julian Smith, y cyn-Ysgrifennydd Amddiffyn Ben Wallace ac Alister Jack, Ysgrifennydd Gwladol diweddara’r Alban, i gyd wedi’u hurddo’n farchogion. Mae Therese Coffey, y cyn-weinidog Cabinet, bellach yn Fonesig.

Ymhlith y gweinidogion eraill sydd wedi’u gwobrwyo mae Chris Grayling ac Alok Sharma.

O ran Llafur, mae’r enwau’n cynnwys Craig Mackinlay, sydd wedi brwydro yn erbyn sepsis; y Fonesig Eleanor Laing, cyn-Ddirprwy Lefarydd Tŷ’r Cyffredin; Margaret Beckett, y cyn-Ysgrifennydd Tramor; a’r cyn-weinidogion blaenllaw Harriet Harman a’r Fonesig Margaret Hodge.

Mae’r Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol wedi beirniadu’r cyhoeddiad yn chwyrn, gyda’r cyhuddiad fod Arglwyddi’n “cael eu stwffio” i mewn i’r sefydliad.

22:34

Os yw’r pôl ymadael yn gywir mae’n bosib mai dyma fydd y canlyniad gwaethaf erioed i’r blaid Geidwadol mewn etholiad i Senedd San Steffan – gwaeth na cholled drom 1997 (165 sedd) a gwaeth hyd yn oed na chwalfa fawr 1906 pan syrthiodd y blaid i lawr i 156 sedd.

Er hyn, mae’n werth nodi nad yw cyfanswm y pôl ymadael o 131 i’r Ceidwadwyr cynddrwg â’r rhagamcanion seddi i’r blaid yn rhai o’r arolygon barn MRP mawr i gael eu cyhoeddi dros y bythefnos ddiwethaf oedd yn awgrymu y gallai’r Ceidwadwyr syrthio yn is na’r 100 sedd.

Bydd rhaid aros am ganlyniadau nawr  er mwyn gweld pa mor ddrwg mae hi mewn gwirionedd ar y Ceidwadwyr.

22:30

Elfen arall o ddatganoli ydi bod Jeremy Vine, “swltan y swingometer” chwadal BBC Wales, yn gweithio o Gaerdydd eleni. Ac mae’r map rhyngweithiol o’r Deyrnas Unedig fel bydysawd arall o gymharu â dyddiau’r pyndit David Butler a’i ddiagram saeth a map cardbord ym 1965. Ac fel y dengys fideo Cymru Fyw, mae’r Bonwr Vine yn “mwynhau fy amser i yn BBC Cardiff” ac wedi bod yn ymarfer adrodd rhai o’n hetholaethau gan gynnwys “Caerfyrddin” a’r ffaith bod “Torfaen” yn odli gyda’i gyfenw ei hun.

Gall ddysgu llawer i Mark Austin Sky News wnaeth fethu’n rhacs efo’i ‘Plaid Cwm-ray’ wythnos diwethaf.

Bydd adran graffeg BBC Cymru wrthi fel slecs heno, gan ein bod newydd weld Daniel Davies yn symud o Tŷ’r Cyffredin rithwir i hongliad o set 10 Downing Street i bwysleisio’r fath gagendor rhwng Keir Starmer a Rishi Sunak os ydi’r pol pinwn ola’n gywir.

22:28

Noswaith dda o Rachub, bawb! Ac mae hi’n etholiad anarferol iawn yma, achos dyma’r tro cyntaf erioed imi gael noson etholiad cyffredinol heb win yn oedolyn!

Ydyn ni’n gallu defnyddio’r pôl ola’ i ddadansoddi’r hyn allai ddigwydd yng Nghymru heno? Mae honno’n gêm beryg i’w chwarae, ond fe allwn ni ddyfalu ambell beth.

Dwi’n teimlo bod yna obaith i’r Ceidwadwyr ddal cwpl o seddi yng Nghymru os ydyn nhw ar tua 131 sedd fel sy’n cael ei broffwydo; eu gobeithion gorau fyddai cadw Sir Fynwy (er bod David Davies eisoes wedi ildio, sy’n stori arall) a Sir Drefaldwyn a Glyndŵr. Mae’n annhebygol iawn y gwnawn nhw gadw unrhyw seddi eraill.

Llafur fydd buddiolwyr hyn, ond gan ddweud hynny mae’r cyfanswm o 410 sedd – sydd dipyn llai nag a ragwelwyd gan y rhan fwyaf o bolau dros yr ymgyrch – o bosib yn newyddion da i obeithion Plaid Cymru ar Ynys Môn ac yng Nghaerfyrddin. Er hynny, mae’n bwysig nodi mai’r disgwyl yw y bydd brwydr agos yn y ddwy sedd.

Mae hefyd gyfle i’r Democratiaid Rhyddfrydol ddychwelyd AS ym Mrycheiniog a Chwmtwrch.

Un peth difyr imi fydd beth fydd y gagendor rhwng pleidlais y blaid Lafur yng Nghymru ac yn Lloegr. Dwi’n meddwl ei bod hi’n hollol bosib y bydd y bwlch hwnnw’n llai nag y mae wedi bod ers cyn cof.

A chofiwch, y cliw mawr dros yr oriau nesaf cyn i ganlyniadau ddod i law fydd gwylio wynebau gwleidyddion wrth iddyn nhw gael eu holi ar y teledu.

Serch hyn oll, mae’n debyg na chawn ni ganlyniad o Gymru am rai oriau. Cyfle i orffwys!

22:25

Yn ôl y BBC, mae David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol diweddaraf Cymru, wedi dweud ei fod e wedi colli ei sedd. Dim cadarnhad hyd yma. Ond pe bai’n wir, dyma ergyd fawr gynta’r noson i’r Ceidwadwyr.