Etholiad Cyffredinol 2024 – y canlyniadau

Yr ymateb o Gymru a thu hwnt wrth gyfrif pleidleisiau etholiad San Steffan

Croeso i Blog Byw Etholiad Cyffredinol 2024 golwg360.

Byddwn ni’n dod â’r diweddaraf i chi ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau, gan gynnwys canlyniadau, y diweddaraf o rai o’r canolfannau cyfrif, a’r holl ymateb o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Gydol nos Iau ac oriau mân fore Gwener, bydd criw o ohebwyr, golygyddion, colofnwyr a sylwebwyr yn dod â phigion o bob cyfeiriad ynghyd yma, ac yn cadw golwg ar y sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn ogystal â golygyddion a gohebwyr golwg360, bydd yr academyddion Dr Huw Lewis (Prifysgol Aberystwyth) a Dr Edward Jones (Prifysgol Bangor), colofnwyr golwg360 Huw Prys Jones a Dylan Wyn Williams, sylfaenydd Golwg Dylan Iorwerth, y sylwebydd Elin Roberts, y colofnydd ac awdur Jason Morgan, a mwy yn cynnig dadansoddiadau a sylwebaeth hefyd. A bydd ambell un mewn etholaethau ledled Cymru wrth i ni agosáu at gyhoeddi’r canlyniadau.

Prif benawdau’r etholiad:

  • Llafur wedi ennill mwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol, Keir Stamer ar ei ffordd i Rif 10.
  • Y darlun llawn yng Nghymru – Llafur ar 27 sedd, Plaid Cymru â phedair a’r Democratiaid Rhyddfrydol gydag un.
  • Plaid Cymru wedi cipio Ynys Môn a Chaerfyrddin, a dal gafael ar Ddwyfor Meirionnydd a Cheredigion Preseli.
  • Alun Cairns o’r Ceidwadwyr yn colli sedd Bro Morgannwg i Kanishka Narayan o Lafur
  • Llafur gydag Andrew Ranger yn cipio etholaeth Wrecsam gan Sarah Atherton o’r Ceidwadwyr
  • Canlyniad olaf Cymru – Y Ceidwadwr David TC Davies yn colli’i sedd i Lafur yn Sir Fynwy.
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe gan y Ceidwadwyr. 

Canlyniadau llawn etholaethau unigol Cymru ar waelod ein tudalen Etholiad.

03:05

Rhys Owen (Gohebydd Gwleidyddol)

Y stori hyd yn hyn…

Mae’r Ceidwadwyr yn edrych fel ei bod wedi’u chwalu ar draws y wlad, gyda Reform yn bwyta i mewn i’w pleidlais fwy ac yn fwy. 

Ar y pwynt o ysgrifennu hwn mae Keir Starmer jest wedi ennill yn Hoburn a St Pancras a does ddim amheuaeth bod o wedi bod yn noson ardderchog i’w blaid. 

Yng Nghymru, mae Reform wedi dangos grym yn y de sydd yn mynd i fod yn bwysig yn Senedd 2026 os mae’r momentwm yn parhau i dyfu dros yr 18 mis nesaf. 

Rydym rŵan yn aros ar etholaethau ymylol yng Nghymru i weld os mae Plaid yn gallu cadw 4 sedd, hyd yn oed ar ôl newid y ffiniau, ac os mae pleidiau fel y Gwyrddion yn gallu dangos twf mewn ardaloedd trefol fel Caerdydd. 

Mi fyddai’n cadw ar draws hyn ar ôl i bleidlais Ynys Môn gael ei gyhoeddi pen ryw 10 munud.

03:04

Gan Sara Wheeler yn Wrecsam

Yn ei araith mi wnaeth Charles Dodman ddweud ei bod yn ganlyniad gwych, o ystyried fod y blaid Reform UK ddim ond wedi bodoli ers 6 wythnos

Dyma’r canlyniad llawn:

Ceidwadwyr – 9888

Llafur – 15836

Plaid Cymru- 4138

Dems Rhydd – 1777

Gwyrddion – 1339

Abolish – 480

Reform – 6915

03:03

Buddugoliaeth rwydd i Keir Starmer yn ei etholaeth Kings Cross & St Pancras yn Llundain, wrth i enillion cynyddol gan Lafur yn Lloegr gadarnhau y bydd yn Brif Weinidog o fewn oriau

03:01

Mae Mark Drakeford (y cyn Brif Weinidog, cofio fo?) yn dweud y bydd Torsten Bell (Gorllewin Abertawe) yn ffigwr pwysig yn y Blaid Lafur. Ond roedd y cwymp yng nghanran y blaid o’r bleidlais yn dangos anfodlonrwydd cefnogwyr lleol efo’r penderfyniad i barashiwtio cyn bennaeth y Resolution Foundation i mewn.

A throednodyn – ym Mro Morgannwg, mae gan Lafur bellach gynrychiolydd a aeth trwy Eton … ar ysgoloriaeth yr aeth Kanishka Narayan yno. Roedd y Guardian yn dweud ei fod yntau ymhlith 10 o ser newydd Llafur.

02:46

Canlyniad Gŵyr ydy’r nesaf o Gymru, a dim syndod wrth Tonia Antoniazzi o’r Blaid Lafur yn cadw ei sedd gyda mwyafrif o 11,567.

Llafur yn colli 2% o’r bleidlais, ond y Ceidwadwyr lawr 21% hefyd. Reform fyny 13% a Phlaid Cymru hefyd fyny 3%

02:45

Dylan Wyn Williams

Yng nghanol caseg eira o ganlyniadau o Gymru, beth am fynd nôl i Ben-y-bont am eiliad. Adrian Masters ITV yn nodi fod AS Llafur newydd, Kanishka Narayan sy’n enedigol o Gaerdydd a bellach o’r Barri, wedi creu hanes – fel yr Aelod Seneddol ethnig leiafrifol cyntaf erioed o Gymru.

Croeso i 2024!

02:44

Canlyniad Torfaen – Llafur a Nick Thomas-Symonds yn cadw’r sedd, ond gogwydd 4.5% yn y bleidlais o Llafur i Reform. 

02:43

Buddugoliaeth ysgubol i Ed Davey, arweinydd y Lib Dems yn Kingston a Surbiton – dyblu ei fwyafrif

02:42

Fideo o ganlyniad Wrecsam gan Sara Wheeler

02:41

Rhys Owen (Gohebydd Gwleidyddol)

Mae Wrecsam wedi pleidleisio i ethol Andrew Ranger o’r blaid Lafur. O edrych ar y pleidleisiau mae Sarah Atherton sydd wedi dod yn 2ail efo 6,000 yn llai na gafwyd yn 2019 – yr union faint mae Reform wedi ennill yn y sedd y tro hwn yn 3ydd. 

Cyd-ddigwyddiad?