Etholiad Cyffredinol 2024 – y canlyniadau

Yr ymateb o Gymru a thu hwnt wrth gyfrif pleidleisiau etholiad San Steffan

Croeso i Blog Byw Etholiad Cyffredinol 2024 golwg360.

Byddwn ni’n dod â’r diweddaraf i chi ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau, gan gynnwys canlyniadau, y diweddaraf o rai o’r canolfannau cyfrif, a’r holl ymateb o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Gydol nos Iau ac oriau mân fore Gwener, bydd criw o ohebwyr, golygyddion, colofnwyr a sylwebwyr yn dod â phigion o bob cyfeiriad ynghyd yma, ac yn cadw golwg ar y sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn ogystal â golygyddion a gohebwyr golwg360, bydd yr academyddion Dr Huw Lewis (Prifysgol Aberystwyth) a Dr Edward Jones (Prifysgol Bangor), colofnwyr golwg360 Huw Prys Jones a Dylan Wyn Williams, sylfaenydd Golwg Dylan Iorwerth, y sylwebydd Elin Roberts, y colofnydd ac awdur Jason Morgan, a mwy yn cynnig dadansoddiadau a sylwebaeth hefyd. A bydd ambell un mewn etholaethau ledled Cymru wrth i ni agosáu at gyhoeddi’r canlyniadau.

Prif benawdau’r etholiad:

  • Llafur wedi ennill mwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol, Keir Stamer ar ei ffordd i Rif 10.
  • Y darlun llawn yng Nghymru – Llafur ar 27 sedd, Plaid Cymru â phedair a’r Democratiaid Rhyddfrydol gydag un.
  • Plaid Cymru wedi cipio Ynys Môn a Chaerfyrddin, a dal gafael ar Ddwyfor Meirionnydd a Cheredigion Preseli.
  • Alun Cairns o’r Ceidwadwyr yn colli sedd Bro Morgannwg i Kanishka Narayan o Lafur
  • Llafur gydag Andrew Ranger yn cipio etholaeth Wrecsam gan Sarah Atherton o’r Ceidwadwyr
  • Canlyniad olaf Cymru – Y Ceidwadwr David TC Davies yn colli’i sedd i Lafur yn Sir Fynwy.
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe gan y Ceidwadwyr. 

Canlyniadau llawn etholaethau unigol Cymru ar waelod ein tudalen Etholiad.

02:27

02:26

Canlyniad o Orllewin Abertawe – Torsten Bell o’r Blaid Lafur yn cael ei ethol i’r sedd.

Reform yn ail yn y sedd yma gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol yn drydydd. Y Ceidwadwyr yn bumed yn yr etholaeth yma gyda Plaid Cymru’n bedwerydd. 

Roedd ymateb cymysg i ddweud y lleiaf i’r penderfyniad i ddewis Bell fel ymgeisydd yn y sedd hon. 

02:24

Reform wedi ennill eu sedd gyntaf o’r noson yn Ashfield – 43% o’r bleidlais i’r blaid, fyny 38% gyda’r Ceidwadwyr yn cwymo 31%. Lee Anderson ydy AS cyntaf Reform. 

02:22

Buddugoliaeth rwydd i Lee Anderson o Reform yn Ashfield. Mwyafrif o 5,000 dros Lafur. Roedd wedi ennill y sedd dros y Toriaid yn 2019, ond maen nhw wedi cael eu curo i’r 4ydd safle. Er ei fod eisoes yn AS dros Reform, dyma’r tro cyntaf iddo ennill sedd drostyn nhw. Felly Reform wedi ennill eu sedd gyntaf.

02:21

Ann Davies, ymgeisydd Plaid Cymru yng Nghaerfyrddin yn dweud ar S4C ei bod hi’n rhy gynnar i ddweud eto, ond bod pleidlais plaid yn sicr i fyny yn yr etholaeth. 

02:19

Jason Morgan

Bro Morgannwg hefyd wedi cyhoeddi erbyn hyn, ac mae’r Ceidwadwyr ac Alun Cairns wedi’u trechu mewn sedd y maen nhw wedi’i dal ers 2010. Fodd bynnag, er bod canran pleidlais y Ceidwadwyr i lawr bron 20% yma, gwelodd Llafur hefyd ostyngiad o 5% yn ei phleidlais.

Gellir egluro hyn gan berfformiad gweddol cryf gan Reform UK (15.2%) ond hefyd gan Blaid Cymru (7.1%), na safodd yn y Fro’r tro diwethaf oherwydd y fargen aflwyddiannus a darwyd rhyngddi hi, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Gwyrddion yn 2019.

02:17

Rhys Owen (Gohebydd Gwleidyddol) 

Da’ ni yn hanner ffordd trwy’r cyfri yma yn Ynys Môn. 

Ar hyn o bryd, mae o’n edrych fod dau ymgeisydd ar y brig gyda Llinos Medi ac Virginia Crosbie yn arwain Ieuan Môn Williams.

02:16

Dylan Wyn Williams

Wedi darlleniad clogyrnaidd Pen-y-bont, braf gweld dau gyhoeddwr slic wrthi ym Mro Morgannwg.

Ac mae Alun Cairns wedi ildio’i sedd i Lafur.

Mae Bro Andrew RT Davies yn Goch!

02:14

Canlyniad Bro Morgannwg newydd ei gyhoeddi – Llafur yn cipio gan y Ceidwadwyr! Alun Cairns yn colli ei sedd i Kanishka Narayan – stori fawr gyntaf y noson o Gymru. 

Y Ceidwadwyr yn colli 20% o’r bleidlais, ond Llafur lawr 5% hefyd wrth i Reform ennill tir. Fydd Llafur ddim yn poeni gormod am hynny, cipio’r sedd sy’n bwysig…ond mae’n duedd diddorol iawn.

02:10

Jason Morgan

Mae’r canlyniad cyntaf o Gymru wedi’i gyhoeddi – Pen-y-bont ar Ogwr. Chwalfa lwyr i’r Ceidwadwyr, eu pleidlais wedi gostwng gan bron 28%, a chofiwch mai nhw enillodd yno’n 2019. Ail digon clir i Reform, canlyniad fydd dwi’n tybio’n eithaf cyffredin yn y rhan honno o Gymru, ac efallai ym mron pob rhan o Gymru. Mae’n sicr yn awgrymu y gallai’r Ceidwadwyr golli pob sedd yma heno.

Plaid Cymru ddaeth yn bedwerydd, yn cynyddu ei phleidlais gan 3.6%, a bydd hi’n ddigon bodlon os ydi hwnnw’n cael ei ailadrodd dros Gymru gyfan.

Ond efallai’r hyn sydd fwyaf nodedig ydi nad yw pleidlais y blaid Lafur ond i fyny o 1.4%. Dydi hi ddim yn arwydd mawr o hyder, yn enwedig mewn etholiad lle mae hi am gael mwyafrif ysgubol.