Etholiad Cyffredinol 2024 – y canlyniadau

Yr ymateb o Gymru a thu hwnt wrth gyfrif pleidleisiau etholiad San Steffan

Croeso i Blog Byw Etholiad Cyffredinol 2024 golwg360.

Byddwn ni’n dod â’r diweddaraf i chi ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau, gan gynnwys canlyniadau, y diweddaraf o rai o’r canolfannau cyfrif, a’r holl ymateb o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Gydol nos Iau ac oriau mân fore Gwener, bydd criw o ohebwyr, golygyddion, colofnwyr a sylwebwyr yn dod â phigion o bob cyfeiriad ynghyd yma, ac yn cadw golwg ar y sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn ogystal â golygyddion a gohebwyr golwg360, bydd yr academyddion Dr Huw Lewis (Prifysgol Aberystwyth) a Dr Edward Jones (Prifysgol Bangor), colofnwyr golwg360 Huw Prys Jones a Dylan Wyn Williams, sylfaenydd Golwg Dylan Iorwerth, y sylwebydd Elin Roberts, y colofnydd ac awdur Jason Morgan, a mwy yn cynnig dadansoddiadau a sylwebaeth hefyd. A bydd ambell un mewn etholaethau ledled Cymru wrth i ni agosáu at gyhoeddi’r canlyniadau.

Prif benawdau’r etholiad:

  • Llafur wedi ennill mwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol, Keir Stamer ar ei ffordd i Rif 10.
  • Y darlun llawn yng Nghymru – Llafur ar 27 sedd, Plaid Cymru â phedair a’r Democratiaid Rhyddfrydol gydag un.
  • Plaid Cymru wedi cipio Ynys Môn a Chaerfyrddin, a dal gafael ar Ddwyfor Meirionnydd a Cheredigion Preseli.
  • Alun Cairns o’r Ceidwadwyr yn colli sedd Bro Morgannwg i Kanishka Narayan o Lafur
  • Llafur gydag Andrew Ranger yn cipio etholaeth Wrecsam gan Sarah Atherton o’r Ceidwadwyr
  • Canlyniad olaf Cymru – Y Ceidwadwr David TC Davies yn colli’i sedd i Lafur yn Sir Fynwy.
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe gan y Ceidwadwyr. 

Canlyniadau llawn etholaethau unigol Cymru ar waelod ein tudalen Etholiad.

02:14

Canlyniad Bro Morgannwg newydd ei gyhoeddi – Llafur yn cipio gan y Ceidwadwyr! Alun Cairns yn colli ei sedd i Kanishka Narayan – stori fawr gyntaf y noson o Gymru. 

Y Ceidwadwyr yn colli 20% o’r bleidlais, ond Llafur lawr 5% hefyd wrth i Reform ennill tir. Fydd Llafur ddim yn poeni gormod am hynny, cipio’r sedd sy’n bwysig…ond mae’n duedd diddorol iawn.

02:10

Jason Morgan

Mae’r canlyniad cyntaf o Gymru wedi’i gyhoeddi – Pen-y-bont ar Ogwr. Chwalfa lwyr i’r Ceidwadwyr, eu pleidlais wedi gostwng gan bron 28%, a chofiwch mai nhw enillodd yno’n 2019. Ail digon clir i Reform, canlyniad fydd dwi’n tybio’n eithaf cyffredin yn y rhan honno o Gymru, ac efallai ym mron pob rhan o Gymru. Mae’n sicr yn awgrymu y gallai’r Ceidwadwyr golli pob sedd yma heno.

Plaid Cymru ddaeth yn bedwerydd, yn cynyddu ei phleidlais gan 3.6%, a bydd hi’n ddigon bodlon os ydi hwnnw’n cael ei ailadrodd dros Gymru gyfan.

Ond efallai’r hyn sydd fwyaf nodedig ydi nad yw pleidlais y blaid Lafur ond i fyny o 1.4%. Dydi hi ddim yn arwydd mawr o hyder, yn enwedig mewn etholiad lle mae hi am gael mwyafrif ysgubol.

02:06

Canlyniad cyntaf o Gymru, ac o Ben-y-bont ar Ogwr – Chris Elmore o’r Blaid Lafur wedi cipio’r sedd gan y Ceidwadwyr – 40% o’r bleidlais i Lafur (+1%), gyda’r Ceidwadwyr lawr 28%. Reform i fyny 14%.

02:06

02:02

Rachel Reeves, darpar Ganghellor y Trysorlys, yn cadw ei sedd â mwyafrif mawr yn Leeds. Llafur yn cadw Barnsley, hen gadarnle glofaol yn Swydd Efrog, ond Reform yn ail cryf.

02:02

Jason Morgan

Gohebydd S4C wedi awgrymu bod ymgeiswyr y Torïaid a Llafur wedi cael “sioc” pa mor dda mae Reform i’w weld yn gwneud yn ardal Llandudno. Y sioc fwyaf, wrth gwrs, ydi eu bod nhw wedi cael sioc am hynny!

01:57

Rhys Owen (Gohebydd Gwleidyddol)

Dwi jest wedi bod yn siarad efo aelod o Reform i ddeall mwy am be ydi weledigaeth y blaid yn symud ymlaen, yn enewedig yng Nghymru – rhywbeth sydd ddim wir wedi cael ei egluro yn ystod yr ymgyrch hon. 

Y pwynt mwyaf o’r sgwrs oedd ei fod yn credu y bydd yr ymgeisiwr sydd yn derbyn yn nifer o bleidleisiau ar ran cyfartaledd yn debygol o arweinio’r blaid yng Nghymru i fewn i etholiad Senedd 2026.

01:55

Ar y llaw arall, gogwydd sylweddol o’r Toriaid i Lafur yn Stroud wrth iddyn nhw gipio’r sedd yn ardal y Cotswolds

01:55

Llafur wedi cipio Stroud gan y Ceidwadwyr, ac hefyd etholaeth Darlington. 

Y Torïaid wedi colli 20% o’r bleidlais yn Stroud – 10% i Reform a’r gweddill yn cael ei rannu rhwng Llafur, y Gwyrddion a Dems Rhydd. 

Yn Darlington, pleidlais Llafur heb godi llawr (0.3%) ond y Ceidwadwyr lawr 15.9% gyda Reform (+12.5%) a’r Gwyrddion (+4.2%) yn cynyddu eu cyfran.

01:53

Llafur yn cipio Darlington yn ôl oddi ar y Toriaid, un o’r seddau a drodd yn las yn 2019. Ond y fuddugoliaeth i’w phriodoli’n fwy i ogwydd o’r Toriaid i Reform nag at Lafur