Etholiad Cyffredinol 2024 – y canlyniadau

Yr ymateb o Gymru a thu hwnt wrth gyfrif pleidleisiau etholiad San Steffan

Croeso i Blog Byw Etholiad Cyffredinol 2024 golwg360.

Byddwn ni’n dod â’r diweddaraf i chi ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau, gan gynnwys canlyniadau, y diweddaraf o rai o’r canolfannau cyfrif, a’r holl ymateb o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Gydol nos Iau ac oriau mân fore Gwener, bydd criw o ohebwyr, golygyddion, colofnwyr a sylwebwyr yn dod â phigion o bob cyfeiriad ynghyd yma, ac yn cadw golwg ar y sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn ogystal â golygyddion a gohebwyr golwg360, bydd yr academyddion Dr Huw Lewis (Prifysgol Aberystwyth) a Dr Edward Jones (Prifysgol Bangor), colofnwyr golwg360 Huw Prys Jones a Dylan Wyn Williams, sylfaenydd Golwg Dylan Iorwerth, y sylwebydd Elin Roberts, y colofnydd ac awdur Jason Morgan, a mwy yn cynnig dadansoddiadau a sylwebaeth hefyd. A bydd ambell un mewn etholaethau ledled Cymru wrth i ni agosáu at gyhoeddi’r canlyniadau.

Prif benawdau’r etholiad:

  • Llafur wedi ennill mwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol, Keir Stamer ar ei ffordd i Rif 10.
  • Y darlun llawn yng Nghymru – Llafur ar 27 sedd, Plaid Cymru â phedair a’r Democratiaid Rhyddfrydol gydag un.
  • Plaid Cymru wedi cipio Ynys Môn a Chaerfyrddin, a dal gafael ar Ddwyfor Meirionnydd a Cheredigion Preseli.
  • Alun Cairns o’r Ceidwadwyr yn colli sedd Bro Morgannwg i Kanishka Narayan o Lafur
  • Llafur gydag Andrew Ranger yn cipio etholaeth Wrecsam gan Sarah Atherton o’r Ceidwadwyr
  • Canlyniad olaf Cymru – Y Ceidwadwr David TC Davies yn colli’i sedd i Lafur yn Sir Fynwy.
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe gan y Ceidwadwyr. 

Canlyniadau llawn etholaethau unigol Cymru ar waelod ein tudalen Etholiad.

04:04

Dylan Wyn Williams

‘Da ni angen Daniel Davies a’i fap rhyngweithiol yn ôl, wrth i Gymru droi’n fwyfwy coch a gwyrdd. Fydd ’na felyn yn etholaeth newydd Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe fel mae David Deans o BBC Wales yn awgrymu’n gryf?

04:03

Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, yn darogan y bydd y blaid yn cael ei chanlyniad gorau erioed – mae’n amlwg yn disgwyl ennill Ceredigion a’r Preseli a Dwyfor Meirionnydd. Ennill dwy sedd newydd, meddai, a chodi pleidlais ymhobman.

Ac, ar ol deud nad oedd Reform wedi dod yn agos, mi ddaethon nhw o fewn mil a hanner i ddisodli Nia Griffith, Llafur, yn Llanelli. Ac, o ran canran y bleidlais, mi gafodd Plaid Cymru eu canlyniad gorau ers blynyddoedd yn y sedd.

04:01

Canlyniad Llanelli – Nia Griffiths o Lafur yn cadw’r sedd, ond mae hi’n agos iawn gyda Reform gyda dim ond 1504 pleidlais ynddi. Llafur lawr 8% a Reform fyny 18.7%.

03:56

Dau ganlyniad yn nau ben y wlad – Canol a De Sir Benfro a Gogledd Clwyd – yn dangos effaith Reform. Buddugoliaethau agos i Lafur a cyfanswm y Ceidwadwyr a Reform lawer mwy. Mae yna ogwydd cyson at Reform (roedden nhw’n ail yng Nghastell Nedd) ond heb iddyn nhw ddod yn agos at gipio sedd. Canlyniadau Ewropeaidd bron o ran y dde galed.

03:51

Jason Morgan

Dyna ni, mae Plaid Cymru wedi ennill yng Nghaerfyrddin, felly os bydd hi’n cadw Dwyfor Meirionnydd a Cheredigion Preseli (tebygol iawn), fydd ganddi dal 4 AS, a hynny mewn sefyllfa lle roedd y newid ffiniau’n galed iawn arni.

Dwi’n meddwl ei bod hi’n saff dweud erbyn hyn bod Plaid Cymru wedi cael ei hetholiad cyffredinol gorau ers degawdau, nid yn unig achos iddi “gipio” seddi, ond bod ei phleidlais hi wedi bod ar ei fyny ar draws y wlad, a hynny mewn etholiad ddylai fod wedi bod yn heriol iddi mewn gwirionedd.

Hyd yn oed yma, sedd ar ddechrau’r ymgyrch a edrychai’n gadarnhaol iawn i Lafur, fe gollodd bleidleisiau unwaith eto, er dim ond o 1% y tro hwn. Hanerodd y bleidlais Geidwadol a daeth Reform UK yn bedwerydd eithaf cadarn.

 

 

03:49

Dyma ganlyniad llawn Caerfyrddin.

Cynydd o 3.3% yn y bleidlais i Blaid Cymru gyda’r Ceidwadwyr lawr 19.8%. Llafur hefyd lawr fymryn (-1.0) gyda Reform fyn 11.4%.

03:46

Buddugoliaeth fawr i Ann Davies, Plaid Cymru yng Nghaerfyrddin. Bron 5,000 o flaen Llafur a’r Ceidwadwyr, wrth golli eu prif chwip Simon Hart, yn diodde’ cwymp anferth, un o’r mwya’ hyd yma.

03:44

Canlyniad Caerfyrddin – ac mae’n ganlyniad mawr arall arall i Blaid Cymru wrth i Ann Davies gipio’r sedd.

03:42

Jeremy Vine ar y BBC yn darogan y gall yr SNP fod i lawr i 6 sedd – pe bai hyn yn gywir ni fyddai ond 2 yn fwy na Phlaid Cymru (a chymryd y bydd PC yn ennill Caerfyrddin)

03:42

Canlyniad Gorllewin Casnewydd ac Islwyn – Llafur yn dal gafael