Etholiad Cyffredinol 2024 – y canlyniadau

Yr ymateb o Gymru a thu hwnt wrth gyfrif pleidleisiau etholiad San Steffan

Croeso i Blog Byw Etholiad Cyffredinol 2024 golwg360.

Byddwn ni’n dod â’r diweddaraf i chi ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau, gan gynnwys canlyniadau, y diweddaraf o rai o’r canolfannau cyfrif, a’r holl ymateb o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Gydol nos Iau ac oriau mân fore Gwener, bydd criw o ohebwyr, golygyddion, colofnwyr a sylwebwyr yn dod â phigion o bob cyfeiriad ynghyd yma, ac yn cadw golwg ar y sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn ogystal â golygyddion a gohebwyr golwg360, bydd yr academyddion Dr Huw Lewis (Prifysgol Aberystwyth) a Dr Edward Jones (Prifysgol Bangor), colofnwyr golwg360 Huw Prys Jones a Dylan Wyn Williams, sylfaenydd Golwg Dylan Iorwerth, y sylwebydd Elin Roberts, y colofnydd ac awdur Jason Morgan, a mwy yn cynnig dadansoddiadau a sylwebaeth hefyd. A bydd ambell un mewn etholaethau ledled Cymru wrth i ni agosáu at gyhoeddi’r canlyniadau.

Prif benawdau’r etholiad:

  • Llafur wedi ennill mwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol, Keir Stamer ar ei ffordd i Rif 10.
  • Y darlun llawn yng Nghymru – Llafur ar 27 sedd, Plaid Cymru â phedair a’r Democratiaid Rhyddfrydol gydag un.
  • Plaid Cymru wedi cipio Ynys Môn a Chaerfyrddin, a dal gafael ar Ddwyfor Meirionnydd a Cheredigion Preseli.
  • Alun Cairns o’r Ceidwadwyr yn colli sedd Bro Morgannwg i Kanishka Narayan o Lafur
  • Llafur gydag Andrew Ranger yn cipio etholaeth Wrecsam gan Sarah Atherton o’r Ceidwadwyr
  • Canlyniad olaf Cymru – Y Ceidwadwr David TC Davies yn colli’i sedd i Lafur yn Sir Fynwy.
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe gan y Ceidwadwyr. 

Canlyniadau llawn etholaethau unigol Cymru ar waelod ein tudalen Etholiad.

04:36

Mwyafrif enfawr o 15,876 i Liz Saville Roberts wrth i Blaid Cymru gadw gafael ar Ddwyfor Meirionnydd.

Plaid yn cynyddu 8% o’r bleidlais gyda Llafur yn cwympo 8%.

04:33

Llafur yn cadw gafael ar sedd Merthyr Tudful ac Aberdâr

04:32

Jason Morgan

Bydd Llafur ymhell ar y blaen i bob plaid yng Nghymru’n yr etholiad hwn, ac yn ennill llu o seddi, ond dwi’n meddwl bod angen rhoi sylw manwl i ba mor ddifrifol ydi rhai o’r canlyniadau iddi, hyd yn oed yn y seddi mae hi wedi’u cipio. Yn Nwyrain Caerdydd, mae pleidlais Jo Stevens (fydd bron yn sicr yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru) i lawr gan 18% ac mae’r canrannau ledled y wlad yn gorfod bod yn destun siom, mae hi lawr bron ymhobman. Roedd Llanelli’n agos iawn at fod yn ganlyniad trychinebus.

Yn sicr, bydd ambell Aelod o’r Senedd Llafur yn deffro bore ‘ma gydag un llygad ar etholiadau’r Senedd ymhen dwy flynedd, ac efo cryn bryder. Mae’n teimlo bod yna newid wedi bod yng Nghymru nas rhagwelwyd.

04:32

Dau arall aelod arall o Gabinet y Ceidwadwyr wedi colli eu seddi i Lafur – Thérèse Coffey, y cyn-Weinidog Iechyd, yn etholaeth Suffolk Coast a Johnny Mercer, y Gweinidog dros Gyn-Filwyr, yn Plymouth Moor View.

04:27

Llafur wedi cadw Dwyrain Caerdydd, ond cyfran pleidlais Jo Stevens lawr yn sylweddol -18.7%. Y Dems Rhydd (4.9%), Reform (9.2%), Gwyrddion (9.4%) a Phlaid Cymru (8.5%) i gyd yn ennill tir.

04:27

Yr SNP bellach wedi colli 20 o seddau i Lafur. Alex Salmond yn mynegi siom fod chwarter canrif o waith caled i ddisodli Llafur wedi cael ei ddifetha, gan ddadlau fod yr SNP wedi colli eu ffordd, a bod eu strategaeth ar gyfer yr etholiad wedi bod yn ’dwp’.

04:22

Dyma’r canlyniadau llawn o Ceredigion Penfro, ac un boddhaol iawn eto i Blaid Cymru

04:21

Jason Morgan

Wel, doedden ni’n sicr ddim yn disgwyl i Geredigion Preseli fod mor anhygoel o unochrog â hynny. Ben Lake i mewn gyda mwyafrif o bron pymtheg mil, 47% o’r bleidlais a chynnydd o 16% yn eu pleidlais. Canlyniad arbennig o dda i Blaid Cymru, ond ar yr un pryd yn un sobor i Lafur (i lawr 9%) a’r Ceidwadwyr (i lawr 18%). Reform UK heb wneud ei farc yno chwaith, ar 11% a’r pedwerydd safle. Sedd wirioneddol saff.

 

04:20

Buddugoliaeth anferth i Ben Lake a Phlaid Cymru yng Ngheredigion a’r Preseli – mwyafrif o bron 15,000 a chynnydd yn y bleidlais o 16%. Yn nhraddodiad yr etholaeth, mae’n gyfuniad o gefnogi plaid a chefnogi person … er mai’r Democratiaid Rhyddfrydol oedd yn ail, mae’n ymddangos bod eu her wedi diflannu yn yr etholaeth.

04:17

Yn dawel bach, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cael canlyniad da iawn yn Lloegr, yn talu’r pwyth i’r Ceidwadwyr am ‘frad’ 2015 a’r polisi o gimics a chanolbwyntio ar ychydig seddi yn talu. Maen nhw eisoes tros 20 sedd.

Newyddion cymysg i Lafur – cipio Bury St Edmunds o bob man – ond colli sedd Thangam Debbonaire i’r Gwyrddion ym Mryste.