Etholiad Cyffredinol 2024 – y canlyniadau

Yr ymateb o Gymru a thu hwnt wrth gyfrif pleidleisiau etholiad San Steffan

Croeso i Blog Byw Etholiad Cyffredinol 2024 golwg360.

Byddwn ni’n dod â’r diweddaraf i chi ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau, gan gynnwys canlyniadau, y diweddaraf o rai o’r canolfannau cyfrif, a’r holl ymateb o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Gydol nos Iau ac oriau mân fore Gwener, bydd criw o ohebwyr, golygyddion, colofnwyr a sylwebwyr yn dod â phigion o bob cyfeiriad ynghyd yma, ac yn cadw golwg ar y sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn ogystal â golygyddion a gohebwyr golwg360, bydd yr academyddion Dr Huw Lewis (Prifysgol Aberystwyth) a Dr Edward Jones (Prifysgol Bangor), colofnwyr golwg360 Huw Prys Jones a Dylan Wyn Williams, sylfaenydd Golwg Dylan Iorwerth, y sylwebydd Elin Roberts, y colofnydd ac awdur Jason Morgan, a mwy yn cynnig dadansoddiadau a sylwebaeth hefyd. A bydd ambell un mewn etholaethau ledled Cymru wrth i ni agosáu at gyhoeddi’r canlyniadau.

Prif benawdau’r etholiad:

  • Llafur wedi ennill mwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol, Keir Stamer ar ei ffordd i Rif 10.
  • Y darlun llawn yng Nghymru – Llafur ar 27 sedd, Plaid Cymru â phedair a’r Democratiaid Rhyddfrydol gydag un.
  • Plaid Cymru wedi cipio Ynys Môn a Chaerfyrddin, a dal gafael ar Ddwyfor Meirionnydd a Cheredigion Preseli.
  • Alun Cairns o’r Ceidwadwyr yn colli sedd Bro Morgannwg i Kanishka Narayan o Lafur
  • Llafur gydag Andrew Ranger yn cipio etholaeth Wrecsam gan Sarah Atherton o’r Ceidwadwyr
  • Canlyniad olaf Cymru – Y Ceidwadwr David TC Davies yn colli’i sedd i Lafur yn Sir Fynwy.
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe gan y Ceidwadwyr. 

Canlyniadau llawn etholaethau unigol Cymru ar waelod ein tudalen Etholiad.

04:17

Cyhoeddiad Ceredigion Preseli newydd gyrraedd – Ben Lake o Blaid Cymru’n cadw’i sedd yn gyfforddus gyda 21,738 pleidlais. Canlyniad gwych arall i Blaid Cymru gyda chynnydd o 15.8% yn y bleidlais. Y cyn AS, Mark Williams o’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwella rhywfaint ar ei bleidlais i orffen yn ail gyda Llafur yn drydydd o drwch blewin uwchben Reform. 

04:15

Penny Mordaunt, wnaeth ymgeisio am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol ddwywaith yn 2022, yn colli sedd Gogledd Portmouth – eto i’r Blaid Lafur. Er ei bod hi wedi bod â sawl swydd yng nghabinet y Torïaid yn San Steffan, ei rôl ddiwethaf oedd un fel Arweinydd y Tŷ Cyffredin.

04:12

Llafur wedi cadw Alun a Glannau Dyfrdwy

04:09

Canlyniad Gorllewin Caerdydd – Llafur yn cadw’r sedd, ond yn colli 13.5% o’r bleidlais. Canlyniad gwych i Blaid Cymru wrth gynyddu 12.6% o’r bleidlais i orffen yn ail.

04:09

Llafur yn cael eu cosbi eto am ddewis dieithryn yng Ngorllewin Caerdydd a’r enillwyr mawr oedd Plaid Cymru, yn dod yn ail. Un ffactor yn yr etholiad yma ydi fod y myfyrwyr ar eu gwyliau, ond mae gan y Blaid hefyd record o herio Llafur yn y sedd yma.

Mae llwyddiant Plaid Cymru hefyd yn dangos diffyg y polau piniwn Prydeinig ffansi … dydi hi ddim yn ymddangos eu bod nhw’n gallu delio efo amgylchiadau diwyllliannol gwahanol.

04:06

Canlyniad Castell-nedd a Dwyran Abertawe

04:04

Dylan Wyn Williams

‘Da ni angen Daniel Davies a’i fap rhyngweithiol yn ôl, wrth i Gymru droi’n fwyfwy coch a gwyrdd. Fydd ’na felyn yn etholaeth newydd Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe fel mae David Deans o BBC Wales yn awgrymu’n gryf?

04:03

Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, yn darogan y bydd y blaid yn cael ei chanlyniad gorau erioed – mae’n amlwg yn disgwyl ennill Ceredigion a’r Preseli a Dwyfor Meirionnydd. Ennill dwy sedd newydd, meddai, a chodi pleidlais ymhobman.

Ac, ar ol deud nad oedd Reform wedi dod yn agos, mi ddaethon nhw o fewn mil a hanner i ddisodli Nia Griffith, Llafur, yn Llanelli. Ac, o ran canran y bleidlais, mi gafodd Plaid Cymru eu canlyniad gorau ers blynyddoedd yn y sedd.

04:01

Canlyniad Llanelli – Nia Griffiths o Lafur yn cadw’r sedd, ond mae hi’n agos iawn gyda Reform gyda dim ond 1504 pleidlais ynddi. Llafur lawr 8% a Reform fyny 18.7%.

03:56

Dau ganlyniad yn nau ben y wlad – Canol a De Sir Benfro a Gogledd Clwyd – yn dangos effaith Reform. Buddugoliaethau agos i Lafur a cyfanswm y Ceidwadwyr a Reform lawer mwy. Mae yna ogwydd cyson at Reform (roedden nhw’n ail yng Nghastell Nedd) ond heb iddyn nhw ddod yn agos at gipio sedd. Canlyniadau Ewropeaidd bron o ran y dde galed.