Etholiad Cyffredinol 2024 – y canlyniadau

Yr ymateb o Gymru a thu hwnt wrth gyfrif pleidleisiau etholiad San Steffan

Croeso i Blog Byw Etholiad Cyffredinol 2024 golwg360.

Byddwn ni’n dod â’r diweddaraf i chi ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau, gan gynnwys canlyniadau, y diweddaraf o rai o’r canolfannau cyfrif, a’r holl ymateb o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Gydol nos Iau ac oriau mân fore Gwener, bydd criw o ohebwyr, golygyddion, colofnwyr a sylwebwyr yn dod â phigion o bob cyfeiriad ynghyd yma, ac yn cadw golwg ar y sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn ogystal â golygyddion a gohebwyr golwg360, bydd yr academyddion Dr Huw Lewis (Prifysgol Aberystwyth) a Dr Edward Jones (Prifysgol Bangor), colofnwyr golwg360 Huw Prys Jones a Dylan Wyn Williams, sylfaenydd Golwg Dylan Iorwerth, y sylwebydd Elin Roberts, y colofnydd ac awdur Jason Morgan, a mwy yn cynnig dadansoddiadau a sylwebaeth hefyd. A bydd ambell un mewn etholaethau ledled Cymru wrth i ni agosáu at gyhoeddi’r canlyniadau.

Prif benawdau’r etholiad:

  • Llafur wedi ennill mwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol, Keir Stamer ar ei ffordd i Rif 10.
  • Y darlun llawn yng Nghymru – Llafur ar 27 sedd, Plaid Cymru â phedair a’r Democratiaid Rhyddfrydol gydag un.
  • Plaid Cymru wedi cipio Ynys Môn a Chaerfyrddin, a dal gafael ar Ddwyfor Meirionnydd a Cheredigion Preseli.
  • Alun Cairns o’r Ceidwadwyr yn colli sedd Bro Morgannwg i Kanishka Narayan o Lafur
  • Llafur gydag Andrew Ranger yn cipio etholaeth Wrecsam gan Sarah Atherton o’r Ceidwadwyr
  • Canlyniad olaf Cymru – Y Ceidwadwr David TC Davies yn colli’i sedd i Lafur yn Sir Fynwy.
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe gan y Ceidwadwyr. 

Canlyniadau llawn etholaethau unigol Cymru ar waelod ein tudalen Etholiad.

05:11

Wrth dderbyn mai fo fydd y Prif Weinidog nesa’, mi gadarnhaodd Keir Starmer y byddai Llafur yn llywodraethu fel yr ymgyrchodd hi – yn blaid ar newydd wedd. Ac mi ailadroddodd y mantra – gwlad yn gynta’, plaid yn ail,

05:07

Llafur yn dal gafael gref iawn ar sedd Blaenau Gwent a Rhymni, gyda mwyafrif o bron i 13,000 a chynnydd o 3.2% yn eu pleidlais. Niamh Salkeld wedi cynyddu pleidlais Plaid Cymru gan 6.4% hefyd, ac yn curo’r Ceidwadwyr i gyrraedd yr ail safle.

05:04

Starmer

Dylan Wyn Williams

Y Newid

05:04

Llafur wedi croesi’r trothwy o 325 o seddau a chadarnhau eu buddugoliaeth. Araith gan Keith Starmer yn diolch i’w gefnogwyr ac i’w etholwyr.

Yr un pryd, yr arch-Dori Jacob Rees-Mogg wedi colli ei sedd yng Ngwlad yr Haf.

05:03

Efo Llafur wedi croesi’r trothwy seddi, mi fydd peth o’r sylw yn troi at lefel y bleidlais … os bydd yn sylweddol is nag yn 2019, mi fydd yn tynnu rhywfaint oddi ar sglein y fuddugoliaeth trwy’r Deyrnas Unedig. 

O, ia, mae Jacob Rees Mogg, y chwarter Cymro, wedi mynd.

05:03

De Caerdydd a Phenarth – Llafur yn cadw, ond difyr gweld tipyn o gyfran y bleidlais yn symud o Lafur (-9.2%) tuag at y Gwyrddion (+12.2%). Ceidwadwyr yn colli 16.2% a Reform yn cynyddu o 8.7% hefyd.

05:02

Mae’n swyddogol, mae Llafur wedi ennill yr etholiad ac wedi pasio’r trothwy i ennill mwyafrif seddi Tŷ’r Cyffredin. 

05:01

Tueddiad sydd wedi cael ei gadarnhau yn yr etholiad yng Nghymru ac yn Lloegr ydi mai’r dinasoedd ydi cadarnleoedd pleidiau’r chwith bellach, tra bo ardaloedd ôl-ddiwydiannol yn troi fwyfwy i’r dde. O blith etholaethau Caerdydd, daeth Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd yn ail mewn etholaeth yr un, heb Reform yn gwneud fawr o farc. Ar y llaw arall, Reform sy’n ail ym mron pob un o’r hen ardaloedd diwydiannol, gan ddod yn beryglus yn Llanelli, un o’r rhai Cymreiciaf oll ohonynt.

Tro arall ar fyd ydi bod gan Blaid Cymru fwyafrifoedd mwy yn eu cadarnleoedd cryfaf nag oes gan Lafur yn unlle.

04:51

Aberconwy

Cefnogwyr Catrin Wager yn Llandudno

Dylan Wyn Williams

Llafur gipiodd etholaeth Bangor-Aberconwy ac un Gorllewin Caerdydd hefyd (ymwadiad – y naill yn fro fy mebyd a’r llall yn gartre’ mabwysiedig i mi). Ond gall Plaid Cymru fod yn falch IAWN o’r ail safle yn y ddau le. Cafodd Catrin Wager 21.9% o’r bleidlais yn y gogledd (+5.7% o gynnydd), a Kiera Marshall 21.1% yn y de (+12.6% o gynnydd) – gan hwrjio’r Tori i’r trydydd safle a lluchio Reform yn bedwerydd. Roedden nhw’n amlwg wedi creu argraff ar Richard Wyn Jones ar noson dda iawn i PC yn nhermau San Steffan.

Dwy ymgeisydd cryf iawn ar gyfer Etholiadau Senedd Cymru 2026 falle?

04:49

Cyfweliad cyntaf Ben Lake ers cynyddu ei fwyafrif gan 16% i Blaid Cymru yn sedd Ceredigion Preseli gyda aeron360.

“Hynod, hynod o bles,” meddai am noson Blaid Cymru. 

“Fe wnaethon ni gychwyn yr ymgyrch yma yn gobeithio o gipio pedair sedd, i lwyddo i wneud hynny, mae’n arbennig.

“Ond hefyd, cael sawl canlyniad da, wedi dod yn ail mewn nifer o seddi eraill.

“Mae hi wedi bod yn noson dda.”