Ad-drefnu Cabinet Llywodraeth San Steffan

Mae’r Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman wedi’i diswyddo, ond mae llawer iawn mwy o newidiadau i ddod

Ar ôl i’r Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman gael ei diswyddo, mae Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, yn manteisio ar y cyfle i ad-drefnu ei gabinet.

Mae’r Ysgrifennydd Tramor James Cleverly wedi’i benodi i’w holynu, a David Cameron, cyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, sy’n camu i’r swydd honno.

Dilynwch y datblygiadau diweddaraf yma ar golwg360

13:08

Sylwadau tanllyd gan Liz Saville Roberts wrth ymateb i benodiad David Cameron:

“Sut ar wyneb y ddaear mae Rishi Sunak yn amddiffyn y fath sefyllfa ffarsaidd?

“Mae’r ffaith nad oedd teimlad fod yna’r un Tori yn Nhŷ’r Cyffredin, allan o 350 o aelodau seneddol, yn alluog ar gyfer y rôl yn dangos bod y Ceidwadwyr yn methu llywodraethu.

“Dydy camdriniaeth David Cameron o refferendwm Brexit na’i benderfyniad i gefnu ar y llong wrth iddi suddo ddim yn fesur o fod yn alluog chwaith.

“Fydd y penodiad hwn yn gwneud dim byd, felly, i greu hyder yn noethineb Sunak.”

Rishi Sunak

“Ffars”: Ymateb Plaid Cymru wrth i Rishi Sunak ad-drefnu ei Gabinet

Mae David Cameron yn dychwelyd i fod yn Ysgrifennydd Tramor, tra bod ei ragflaenydd James Cleverly yn olynu Suella Braverman yn Ysgrifennydd Cartref

12:54

Mae Therese Coffey wedi gadael ei rôl fel Ysgrifennydd yr Amgylchedd, meddai Downing Street.

12:03

Mae Rishi Sunak bellach wedi dychwelyd i Downing Street, ond fe ddown ni â’r diweddaraf i chi os daw rhagor o ddatblygiadau.

11:13

Gweinidog arall sydd wedi gadael yw Jesse Norman (Trafnidiaeth)

11:07

Ar ôl gadael Radio Wales yn sgil ei negeseuon gwleidyddol ar X (Twitter gynt), mae Carol Vorderman wedi bod yn dweud ei dweud am y sefyllfa.

“Doedd gan Suella Braverman ddim cywilydd,” meddai.

“Ac rŵan mae hi wedi’i diswyddo, rydym yn mynd i mewn i gyfnod newydd o gythrwfl gan Brif Weinidog anetholedig a’i gabál o blaid.”

10:53

Dydy David Cameron ddim wedi bod yn Aelod Seneddol ers 2016, ar ôl iddo fe ymddiswyddo tros helynt Brexit. Fe alwodd y refferendwm, gan ymgyrchu o blaid aros.

Ond daw ei benodiad diweddaraf ar ôl iddo fe gael sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi am weddill ei oes.

10:53

Mae’n werth edrych eto ar sylwadau Suella Braverman ddoe. 

“Mae’r siantio, placardiau a pharaffernalia ffiaidd, ymfflamychol ac mewn rhai achosion troseddol oedd yn cael eu harddangos yn yr orymdaith yn nodi isafbwynt newydd.

“Mae gwrth-Semitiaeth a ffurfiau eraill ar hiliaeth, ynghyd â rhoi gwerth ar frawychiaeth ar y fath raddfa’n drafferthus dros ben.

“All hyn ddim parhau. Bob wythnos, mae strydoedd Llundain yn cael eu llygru gan gasineb, trais a gwrth-Semitiaeth. 

“Mae aelodau’r cyhoedd yn cael eu pledu a’u bygwth. Mae pobol Iddewig yn benodol yn teimlo dan fygythiad.

“Mae gweithredu pellach yn angenrheidiol.”

10:45

Rhagor gan Chris Bryant fan hyn am benodiad David Cameron:

“Dw i ddim yn gweld sut mae penodi Cameron yn helpu Sunak i ffurfio llywodraeth o onestrwydd a phroffesiynoldeb (Greensill) nac yn cynrychioli newid (pan fo’i Ysgrifennydd Tramor yn ymgorfforiad byw o’u 13 mlynedd mewn grym).

10:34

Mae cyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, David Cameron, wedi ymateb i’w benodiad fel Ysgrifennydd Tramor gan ddweud ein bod yn wynebu “cyfres frawychus o heriau rhyngwladol” a bydd yn “fraint gwasanaethu’r wlad”.

“Rydym yn wynebu cyfres frawychus o heriau rhyngwladol, gan gynnwys y rhyfel yn Wcrain a’r argyfwng yn y Dwyrain Canol.

“Ar yr adeg hon o newid byd-eang dwys, yn anaml y bu’n bwysicach i’r wlad hon sefyll wrth ein cynghreiriaid, cryfhau ein partneriaethau a sicrhau bod ein llais yn cael ei glywed.

“Er fy mod wedi bod allan o wleidyddiaeth rheng flaen am y saith mlynedd diwethaf, rwy’n gobeithio y bydd fy mhrofiad – fel Arweinydd y Ceidwadwyr am 11 mlynedd a Phrif Weinidog am chwech – yn fy helpu i helpu’r Prif Weinidog i ymateb i’r heriau hyn.

“Er efallai fy mod wedi anghytuno â rhai penderfyniadau unigol, mae’n amlwg i mi fod Rishi Sunak yn Brif Weinidog cryf a galluog, sy’n dangos arweinyddiaeth ragorol ar adeg anodd.

“Rwyf am ei helpu i sicrhau’r diogelwch a’r ffyniant sydd ei angen ar ein gwlad a bod yn rhan o’r tîm cryfaf posibl sy’n gwasanaethu’r Deyrnas Unedig a gellir cyflwyno hynny i’r wlad pan gynhelir yr Etholiad Cyffredinol.

“Bydd yn anrhydedd gwasanaethu ein gwlad ochr yn ochr â’n staff ymroddedig FCDO a darparu’r arweinyddiaeth a’r gefnogaeth barhaus y maent yn eu haeddu.”

10:32

Mae cyn-Brif Weinidog arall, Theresa May, wedi croesawu penodiad David Cameron.

“Llongyfarchiadau i @David_Cameron ar ddychwelyd i’r llywodraeth,” meddai Theresa May.

“Bydd ei brofiad helaeth ar y llwyfan rhyngwladol yn amhrisiadwy ar yr adeg hon o ansicrwydd mawr yn ein byd.

“Gan edrych ymlaen at gydweithio eto!”