Ad-drefnu Cabinet Llywodraeth San Steffan

Mae’r Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman wedi’i diswyddo, ond mae llawer iawn mwy o newidiadau i ddod

Ar ôl i’r Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman gael ei diswyddo, mae Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, yn manteisio ar y cyfle i ad-drefnu ei gabinet.

Mae’r Ysgrifennydd Tramor James Cleverly wedi’i benodi i’w holynu, a David Cameron, cyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, sy’n camu i’r swydd honno.

Dilynwch y datblygiadau diweddaraf yma ar golwg360

10:19

Yn ôl Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, “mae a wnelo diswyddiad Braverman gymaint â diffyg arweiniad y Prif Weinidog â chyfnod trychinebus yr Ysgrifennydd Cartref o chwythu chwiban ci”.

“Cabinet Ceidwadol arall o anhrefn, ac atgof arall fod yna ffordd well i Gymru,” meddai.

10:19

“Suella wedi’i diswyddo – beth gymerodd mor hir?” oedd cwestiwn Kevin Brennan, Aelod Seneddol Llafur dros Orllewin Caerdydd wrth i’r newyddion dorri.

 

10:13

Dyma ragor o wybodaeth am y penderfyniad i ddiswyddo Suella Braverman, sydd wedi bod dan bwysau ers ei sylwadau tanllyd am Balesteina.

Suella Braverman wedi’i diswyddo: “Beth gymerodd mor hir?”

Gwleidyddion yng Nghymru yn ymateb i ddiswyddiad Ysgrifennydd Cartref San Steffan