Agweddau at hunan-lywodraeth
Cafodd pleidiau sy’n cefnogi amrywiol raddau o hunan-lywodraeth i Gymru – Llafur, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Gwyrddion – gefnogaeth mwy na dau o bob tri o etholwyr Cymru. Cafodd y Torïaid – sy’n gwrthwynebu mwy o rym i Gymru ond sy’n derbyn bodolaeth y senedd (ar hyn o bryd beth bynnag) – gefnogaeth y mwyafrif llethol o’r gweddill.
Methiant llwyr oedd ymgais yr amrywiaeth brith o genedlaetholwyr Seisnig fel Abolish i wneud unrhyw argraff. Mae hyn er gwaethaf polau piniwn yn awgrymu y byddai lleiafrif nid ansylweddol yn cefnogi diddymu Senedd Cymru. Ond os yw hyn yn wir, mae’n ymddangos nad ydyn nhw’n teimlo’n ddigon cryf ynglyn â’r peth i gefnogi pleidiau’r ymylon.
Mae canlyniadau’r etholiad yn codi cwestiynau hefyd am ganlyniadau polau piniwn diweddar sy’n awgrymu bod hyd at 35% yn cefnogi i annibyniaeth i Gymru. Neu o leiaf gwestiynau beth yn hollol mae llawer o’r bobl hyn yn ei olygu gydag annibyniaeth.
Tybed a oedd cyfran helaeth o’r bobl sy’n dweud eu bod yn cefnogi annibyniaeth yn ddigon bodlon gyda’r graddau cyfyngedig o annibyniaeth mae Llafur yn sefyll drosto?
Mae’r canlyniadau’n awgrymu bod y gefnogaeth i’r math o annibyniaeth mae Plaid Cymru ei eisiau yn llawer is. Mae’n ddigon posibl fod yr hyn roedd pôl piniwn aml-ddewisiadau blynyddol y BBC yn ei ddangos fel cefnogaeth i annibyniaeth – sef tua 17% – yn ddarlun cywirach o’r sefyllfa.
Plaid Cymru ac annibyniaeth
Roedd o leiaf ddau bôl piniwn yn yr ymgyrch ei hun dros y pythefnos ddiwethaf yn dangos llawer mwy o bobl yn cefnogi annibyniaeth i Gymru nag oedd yn bwriadu pleidleisio dros Blaid Cymru.
Unwaith eto, mae’n dibynnu beth oedd y bobl hyn yn ei olygu gydag annibyniaeth a pha mor gryf roedden nhw’n teimlo ynglyn â hynny.
Mae’n rhesymol credu bod mwyafrif llethol cefnogwyr pybyr annibyniaeth yn gadarn yng nghorlan Plaid Cymru. Ond faint a wnaeth y Blaid mewn gwirionedd i ddenu cefnogwyr meddalach annibyniaeth yn yr etholiad hwn?
I fod yn gwbl onest, doedd gan Blaid Cymru ddim cymaint â hynny i’w ddweud ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru yn yr etholiad. Roedd eu neges ar y pwnc wedi ei chyfyngu i raddau helaeth i ymrwymiad i gynnal refferendwm ar annibyniaeth pe bai’n ffurfio llywodraeth.
Hyd yn oed pe bai rhywun yn meddwl y byddai refferendwm ie/na o’r fath yn syniad da, roedd yn addewid cwbl academaidd, oherwydd roedd pawb yn gwybod na fyddai Plaid Cymru’n ffurfio llywodraeth.
A doedd y polisi hwn chwaith yn ddim ond yn rhywbeth a oedd yn cael ei led-guddio ar waelod y rhestrau ystrydebol arferol o addewidion am fwy o feddygon, nyrsys ac athrawon.
Yn wyneb y bygythiad i bwerau senedd Cymru o du llywodraeth Boris Johnson, byddai’n rhesymol disgwyl i blaid genedlaethol gynnig mwy o atebion ymarferol ar sut i’w wrthsefyll. A cheisio cytundeb eang ar uchafswm y graddau o hunan-lywodraeth a fyddai’n gallu denu cefnogaeth mwyafrif o bobl Cymru ar hyn o bryd.
Go brin fod Plaid Cymru wedi cyfrannu rhyw lawer at y drafodaeth holl bwysig honno yn yr etholiad.