Etholiad Senedd 2021 – dydd Sadwrn

Yr holl ymateb i ganlyniadau etholiad y Senedd

Llywodraeth Cymru/Golwg

Canlyniadau’r ddau ranbarth olaf ddydd Sadwrn…

  • Llafur yw’r blaid fwyaf gyda 30 o seddi.
  • Y Ceidwadwyr wedi cipio Dyffryn Clwyd a Brycheiniog a Sir Faesyfed.
  • Plaid Cymru yn colli’r Rhondda, ac yn methu ail sedd rhanbarth yn y Gogledd o drwch blewyn.
  • Democratiaid Rhyddfrydol yn llwyddo i ennill un sedd ar restr Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Edrychwch yn ôl dros ddiweddariadau dydd Gwener.

12:43

Delyth Jewell (Plaid Cymru), Laura Anne Jones (Ceidwadwyr), Natasha Asghar (Ceidwadwyr) a Peredur Owen Griffiths (Plaid Cymru) yn cael eu hethol yn rhanbarth Dwyrain De Cymru.

12:40

Rhagor o amwyster

Yn sgil ei sylwadau amwys ar S4C, daeth rhagor o sylwadau tebyg gan Jane Dodds yn siarad ar raglen fyw y BBC.

Dywedodd ei bod hi’n “bendant ddim yn mynd i gael cynnig swydd weinidogol” gan dynnu sylw at ei diffyg profiad yn y Senedd.

Ac ategodd ei bod ond eisiau gwneud yn siŵr eu bod yn “delifro gwerthoedd rhyddfrydol” ac yn sicrhau bod polisïau ei phlaid yn cael eu gwireddu.

Mae hi’n agored i weithio “ag unrhyw un” ar lefel trawsbleidiol, meddai, ond hoffai ddylanwadu ar y Blaid Lafur yn bennaf.

12:31

Richard Wyn Jones yn dweud bod hi’n “anodd iawn gweld” y Democraitiaid Rhyddfrydol yn “ailgodi” yn y Canolbarth gan fod y “traddodiad, y gwaddol” yno “wedi mynd ar chwal”.

Dywedodd bod yr un yn wir yng Nghanol Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd…

“Be ma nhw’n ychwanegu at y drafodaeth nad oes ’na neb arall yn ei wneud?” meddai.

Tipyn i’r Democratiaid fyfyrio yn ei gylch ar fore b’nawn Sadwrn gwlyb.

12:24

Jane Dodds newydd ddweud wrth S4C na fydd hi “fyth, byth yn cytuno efo clymblaid eto” a bod angen i’w phlaid “edrych ar beth sydd orau i bobol dros Gymru” ac “edrych i weld be sy’ am ddigwydd”.

Dywedodd ei bod wedi clywed bod Llafur eisiau “symud ymlaen yn gyflym i gael pethau yn eu lle”.

Dywedodd “cawn ni weld” a’i bod “yn gynnar iawn” ond ategodd… “dim clymblaid o gwbwl, dwi’n sicr o hynny.”

Felly dim clymblaid, ond “cawn ni weld”.

12:03

Agweddau at hunan-lywodraeth

Cafodd pleidiau sy’n cefnogi amrywiol raddau o hunan-lywodraeth i Gymru – Llafur, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Gwyrddion – gefnogaeth mwy na dau o bob tri o etholwyr Cymru. Cafodd y Torïaid – sy’n gwrthwynebu mwy o rym i Gymru ond sy’n derbyn bodolaeth y senedd (ar hyn o bryd beth bynnag) – gefnogaeth y mwyafrif llethol o’r gweddill.

Methiant llwyr oedd ymgais yr amrywiaeth brith o genedlaetholwyr Seisnig fel Abolish i wneud unrhyw argraff. Mae hyn er gwaethaf polau piniwn yn awgrymu y byddai lleiafrif nid ansylweddol yn cefnogi diddymu Senedd Cymru. Ond os yw hyn yn wir, mae’n ymddangos nad ydyn nhw’n teimlo’n ddigon cryf ynglyn â’r peth i gefnogi pleidiau’r ymylon.

Mae canlyniadau’r etholiad yn codi cwestiynau hefyd am ganlyniadau polau piniwn diweddar sy’n awgrymu bod hyd at 35% yn cefnogi i annibyniaeth i Gymru. Neu o leiaf gwestiynau beth yn hollol mae llawer o’r bobl hyn yn ei olygu gydag annibyniaeth.

Tybed a oedd cyfran helaeth o’r bobl sy’n dweud eu bod yn cefnogi annibyniaeth yn ddigon bodlon gyda’r graddau cyfyngedig o annibyniaeth mae Llafur yn sefyll drosto?

Mae’r canlyniadau’n awgrymu bod y gefnogaeth i’r math o annibyniaeth mae Plaid Cymru ei eisiau yn llawer is. Mae’n ddigon posibl fod yr hyn roedd pôl piniwn aml-ddewisiadau blynyddol y BBC yn ei ddangos fel cefnogaeth i annibyniaeth – sef tua 17% – yn ddarlun cywirach o’r sefyllfa.

Plaid Cymru ac annibyniaeth

Roedd o leiaf ddau bôl piniwn yn yr ymgyrch ei hun dros y pythefnos ddiwethaf yn dangos llawer mwy o bobl yn cefnogi annibyniaeth i Gymru nag oedd yn bwriadu pleidleisio dros Blaid Cymru.

Unwaith eto, mae’n dibynnu beth oedd y bobl hyn yn ei olygu gydag annibyniaeth a pha mor gryf roedden nhw’n teimlo ynglyn â hynny.

Mae’n rhesymol credu bod mwyafrif llethol cefnogwyr pybyr annibyniaeth yn gadarn yng nghorlan Plaid Cymru. Ond faint a wnaeth y Blaid mewn gwirionedd i ddenu cefnogwyr meddalach annibyniaeth yn yr etholiad hwn?

I fod yn gwbl onest, doedd gan Blaid Cymru ddim cymaint â hynny i’w ddweud ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru yn yr etholiad. Roedd eu neges ar y pwnc wedi ei chyfyngu i raddau helaeth i ymrwymiad i gynnal refferendwm ar annibyniaeth pe bai’n ffurfio llywodraeth.

Hyd yn oed pe bai rhywun yn meddwl y byddai refferendwm ie/na o’r fath yn syniad da, roedd yn addewid cwbl academaidd, oherwydd roedd pawb yn gwybod na fyddai Plaid Cymru’n ffurfio llywodraeth.

A doedd y polisi hwn chwaith yn ddim ond yn rhywbeth a oedd yn cael ei led-guddio ar waelod y rhestrau ystrydebol arferol o addewidion am fwy o feddygon, nyrsys ac athrawon.

Yn wyneb y bygythiad i bwerau senedd Cymru o du llywodraeth Boris Johnson, byddai’n rhesymol disgwyl i blaid genedlaethol gynnig mwy o atebion ymarferol ar sut i’w wrthsefyll. A cheisio cytundeb eang ar uchafswm y graddau o hunan-lywodraeth a fyddai’n gallu denu cefnogaeth mwyafrif o bobl Cymru ar hyn o bryd.

Go brin fod Plaid Cymru wedi cyfrannu rhyw lawer at y drafodaeth holl bwysig honno yn yr etholiad.

12:01

Mathemateg heddiw… syml!

Gyda Llafur yn ennill nifer fawr o seddi etholaeth yn y De Ddwyrain a Chanol De Cymru mae mathemateg heddiw yn eitha syml.

Yn Nghanol De Cymru, er mwyn ennill dwy sedd, mae angen i Blaid Cymru a’r Ceidwadwyr fod oddi fewn i 50% i’w gilydd ac mae angen i’w cyfansymiau fod o leiaf dwyfaint maint y pleidiau llai. Rwy’n tybio fod hynny’n debygol ac felly y gwelwn 2 sedd yr un.

Yn y De Ddwyrain saith sedd sydd gan Lafur ac un gan y Ceidwadwyr. Yma mae angen i Blaid Cymru gael o leiaf hanner pledileisiau’r Ceidwadwyr ac eto o leiaf dwbl y pleidiau llai. I’r Ceidwadwyr mae angen arnynt o leiaf tair gwaith pleidleisiau y pleidiau llai. Yn y ddau achos rwy’n barnu fod hyn yn debygol ac felly y gwelwn 2 sedd yr un.

OND, mi wyddwn fod pobl yn rhannu pleidleisiau ac felly fe all pethau fynd fel arall – mae’r mathemateg yn glir serch hynny.

11:57

Pam fod y polau piniwn yn anghywir yn achos Cymru?

Mi fydd angen dadansoddiadau manwl i wybod i sicrwydd ond dyma bosibilrwydd neu ddau…

A ydi’r holwyr yn llwyddo i adnabod y rhai sydd o ddifri yn mynd i bleidleisio yn etholiadau Cymru? Mae yna 20% a mwy o bleidleiswyr etholiadau cyffredinol yn cadw draw o etholiadau’r Senedd ac mae’n bosib iawn y byddai’r rheiny’n ffitio’n well i batrymau pleidleisio Lloegr.

A bod yn deg a threfnwyr yr arolygon, falle fod pobol wedi newid eu barn … wrth i’r etholiad go iawn nesu, efallai eu bod wedi penderfynu chwarae’n saff ac osgoi newid ar adeg mor anodd.

Mae tystiolaeth ledled Prydain yn awgrymu bod pobol wedi ffafrio’r rhai sydd mewn grym.

11:49

Bore o lawenhau

Trannoeth diwrnod y cyfri (yr un cyntaf, ta beth), mae’r ymgeiswyr llwyddiannus yn dal i fod yn hynod falch â’u buddugoliaethau.

Mae Peter Fox, a enillodd yn Sir Fynwy, wrth ei fodd, tra bod Lee Waters, y person cyntaf i ennill yn Llanelli mewn dau etholiad yn olynol, ddim cweit yn gallu credu’r peth…

11:49

Os oes gan Blaid Cymru benbleth, mae gan Lafur Prydain un llawer mwy.

Pam maen nhw’n dal i lwyddo i ennill yng Nghymru ond yn colli’n drwm mewn ardaloedd sy’n arwynebol/economaidd debyg yng ngogledd-ddwyrain Lloegr?

Rhyw fath o genedlaetholdeb Seisnig ydi rhan o’r ateb a’r ffaith eu bod yn cael eu gweld yn cwyno am bopeth yn hytrach na chynnig gobaith.

Dydi pobol ddim yn poeni am bapur wal aur; mi fyddai llawer yn eitha’ licio cael hynny’u hunain!

11:44

Wrth ymddiswyddo yn mis Ionawr 2019, mi rybuddiodd y dyn a ddaeth o fewn dim i gipio sedd Blaenau Gwent yn 2016 nad oedd Plaid Cymru o ddifri ynghylch ennill seddi fel honno.

Mi ddywedodd Nigel Copner hefyd fod angen cryfhau Cymru yn economaidd cyn dechrau gwthio am annibyniaeth. O gofio beirniadaeth am ddiffyg trefn a diffyg ymgyrchu effeithiol mewn seddi allweddol, faint o’r feirniadaeth sy’n wir yng nghyd-destun dydd Iau?