Ers rhyw fis bellach rwy’ wedi myfyrio wrth ffrindiau – fydden ni ond yn gwybod be’ sy’n digwydd go iawn pan mae’r blychau yn cael eu hagor. Pam felly?
Rwy’ wedi casglu ers tro fod cyfuniad o deimladau gan etholwyr yng Nghymru ar hyn o bryd – diolchgarwch a pharch am y gwaith aruthrol mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi ei wneud gydol y pandemig, ond rhyw awydd i Lywodraeth Cymru a’r Senedd fod yn fwy deinamig.
Roedd hi’n anodd darogan sut byddai etholwr gyda theimladau o’r fath yn pleidleisio – ond daeth yr ateb yn glir iawn ddoe – i Lafur, a hynny yn eu miloedd.
Gall Mark Drakeford felly fod yn eithriadol o falch fod ei waith dros y flwyddyn ddiwethaf wedi dwyn ffrwyth, ac mae ganddo gyfle nawr i wireddu amcanion yn y Senedd heb boeni’n ormodol am fanylion pleidleisiau unigol, tra hefyd yn gwybod fod uwch-fwyafrif (2/3) ganddo hefyd am newidiadau pellach i niferoedd aelodau a’r sustem bleidleisio os taw dyna yw ei ddymuniad.
Siom
O ran Andrew RT Davies, er gwaetha’r cynnydd rwy’n tybio taw siom fydd yr emosiwn fwyaf i’r gleision bore ma.
Gyda Boris Johnson yn parhau i ennill etholiadau yn hawdd yn Lloegr, a pholisïau clir fel adeiladu M4 newydd wedi eu cynnig i’r pleidleiswyr; prin oedd y llwyddiannau.
Do, fe gymerwyd Dyffryn Clwyd a Brycheiniog a Maesyfed – ond go brin fod hyn y fath o gam mawr ymlaen y disgwylid yn dilyn canlyniadau ardderchog y Ceidwadwyr yn etholiad cyffredinol 2019.
Os taw siom yw ymateb y Ceidwadwyr, rwy’n tybio taw siomedig iawn fydd cefnogwyr Plaid Cymru bore ma. Er gwaetha’ gobeithion uchel y Blaid a borthwyd gan dim Adam Price, bu’r canlyniadau’r Blaid yn wan.
Fe’u curwyd ym mhob sedd targed – a hynny o bellter mawr yn y rhan fwyaf o achosion a bydd colli’r Rhondda yn ergyd seicolegol fawr.
Mae mathemateg y sefyllfa yn cynnig un mantais mawr i Blaid Cymru serch hynny – amser! Gyda Llafur yn bur sicr o lywodraethu ar ei phen ei hun, a’r Ceidwadwyr yn brif wrthblaid mae’r Blaid yn gallu pwyllo a chymryd amser i ystyried y canlyniadau a sut i (ail)adeiladu tuag at y dyfodol.
Rhyddhad
Y blaid, efallai, sy’n teimlo’r rhyddhad mwyaf yw’r Democratiaid Rhyddfrydol. Drwy gydol y dydd ddoe wrth i ganlyniadau etholaethol bentyrru roedd hi’n ymddangos yn bosibiliad real iawn y gallai’r blaid golli ei hunig gynrychiolaeth seneddol yng Nghymru – canlyniad a fyddai wedi codi cwestiynau difrifol am ddyfodol y blaid a fu unwaith yn tra-arglwyddiaethu gwleidyddiaeth etholiadol Cymru.
Ond, gyda’r cloc yn agosau at ganol nos, daeth y newydd fod Jane Dodds wedi llwyddo o drwch blewyn i ennill y sedd olaf oedd ar gael yn y Canolbarth a’r Gorllewin.
O ran y pleidiau llai mae Abolish wedi tan berfformio yr hyn a awgrymwyd mewn arolygon (a’r sylw a roddwyd iddynt gan y cyfryngau) – i’r fath raddau mae’n aneglur faint o momentwm fydd yn cynnal y blaid honno.
Gwnaeth y Gwyrddion gynnydd ond tybed oedd eu methiant i gynnig ymgeiswyr yn y rhan fwyaf o etholaethau yn rhan o’r esboniad pam y maent heb gipio sedd (ac yn anhebygol iawn o wneud bellach).