Etholiad Senedd 2021 – dydd Sadwrn

Yr holl ymateb i ganlyniadau etholiad y Senedd

Llywodraeth Cymru/Golwg

Canlyniadau’r ddau ranbarth olaf ddydd Sadwrn…

  • Llafur yw’r blaid fwyaf gyda 30 o seddi.
  • Y Ceidwadwyr wedi cipio Dyffryn Clwyd a Brycheiniog a Sir Faesyfed.
  • Plaid Cymru yn colli’r Rhondda, ac yn methu ail sedd rhanbarth yn y Gogledd o drwch blewyn.
  • Democratiaid Rhyddfrydol yn llwyddo i ennill un sedd ar restr Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Edrychwch yn ôl dros ddiweddariadau dydd Gwener.

11:49

Os oes gan Blaid Cymru benbleth, mae gan Lafur Prydain un llawer mwy.

Pam maen nhw’n dal i lwyddo i ennill yng Nghymru ond yn colli’n drwm mewn ardaloedd sy’n arwynebol/economaidd debyg yng ngogledd-ddwyrain Lloegr?

Rhyw fath o genedlaetholdeb Seisnig ydi rhan o’r ateb a’r ffaith eu bod yn cael eu gweld yn cwyno am bopeth yn hytrach na chynnig gobaith.

Dydi pobol ddim yn poeni am bapur wal aur; mi fyddai llawer yn eitha’ licio cael hynny’u hunain!

11:44

Wrth ymddiswyddo yn mis Ionawr 2019, mi rybuddiodd y dyn a ddaeth o fewn dim i gipio sedd Blaenau Gwent yn 2016 nad oedd Plaid Cymru o ddifri ynghylch ennill seddi fel honno.

Mi ddywedodd Nigel Copner hefyd fod angen cryfhau Cymru yn economaidd cyn dechrau gwthio am annibyniaeth. O gofio beirniadaeth am ddiffyg trefn a diffyg ymgyrchu effeithiol mewn seddi allweddol, faint o’r feirniadaeth sy’n wir yng nghyd-destun dydd Iau?

11:40

Ers rhyw fis bellach rwy’ wedi myfyrio wrth ffrindiau – fydden ni ond yn gwybod be’ sy’n digwydd go iawn pan mae’r blychau yn cael eu hagor. Pam felly?

Rwy’ wedi casglu ers tro fod cyfuniad o deimladau gan etholwyr yng Nghymru ar hyn o bryd – diolchgarwch a pharch am y gwaith aruthrol mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi ei wneud gydol y pandemig, ond rhyw awydd i Lywodraeth Cymru a’r Senedd fod yn fwy deinamig.

Roedd hi’n anodd darogan sut byddai etholwr gyda theimladau o’r fath yn pleidleisio – ond daeth yr ateb yn glir iawn ddoe – i Lafur, a hynny yn eu miloedd.

Gall Mark Drakeford felly fod yn eithriadol o falch fod ei waith dros y flwyddyn ddiwethaf wedi dwyn ffrwyth, ac mae ganddo gyfle nawr i wireddu amcanion yn y Senedd heb boeni’n ormodol am fanylion pleidleisiau unigol, tra hefyd yn gwybod fod uwch-fwyafrif (2/3) ganddo hefyd am newidiadau pellach i niferoedd aelodau a’r sustem bleidleisio os taw dyna yw ei ddymuniad.

Siom

O ran Andrew RT Davies, er gwaetha’r cynnydd rwy’n tybio taw siom fydd yr emosiwn fwyaf i’r gleision bore ma.

Gyda Boris Johnson yn parhau i ennill etholiadau yn hawdd yn Lloegr, a pholisïau clir fel adeiladu M4 newydd wedi eu cynnig i’r pleidleiswyr; prin oedd y llwyddiannau.

Do, fe gymerwyd Dyffryn Clwyd a Brycheiniog a Maesyfed – ond go brin fod hyn y fath o gam mawr ymlaen y disgwylid yn dilyn canlyniadau ardderchog y Ceidwadwyr yn etholiad cyffredinol 2019.

Os taw siom yw ymateb y Ceidwadwyr, rwy’n tybio taw siomedig iawn fydd cefnogwyr Plaid Cymru bore ma. Er gwaetha’ gobeithion uchel y Blaid a borthwyd gan dim Adam Price, bu’r canlyniadau’r Blaid yn wan.

Fe’u curwyd ym mhob sedd targed – a hynny o bellter mawr yn y rhan fwyaf o achosion a bydd colli’r Rhondda yn ergyd seicolegol fawr.

Mae mathemateg y sefyllfa yn cynnig un mantais mawr i Blaid Cymru serch hynny – amser! Gyda Llafur yn bur sicr o lywodraethu ar ei phen ei hun, a’r Ceidwadwyr yn brif wrthblaid mae’r Blaid yn gallu pwyllo a chymryd amser i ystyried y canlyniadau a sut i (ail)adeiladu tuag at y dyfodol.

Rhyddhad

Y blaid, efallai, sy’n teimlo’r rhyddhad mwyaf yw’r Democratiaid Rhyddfrydol. Drwy gydol y dydd ddoe wrth i ganlyniadau etholaethol bentyrru roedd hi’n ymddangos yn bosibiliad real iawn y gallai’r blaid golli ei hunig gynrychiolaeth seneddol yng Nghymru – canlyniad a fyddai wedi codi cwestiynau difrifol am ddyfodol y blaid a fu unwaith yn tra-arglwyddiaethu gwleidyddiaeth etholiadol Cymru.

Ond, gyda’r cloc yn agosau at ganol nos, daeth y newydd fod Jane Dodds wedi llwyddo o drwch blewyn i ennill y sedd olaf oedd ar gael yn y Canolbarth a’r Gorllewin.

O ran y pleidiau llai mae Abolish wedi tan berfformio yr hyn a awgrymwyd mewn arolygon (a’r sylw a roddwyd iddynt gan y cyfryngau) – i’r fath raddau mae’n aneglur faint o momentwm fydd yn cynnal y blaid honno.

Gwnaeth y Gwyrddion gynnydd ond tybed oedd eu methiant i gynnig ymgeiswyr yn y rhan fwyaf o etholaethau yn rhan o’r esboniad pam y maent heb gipio sedd (ac yn anhebygol iawn o wneud bellach).

11:38

Prif neges yr etholiad?

Mae’r canlyniadau’n awgrymu bod mwyafrif o’r pleidleiswyr yn cymeradwyo ffordd Llywodraeth Cymru o ymateb i’r pandemig.

Roedd hyn yn fwy na dim ond rhyw fath o ymateb greddfol i gefnogi llywodraeth mewn adeg o argyfwng, fel sydd wedi cael ei awgrymu mewn mwy nag un lle. Fe wnaeth y Torïaid seilio’u hymgyrch i raddau helaeth yn beirniadu’r Llywodraeth Cymru am weithredu ar eu pen eu hunain, gan alw ar i’r penderfyniadau fod yr un fath trwy Brydain.

Er bod lleiafrif sylweddol o bobl Cymru yn cytuno â’r safbwynt hwn, roedd llawer mwy yn dewis dangos eu cefnogaeth i’r hyn a wnaeth Llywodraeth Cymru.

Yn ogystal â dangos mwy o ffydd yn ffordd Llywodraeth Cymru o ymdrin ag argyfwng iechyd cyhoeddus, mae trwch helaeth o etholwyr Cymru wedi cymeradwyo’r egwyddor y dylai Cymru gael ei thrin fel uned ar wahân pan fo gofyn am hynny.

11:32

‘Y Senedd’ yw’r enw!

Mae’r darlledwr, Huw Edwards, wedi ennill enw i’w hun am sefyll cornel Cymru a’r iaith ar gyfryngau cymdeithasol, a fore heddiw mae’r Senedd wedi ennyn ei sylw.

Mae pennawd diweddar gan bapur The Times yn cyfeirio at Senedd Cymru â’i hen enw – Cynulliad Cymru. Ac yn amlwg dyw Huw ddim yn rhy hapus am hynny…

11:22

“What are the Dodds?”

Y cwestiwn mawr o’n blaenau yn awr yw sut olwg fydd ar Lywodraeth nesa’ Cymru?

Oni bai bod Llafur Cymru yn llwyddo ennill sedd ranbarthol arall (sy’n hynod annhebygol) mae’n edrych yn bur debyg mai dau opsiwn sydd: Llywodraethu yn blaid fwyaf ond heb fwyafrif llawn, neu daro rhyw fath o fargen â Jane Dodds, yr unig AoS Democratiaid Rhyddfrydol (hyd yma ta beth).

A dyfynnu Garmon: “What are the Dodds?!”. Wel, wedi tymor cyfan o gydweithio rhwng Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol (roedd Kirsty Williams, cyn-AoS o’r felynblaid, yn Weinidog Addysg) nid yw’n anodd dychmygu cytundeb o ryw fath rhwng y ddwy blaid.

11:14

Mae sedd y Canolbarth a’r Gorllewin wedi rhyw fath o achub y Democratiaid Rhyddfrydol ac wedi rhoi ateb hawdd i Mark Drakeford wrth iddo fo chwilio am lywodraeth sefydlog.

Jane Dodds i mewn yn lle Kirsty Williams. Y cwestiwn nesa: i ba raddau y bydd y Prif Weinidog yn gweld yr angen i gydweithio ymhellach na hynny, yn enwedig mewn rhai meysydd?

11:11

Y ffin denau rhwng ennill a cholli

O’r cychwyn rydym wedi gwybod fod mathemateg y seddi rhestr yn gallu bod yn heriol ac arwain at ornestau agos iawn. Gwelson ni yn union hynny gyda chanlyniadau’r Gogledd a’r Canolbarth.

Yn y Canolbarth rhyw 500 pleidlais yn unig ar draws yr holl ranbarth oedd mantais Jane Dodds dros Lafur am y sedd olaf un.

Ond os oedd hynny’n agos, trwch asgell gwybedyn yn unig – neu a bod yn fanwl gywir 21 pleidlais – oedd rhwng Carrie Harper o Blaid Cymru a’r Ceidwadwr Sam Rowlands. Rowlands a orfu ond ar draws rhanbarth enfawr y Gogledd mae hynny mor, mor agos.

11:03

Dyma ni – ail ddiwrnod y cyfri. Dim ond dau ranbarth sydd ar ôl, ond mae’n bosib neith hi gymryd sbel cyn y gewn ni’r canlyniadau.

Roedd dyfalu yn wreiddiol y byddai canlyniadau Canol De Cymru a Dwyrain De Cymru yn cyrraedd yn reit handi, ond dyw hynny ddim yn swnio mor debygol mwyach.

Mae golwg360 ar ddeall bod disgwyl canlyniad Canol De Cymru tua 1.00/2.00 y prynhawn. Ond does dim sicrwydd am hynny, ac mi all gymryd tipyn yn hirach.

11:02

So beth sydd ar ol heddi? Wel, ma’ ’na 8 sedd yn weddill: sef seddi rhestrau Canol De Cymru a Dwyrain De Cymru…

A hithau’n ddydd Sadwrn, ma Iolo Jones wedi bod yn trïo cael gwybod faint o’r gloch fydd hyn oll yn digwydd – roith e wybod yr hyn ma fe’n gwybod yn y man…