Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.
Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.
Ry’n ni dros hanner ffordd nawr o ran canlyniadau etholaethau. Os ‘ych chi wedi bod yn dilyn o’r dechre – da iawn chi!
Sôn am ddiwrnod diflas i’r Ceidwadwyr yn eu seddi targed.
Roedd ganddyn nhw un llygad ar Ynys Môn, nid i’w hennill ond i atgyfnerthu eu pleidlais yn barod at etholiadau sydd i ddod.
Er eu bod nhw wedi cynyddu eu pleidlais gan 9% (yn bennaf drwy waddol UKIP), mae Rhun ap Iorwerth wedi’i ddychwelyd gyda mwyafrif o bron i ddeg mil, gan o bosib eto sicrhau mwyafrif uchaf Cymru (o ran nifer y pleidleisiau).
Byddan nhw wedi gobeithio cau’r bwlch hwnnw’n sylweddol fwy na hyn.
Ar lefel y Senedd, mae’n werth nodi ei bod hi’n ymddangos hefyd fod Llafur yn tanberfformio’n gymharol yn ardaloedd traddodiadol y Fro Gymraeg. Gallai fod goblygiadau gwleidyddol i hynny o ran pa flaenoriaeth a gaiff y Gymraeg dros y Senedd nesaf.
Huw Irranca-Davies yn cadw Ogwr i’r blaid Lafur.
Abolish – “perfformiad siomedig iawn”
Mae canlyniad Blaenau Gwent yn fuddugoliaeth nodedig – ond tybed ai’r arwyddocad yw perfformiad siomedig iawn Abolish.
Y gwir plaen yw os nad ydynt yn gwneud cynnydd yn y sedd honno gydag ymgeisydd proffil uchel mae’n anhebyg y byddant yn llwyddo i gael y 7-8% angenrheidiol i ennill sedd yn unrhywle.
Cawn weld wrth i bleidleisiau rhanbarthol gael eu cyfrif – ond mae bygythiad Abolish yn edwino yn sicr
Diwrnod da i Lafur Cymru
Mae’r sylwebydd gwleidyddol, Gareth Hughes, wedi rhannu ei farn am yr etholiad hyd yma, gan nodi ei fod yn etholiad “hynod o dda” i Lafur Cymru.
“Stori’r elecsiwn yma dydy bod Llafur Cymru wedi gwneud yn eithriadol well na Llafur Lloegr,” meddai wrth golwg360. “Mae’r Torïaid yn Lloegr wedi bod rhyw 10 pwynt o flaen Llafur yn Lloegr.
“Ac mae’r gwrthwyneb yn digwydd yng Nghymru. Mae’r Llafur Cymru 10 pwynt o flaen y Ceidwadwyr yng Nghymru. Felly mae o bron a bod y gwrthwyneb i beth ddigwyddodd yn Lloegr.
“Felly mae wedi bod yn ddiwrnod hynod o dda i Lafur. Maen nhw’n dal eu tir, a hefyd mae yna obaith y byddan nhw yn yr un lle yn union a lle ddechreuon nhw’r ymgyrch.
“Maen nhw wedi colli un sedd yn y gogledd ond mae’n ddigon posib wnawn nhw ennill un sedd yn y Cymoedd, yn y Rhondda.”
Yn arall yn cadw’i sedd… Huw Irranca-Davies yn cadw Ogwr i Lafur…
Diwrnod da’r Blaid… yn eu cadarnleoedd… yn parhau wrth i Rhun ap Iorwerth gynyddu ei bleidlais ym Mon.
A’r patrwm arall – fod deiliaid seddi yn llwyddo.
Yn yr unig sedd sydd wedi newid dwylo – roedd y cyn-aelod, Ann Jones, yn rhoi’r gorau iddi!
Rhun ap Iorwerth yn cadw ei sedd gyda mwyafrif o 9,817 ym Môn.
Rhun ap Iorwerth yn ennill Ynys Môn yn hawdd gyda mwyafrif o bron i 10,000
“Dw i wrth fy modd efo’r canlyniad, a dw i’n falch bod pleidlais Plaid Cymru wedi’i diogelu,” meddai Dafydd Elis-Thomas am fuddugoliaeth Mabon ap Gwynfor yn ei hen etholaeth.
“Mae hi’n etholaeth arbennig wrth gwrs. Mae hi’n etholaeth sy’n haeddu cael ei chynrychioli’n iawn.
“Doedd wnelo fo ddim byd â’r etholaeth, roedd yn ymwneud yn gyfan gwbl â methiant Plaid Cymru i gyd-drafod efo’r Blaid Lafur er mwyn sefydlu llywodraeth sefydlog,” meddai, ar ôl i Bethan Rhys Roberts ofyn iddo pam y gwnaeth e benderfynu cynrychioli’r etholaeth fel aelod annibynnol, yn hytrach nag fel aelod Plaid Cymru, yn ystod ei dymor diwethaf.
“Dw i’n difaru fy mod i wedi methu perswadio grŵp Plaid Cymru i gael clymblaid gyda Llafur ddwywaith.”
Dywedodd hefyd, ei fod yn ymddangos fel bod gwleidyddiaeth ganol, chwith wedi’i sefydlu yng Nghymru.
“Mae angen hynny er mwyn mynd yn erbyn y cynnydd mewn gwleidyddiaeth asgell-dde yn Lloegr.
Ychwanegodd fod angen dysgu gwersi gan Iwerddon, gan eu bod nhw’n gallu defnyddio eu gwleidyddiaeth i greu llywodraeth swyddogol.
“Y neges ydi, bod rhaid i ni wneud i ddemocratiaeth Cymru weithio. Mae gennym ni gyfrifoldeb.
“Mae dyletswydd ar bob aelod i sicrhau fod llywodraeth sefydlog yn y wlad.”
Fe wnaeth Mabon ap Gwynfor ddiolch i Dafydd Elis-Thomas am gyfraniad oes i fywyd cyhoeddus yr ardal, ar ôl i’r cyn-Aelod Seneddol ei longyfarch.