‘Na peth twp i Lafur i ddweud. Dyw Llafur ddim ynperchen ar y pleidleusiau ’na a dim hawl ’da ngw gwyno am bobl pleidlisio am pwy bynnag ma nhw moen. Pam nath y bobl Llafur ddim pleidleisio dros Plaid Cymru i gadw’r Ceidwadwyr mas?!
Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.
Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.
Mwyafrif o 6,638 i Alun Davies ym Mlaenau Gwent.
Mae diwrnod diflas Plaid Cymru yn y Cymoedd yn parhau – mi ddiflannodd eu her ym Mlaenau Gwent gan fynd a mwyafrif Alun Davies a’r Blaid Lafur o 650 i fwy na 6,000.
Ond yn nhraddodiad yr etholaeth, mi gafodd ymgeisydd annibynnol 2,376 o bleidleisiau.
Debyg bod pleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol ym Mrycheiniog a Maesyfed wedi chwalu’n llwyr a bod y Ceidwadwyr am ei chipio’n eithaf didrafferth.
Dydi’r canlyniad ddim gennym ni eto ond mi fuaswn i’n meddwl, os ydi hi cynddrwg â’r awgrym, go brin y bydd Jane Dodds yn cyrraedd y Bae drwy ras y rhestr chwaith.
Slogan y blaid yn yr etholiad hwn oedd “Adfywio yw’r nod”. Eironig iawn!
SNP: mwyafrif clir??
Mae’r SNP wedi cael buddugoliaeth fawr arall trwy gipio sedd Ayr oddi ar y Ceidwadwyr.
Dim ond 0.4% oedd ynddi ond, yn ol yr arbenigwr John Curtice, mae cipio hon ac un oddi ar Lafur yn gwthio yr SNP tuag at fwyafrif clir.
Y canlyniad yn llawn o Gastell-nedd.
Wrth ddweud ei bod “ar ben ei digon” ar ol dyblu ei mwyafrif yn Arfon, mae Sian Gwenllian wedi pwysleisio gwerth gweithredu cymunedol ar sawl lefel.
Ar Radio Cymru hefyd fe ddywedodd ei bod yn anodd creu newid am fod gan aelodau senedd gysylltiad agos efo’u cymunedau.
Ond fe ddywedodd ei bod yn teimlo newid yn yr aer, hyd yn oed os na fydd hynny’n dangos mewn seddi y tro yma: “Mae’r sgwrs am annibyniaeth yn sicr yma ac mae hi yma i aros.”
Dim ond un sedd ogleddol sydd ar ol i’w chyhoeddi – Ynys Môn. Mae hi’n swyddogol, felly. Mae’r gogleddwyr yn gallu cyfri’n gynt!
Eluned Morgan yn beio etholwyr Preseli am y ffordd y pleidleision nhw, tra’n canmol ymgyrch wych ei phlaid… chi sydd i benderfynu a yw hi’n iawn!
@WelshLabour and @JackieJonesWal1 within 1,400 votes in Preseli. Plaid won 6,000 votes. We warned if you vote Plaid you’ll get a Tory. It happened here. Thanks Jackie and the team for fighting a great campaign. It’s time Preseli learnt to vote tactically! pic.twitter.com/bU4lD7AkAO
— Eluned Morgan ? (@Eluned_Morgan) May 7, 2021
Methu helpu ond am feddwl, o weld canlyniadau Arfon a Dwyfor Meirionnydd, ar ddiwedd y dydd pa ganran o bleidlais Plaid Cymru fydd yn dod o bentyrru pleidleisiau yn ei chadarnleoedd traddodiadol?
Cafodd hi bron 61,000 yn y pump sedd hynny yn 2016, sef 29% o’i phleidlais.
Dwi’n mentro dweud y bydd y ganran honno’n uwch y tro hwn.
Mabon ap Gwynfor yn ennill Dwyfor Meirionnydd gyda mwyafrif 7,096.