Etholiad Senedd 2021 – dydd Gwener

Canlyniadau Etholiad Senedd 2021, a’r holl ymateb

Garmon Ceiro
gan Garmon Ceiro
Adeilad y Senedd gyda logo Golwg360

Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.

Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.

18:08

Y canlyniad yn llawn o Gastell-nedd.

18:06

Wrth ddweud ei bod “ar ben ei digon” ar ol dyblu ei mwyafrif yn Arfon, mae Sian Gwenllian wedi pwysleisio gwerth gweithredu cymunedol ar sawl lefel.

Ar Radio Cymru hefyd fe ddywedodd ei bod yn anodd creu newid am fod gan aelodau senedd gysylltiad agos efo’u cymunedau.

Ond fe ddywedodd ei bod yn teimlo newid yn yr aer, hyd yn oed os na fydd hynny’n dangos mewn seddi y tro yma: “Mae’r sgwrs am annibyniaeth yn sicr yma ac mae hi yma i aros.”

18:06

Dim ond un sedd ogleddol sydd ar ol i’w chyhoeddi – Ynys Môn. Mae hi’n swyddogol, felly. Mae’r gogleddwyr yn gallu cyfri’n gynt!

18:05

Eluned Morgan yn beio etholwyr Preseli am y ffordd y pleidleision nhw, tra’n canmol ymgyrch wych ei phlaid… chi sydd i benderfynu a yw hi’n iawn!

Geraint Richards
Geraint Richards

‘Na peth twp i Lafur i ddweud. Dyw Llafur ddim ynperchen ar y pleidleusiau ’na a dim hawl ’da ngw gwyno am bobl pleidlisio am pwy bynnag ma nhw moen. Pam nath y bobl Llafur ddim pleidleisio dros Plaid Cymru i gadw’r Ceidwadwyr mas?!

Mae’r sylwadau wedi cau.

18:01

Methu helpu ond am feddwl, o weld canlyniadau Arfon a Dwyfor Meirionnydd, ar ddiwedd y dydd pa ganran o bleidlais Plaid Cymru fydd yn dod o bentyrru pleidleisiau yn ei chadarnleoedd traddodiadol?

Cafodd hi bron 61,000 yn y pump sedd hynny yn 2016, sef 29% o’i phleidlais.

Dwi’n mentro dweud y bydd y ganran honno’n uwch y tro hwn.

17:59

Mabon ap Gwynfor yn ennill Dwyfor Meirionnydd gyda mwyafrif 7,096.

17:58

Mae buddugoliaeth fawr Mabon ap Gwynfor i Blaid Cymru yn Nwyfor Meirionnydd yn cadarnhau’r patrwm, fod y pleidiau yn cryfhau yn eu cadarnleoedd.

Mae wedi llwyddo i ennill mewn sedd sy’n rhannol fel yr un yr oedd ei daid, Gwynfor Evans, wedi sefyll ynddi.

Mi gafodd bron 2,000 yn fwy o bleidleisiau na’i ragflaenydd Dafydd Elis-Thomas.

Ac, er ei fod wedi gadael y Blaid ar ol ennill yn 2016, fe ddiolchodd Mabon ap Gwynfor yn gynnes iddo a’i ganmol am ei wasanaeth i Feirionnydd.

17:56

Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) yn mynd i’r Senedd yn hawdd, Ceidwadwyr yn ail pell, Llafur yn drydydd, Propel yn bedwerydd, Llais Gwynedd yn bumed

“Dw i wrth fy modd… mae’n etholaeth arbennig iawn” medd cyn-ddeiliad y sedd, Dafydd Elis Thomas

17:55

Y Ceidwadwyr yn cadw Gorllewin Clwyd.

17:54

Coch i gyd

Mae gan Rhanbarth Gorllewin De Cymru chwech sedd: Dwyrain Abertawe, Gorllewin Abertawe, Castell-nedd, Gŵyr, Ogwr, Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae Llafur wastad wedi ennill pob un o’r seddi yma, ym mhob un etholiad Senedd, ac mae’n edrych yn debygol y byddan nhw’n ennill pob un eleni eto.

Hyd yma maen nhw eisoes wedi ennill Castell-nedd, Gŵyr, a Dwyrain Abertawe.