Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.
Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.
Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) yn mynd i’r Senedd yn hawdd, Ceidwadwyr yn ail pell, Llafur yn drydydd, Propel yn bedwerydd, Llais Gwynedd yn bumed
“Dw i wrth fy modd… mae’n etholaeth arbennig iawn” medd cyn-ddeiliad y sedd, Dafydd Elis Thomas
Y Ceidwadwyr yn cadw Gorllewin Clwyd.
Coch i gyd
Mae gan Rhanbarth Gorllewin De Cymru chwech sedd: Dwyrain Abertawe, Gorllewin Abertawe, Castell-nedd, Gŵyr, Ogwr, Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae Llafur wastad wedi ennill pob un o’r seddi yma, ym mhob un etholiad Senedd, ac mae’n edrych yn debygol y byddan nhw’n ennill pob un eleni eto.
Hyd yma maen nhw eisoes wedi ennill Castell-nedd, Gŵyr, a Dwyrain Abertawe.
Mae’n debyg na fydd Llyr Huws Gruffydd yn rhy siomedig ar ôl dod yn drydydd gwael yn Ne Clwyd. Bydd methiant Plaid Cymru i gipio Aberconwy yn golygu y bydd yn gwbl sicr o ddal gafael ar ei sedd ar restr y gogledd. Gallai’r canlyniadau etholaethol roi siawns am ail sedd ar y rhestr i Blaid Cymru hefyd, i Carrie Harper.
Pleidlais Plaid Cymru yn anochel o gael ei gwasgu yn Ne Clwyd lle nad ydyn nhw erioed wedi gwneud yn arbennig o dda.
A Darren Millar wedi cadw Gorllewin Clwyd i’r Ceidwadwyr…
Jeremy Miles wedi cadw Castell Nedd i Lafur…
Rebecca Evans yn fuddugol yng Ngŵyr gyda mwyafrif o 4,795 i Lafur.
Angela Burns yn canmol ei holynynydd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro…
Well done @SKurtzCWSP You will be fantastic for Carmarthen West & South Pembrokeshire and you conducted a belter of a campaign. I am so happy ?x
— Angela Burns. TAKE THE VACCINE (@AngelaJBurns) May 7, 2021
Mae buddugoliaeth Rebecca Evans yn etholaeth Gwyr i Lafur yn un gwbl glir – cynnydd cry’ yn ei phleidlais a fawr o gynnydd i’r Ceidwadwyr.
Aeth 3,300 pleidlais UKIP y tro diwetha ddim at y Ceidwadwyr … ond falle yn ol at Lafur.
Yn gyffredinol, mae cryfder y blaid Lafur yn yr etholiad yma’n anhygoel, ac yn peri llawer iawn o gwestiynau i’w gwrthwynebwyr.
Mae cryfder y canlyniadau hyd yma’n fwy na chadarnhau ei safle fel prif blaid Cymru.
Yn fwy na hynny, bydd y Ceidwadwyr – yn sgîl eu haflwyddiant llwyr i dorri drwodd mewn cynifer o seddi targed a chanlyniadau agos sir Benfro – a Phlaid Cymru – sy’n segura’n ddifrifol iawn, iawn – yn gofyn i’w hunain beth ar wyneb y ddaear y gallan nhw ei wneud i herio Llafur.
Siŵr o fod maen nhw wedi bod yn gofyn y cwestiynau hyn i’w hunain ers sbel. Ond hyd yma, mae pa atebion bynnag y maen nhw wedi’u cael wedi bod yr atebion anghywir.
Dydi Llafur ddim yn mynd i’r unman.