Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.
Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.
Mae Vaughan Gething, sy’n gobeithio cael ei ail-ethol dros y Blaid Lafur, wedi dweud fod heddiw’n “ddiwrnod gweddol gadarnhaol i ni hyd yn hyn.”
“Rydyn ni wedi dringo mynydd i ennill. Rydyn ni’n disgwyl mai’r Blaid Lafur fydd y blaid fwyaf yn Senedd Cymru.
“Canlyniadau positif iawn i ni yn Nelyn a Wrecsam, ac yng Nghaerffili.
“Mae’r ymateb i’r pandemig wedi bod yn bwysig ar y stepen drws, a chafodd ei godi’n amlach na’r un mater arall.
“Mae’r ffordd y mae Mark Drakeford wedi trin y pandemig wedi dylanwadu ar y ffordd y gwnaeth pobol bleidleisio ddoe.”
Dywedodd Vaughan Gething fod rhaid aros nes clywed mwy o ganlyniadau cyn gallu dweud sut fydd y Llywodraeth nesaf yn edrych.
Ken Skates yn ennill mwyafrif o 2,913 yn Ne Clwyd.
Un arall yn cadw ei sedd…. Ken Skates yn cadw De Clwyd yn goch….
Sedd oedd wedi’i thargedu gan y Ceidwadwyr.
Buddugoliaeth glir Llafur yng Nghaerffili yn sicr o fod yn siom i Blaid Cymru, eto i gyd perfformiad cadarn gan Delyth Jewell, un o sêr ifanc y Blaid. Mae’n dibynnu’n hollol pa mor uchel oedd y gobeithion yn y lle cyntaf. Plaid Cymru bob amser â phresenoldeb cadarn yng Nghaerffili ers is-etholiad 1968 pan ddaeth Phil Williams o fewn llai na 2000 o bleidleisiau i gipio’r sedd seneddol, ond erioed wedi llwyddo i dorri trwodd yma.
Llafur yn fuddugol yn Islwyn.
Mae’r canlyniadau yn hedfan atom ni nawr. Er bod pethau’n dechre poethi, rhaid cofio bod y seddi mwyaf cyffrous eto i ddod. Gan eithrio Dyffryn Clwyd ry’n ni ond wedi gweld gwleidyddion cyfarwydd yn cadw’i seddi… Rhagor o gyffro i ddod!
Mae Paul Windsor Davies wedi llwyddo i gadw Preseli Penfro, er gwaetha’ perfformiad cry’ iawn gan Lafur ac un da gan Blaid Cymru.
Mae yna batrwm arall cyfarwydd yn datblygu – bod aelodau presennol yn cadw eu seddi.
Gyda’r pandemig, mae wedi bod yn fwy anodd nag arfer i herwyr wneud eu marc.
Y Ceidwadwyr yn cadw Preseli Penfro.
Fel yn Nelyn gwelwyd cynnydd (bach) ym mhleidlais Llafur a’r Ceidwadwyr yn Wrecsam, ond yn wahanol i etholiad San Steffan yn 2019 Llafur sy’n dal ei gafael ar y sedd, a hynny gyda mwyafrif digon tebyg i 2016.
Unwaith eto, y newid mawr ers 2016 yw’r cwymp o 10% ym mhleidlais UKIP. Fodd bynnag dyw canlyniadau Wrecsam a Delyn ddim yn awgrymu bod hwn yn llifo’n syth tuag at y Ceidwadwyr yn y Gogledd Ddwyrain fel roedd rhai yn rhengoedd y blaid wedi gobeithio.
O’r diwedd cyfres o ganlyniadau, ond y patrwm a sefydlwyd yn cael ei gadarnhau.
Wedi gobeithion mawr, canlyniadau siomedig i’r Ceidwadwyr o ran cipio seddi – er y bydd yn rhaid cadw golwg ar y rhestri i weld os yw’r gynnydd yn y bleidlais geidwadol yn eu cynothwyo.
Gall Llafur fod yn hapus iawn gyda phob un o’r canlyniadau hynny, ac o ran Plaid Cymru yng nghanol canlyniadau digon siomedig canlyniad Carrie Harper yn Wrecsam yn sefyll allan fel un o ser y dyfodol i’r Blaid honno.
Tybed a fydd hynny’n ddigon i’w hethol oddi ar y rhestr – bydd hynny yn frwydr ddifyr iawn