Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.
Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.
Canlyniadau Delyn a Wrecsam yn dda iawn i Lafur. Ac eithrio Dyffryn Clwyd a Bro Morgannwg, byddwn wedi disgwyl mai’r seddau hyn oedd dan fwyaf o fygythiad iddyn nhw, mwyafrif da ganddyn nhw yn Delyn hefyd.
Y llif canlyniadau yn dangos bod Llafur wedi dal eu tir yn rhyfeddol o dda – er gwaetha’ ambell her.
Dydi’r bleidlais UKIP ddim wedi mynd at y Ceidwadwyr yn y seddi Llafur.
Mae’r pleidiau bach yn gwneud yn wael iawn sy’n golygu nad ydyn nhw’n debyg o gael seddi rhanbarthol chwaith…
Llwyddiant y Ceidwadwyr i ddal Aberconwy ddim cymaint â hynny o syndod, er bod cyfanswm eu pleidlais i fyny’n sylweddol ar y tro diwethaf. Plaid Cymru a Llafur yn dal eu tir. Er mai dim ond 700 o bleidleisiau oedd ynddi’r tro diwethaf, rhaid cofio bod Plaid Cymru wedi rhedeg ymgyrch egnîol iawn yn 2016 a hynny gydas ymgeisydd cryf iawn hefyd.
Lesley Griffiths yn cadw ei lle yn Wrecsam.
Dau ganlyniad trybeilig o siomedig o’r bron i Blaid Cymru. Caerffili wedi dychwelyd Hefin David gyda mwyafrif uchaf erioed y blaid Lafur yno, a Janet Finch-Saunders yn cadw Aberconwy i’r Ceidwadwyr gyda’r nifer fwyaf erioed o bleidleisiau i un blaid unigol yn y sedd honno yn y Senedd. Teimlo fel bod Plaid Cymru wedi gor-gyffroi yn llawer rhy gyflym yn y sedd yn gynharach heddiw.
Ar y llaw arall, canlyniad da iawn iddi yn Wrecsam, ei chanlyniad gorau erioed o gryn ffordd. Serch hynny, dydi hi ddim yn gwneud fyny am siom y ddwy etholaeth arall.
O ran y Ceidwadwyr, mae canlyniadau Wrecsam a Delyn ill dwy’n reality check – mae llwyddiannau 2019 yn teimlo’n bell iawn yn ôl heddiw.
Llafur yn cadw Delyn gan godi ei phleidlais a maint ei mwyafrif ers 2016. Cododd pleidlais y Ceidwadwyr hefyd, ond ddim digon i herio Llafur.
Y newid mawr o’r canlyniad yn 2016 oedd y cwymp o 13% ym mhleidlais UKIP, ond yn wahanol i’r duedd mewn seddi yng ngogledd Lloegr dyw hyn heb weithio er budd y Ceidwadwyr.
Sian Gwenllian wedi cadw Arfon i Blaid Cymru…
Mae Lesley Griffiths wedi gwneud digon i ddal Wrecsam efo mwyafrif o 1,350 – er gwaetha’ cynnydd mawr yn y bleidlais Geidwadol.
Ond roedd yna berfformiad cry’ gan Carrie Harper i Blaid Cymru hefyd.
Y Ceidwadwyr yn dal eu gafael ar Aberconwy.
Buddugoliaeth glir i’r Ceidwadwyr yn Aberconwy; Llafur a Phlaid Cymru’n llithro’n ol ychydig.