Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.
Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.
Buddugoliaeth glir i’r Ceidwadwyr yn Aberconwy; Llafur a Phlaid Cymru’n llithro’n ol ychydig.
A Janet Finch-Saunders wedi cadw Aberconwy….
Hefin David yn dychwelyd i’r Senedd ar ran y blaid Lafur.
Ycyhydig oriau’n amser hir mewn gwleidyddiaeth … Ro’n i’n meddwl y bore yma y gallai Llafur ennill hyd at 27 o seddau petai pethau’n mynd o’i phlaid – o weld y canlyniadau ac ystyried y sibrydion, dydi o ddim yn edrych yn amhosibl fod 29 allan o’u cyrraedd erbyn hyn. Byddai hynny’n ganlyniad anhygoel iddyn nhw.
Hefin David wedi cadw Caerffili i’r Blaid Lafur… a hynny gyda mwyafrif mwy o 5,078.
Sgriwtini – gormod ynteu ddiffyg?
Roedd David TC Davies, Aelod Seneddol Sir Fynwy, yn ddigon swrth wrth siarad â BBC Wales rhai munudau yn ôl.
Roedd yn siarad fel pe bai’r Ceidwadwyr eisoes wedi profi etholiad gwael yng Nghymru – er bod ganddyn nhw fwy o seddi nag unrhyw blaid ar hyn bryd.
A’r cyfryngau oedd yn cael y bai.
“A phob parch i chi – a dw i ddim yn pigo ar y BBC yn benodol – ond dw i ddim yn credu bod Llywodraeth llafur Cymru yn wynebu unrhyw beth tebyg i’r lefel o sgriwtini a Llywodraeth San Steffan,” meddai.
“Dw i ddim hyd yn oed yn siŵr os oes digon o [newyddiadurwyr] yno i roi Llafur dan yr un lefel o sgriwtini â San Steffan.”
Mae’r mater yma yn un diddorol.
Yn siarad â Golwg rhai wythnosau yn ôl dywedodd Lee Waters, AoS Llafur, bod ei blaid yntau yn wynebu llawer yn fwy o sgriwtini na’r pleidiau eraill.
Heb os mae’r cynadleddau wasg covid-19 wedi codi proffil ffigyrau o’r blaid Llafur, ac os caiff Llafur noson dda allwn ddisgwyl tipyn o gwyno am hyn gan y gwrthbleidiau.
Llafur yn cadw Delyn gyda mwyafrif o 3,711.
Llafur yn cadw Delyn.
Er fod y Ceidwadwyr wedi codi eu pleidlais yn Nelyn, mi wnaeth Llafur yr un peth wrth i Hannah Blythyn guro – dydi ffenomenon Hartlepool ddim yn digwydd yn y gogledd-ddwyrain hyd yn hyn.
Hannah Blythyn wedi cadw Delyn i’r Blaid Lafur…
Pump o’r gloch, oriau o gyfrif, tri chanlyniad.
Bydd y sawl ohonoch oedd yn siomedig na fyddech chi’n cael noson etholiad efallai’n teimlo’n well fod hyn yn debygol o bara’n hirach na’r disgwyl!