Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.
Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.
Bodlonrwydd sy’n anfodloni
Yn siarad â BBC Wales mae Mark Drakeford wedi dweud na ddylwn fod yn anfodlon os nad yw tyrnowt yn llawer uwch eleni.
“Wel dw i’n credu yr oedd hi’n etholiad hynod anodd o ran tyrnowt,” meddai. “Dw i wedi cwrdd â phobol sydd yn nerfus ynghylch mynd i’r orsaf bleidleisio.
“Maen nhw’n bryderus am nad ydyn nhw wedi gadael eu tai cyhyd – wythnosau, os nad misoedd i rai.
“Rydym wedi gweld ciwiau mewn llawer o orsafoedd pleidleisio yma, gyda phobol yn troi am adre heb bleidleisio am ei fod yn cymryd cyhyd.
“Felly ar y cyfan mae’r amgylchiadau [wedi bod yn anodd] ac mae cyfyngiadau wedi bod ar yr ymgyrchu.
“Felly byddai cael tyrnowt jest ychydig yn uwch yng Nghymru, wel, ni ddylid peidio â chanmol hynny.”
Mae yna awgrym bod canran y rheiny a bleidleisiodd ar ei fyny ond ddim dros 50% – dyw’r tyrnowt erioed wedi cyrraedd 50%, heb sôn a bod yn uwch na hynny.
Ydy safiad Marky D yn dal dŵr? Sa i’n berffaith siŵr bod e’…
Wedi 20 mlynedd o ddatganoli, ac ar ôl deuddeg mis lle mae proffil Llywodraeth Cymru wedi bod yn uwch nag erioed, dylai fod y Cymry yn fwy parod nag erioed i fwrw pleidlais tros eu Senedd.
Onid methiant fyddai peidio a chael record o dyrnowt?
“Roedden ni’n disgwyl cael canlyniad da heddiw, ond roedden ni’n gwybod hefyd ein bod ni ddim am ennill,” meddai Glyn Davies, Cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig, am obeithion ei blaid heddiw.
“Roedd yn bwysig symud ymlaen o’r tro diwethaf.
Aeth Glyn Davies yn ei flaen i ddymuno “pob lwc” i’r Blaid Lafur,
“Dw i’n credu y bydd y Ceidwadwyr yn dod yn ail yn yr etholiad, dw i’n disgwyl i Lafur fod y blaid mwya.
“Mae wedi bod yn etholiad od iawn, bydd pawb yn dweud ein bod ni methu cnocio ar ddrysau, fod pobol ddim isio siarad, a dydyn ni methu cysylltu â phobol.”
Ychwanegodd Glyn Davies ei bod hi’n bwysig fod y Ceidwadwyr Cymreig yn symud ymlaen ar ôl yr etholiad.
"Dwi'n disgwyl i Lafur fod y blaid mwya"
Glyn Davies Cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cydnabod na fydd ei blaid yn ennill yn yr etholiad.#Senedd2021 #Etholiad2021 pic.twitter.com/ruYeAiGFui
— Newyddion S4C (@NewyddionS4C) May 7, 2021
Ffynhonnell Geidwadol yn dweud wrth S4C y bydd Wrecsam yn aros yn nwylo Llafur…
Y sïon diweddara ydi fod Llafur yn weddol hyderus yn Wrecsam ac Alyn a Glannau Dyfrdwy… ond Plaid Cymru’n llai gobeithiol am gipio Aberconwy.
Ar ôl clywed am ei buddugoliaeth, fe wnaeth Nicola Sturgeon ddiolch i’r Swyddog Canlyniadau, a phawb sydd wedi gweithio i sicrhau fod yr etholiadau’n cael eu cynnal yn yr Alban.
“Mae’r etholiad yma yn un sydd wedi’i gynnal dan amgylchiadau anodd a heriol, fel pob agwedd arall ar ein bywydau.
“Hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i’r tîm ymgyrchu.
“Braint bennaf fy mywyd yw cynrychioli’r etholaeth sydd gan yr amrywiaeth diwylliannol mwyaf yn yr Alban.
“Rydyn ni yn nyddiau cynnar iawn, iawn y marathon cyfri hwn.
Ategodd Nicola Sturgeon eu bod nhw “ar y ffordd i gael y fraint o ffurfio’r Llywodraeth nesaf.”
Ble ydyn ni?
A hithau bron yn 8 awr ers cychwyn y cyfrif mae gennym gronfa fechan iawn o ganlyniadau i’w dadansoddi.
Ond erbyn hyn mae digon o sibrydion ac awrgymiadau gan y pleidiau. Mae hi erbyn hyn yn bosibiliad real taw dim on Dyffryn Clwyd bydd y Ceidwadwyr yn ei gipio oddi ar Lafur heno.
Gyda disgwyliadau mor uchel a pherfformiadau cryf yn Lloegr byddai hynny’n ganlyniad siomedig iawn i’r Ceidwadwyr.
Fel arall mae hi i Lafur, gyda’r Rhondda wedi ei chipio yn ol pob golwg a phleidlais gref ar draws y wlad gall Mark Drakeford ddisgwyl dychwelyd i’r Senedd gyda rhwng 28 a 30 o seddi – dyw hi ddim yn amhosib hyd yn oed i Lafur gipio 31 sedd – mwyafrif clir am y tro cyntaf yn ei hanes.
Mae tipyn o bleidleisiau eto i’w cyfrif ond rwy’n amau taw’r siampen coch fydd yn cael ei oeri ar hyn o bryd … er o nabod y Prif Weinidog mae’n bosib taw gwin neu cordial cartref wedi ei wneud o ffrwythau o’r allotment fydd ei ddewis yntau!
Y Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud na fyddai’n cymryd arwyddion y gallai Llafur gipio’r Rhondda oddi ar Leanne Wood fel arwydd bod awydd ei phlaid am annibyniaeth i Gymru wedi cael ei guro.
Dywedodd: “Rwy’n siŵr nad yw ar ben fel dadl. Ond gallaf ddweud wrthych yn gwbl onest, y cannoedd o ddrysau a gurais a sgyrsiau a gefais, ni soniodd yr un person am y gair annibyniaeth i mi.
“Felly, i rai pobl mae’n ffocws go iawn, mae’n defnyddio eu syniad o ddyfodol Cymru. Ond ar garreg y drws doedd e ddim yn digwydd mewn gwirionedd.”
Do’n i ddim yn disgwyl gweld hyn rhaid imi gyfaddef! Adrian Masters draw ar Twitter yn dweud bod Wrecsam – sedd yr oedd y Ceidwadwyr yn hyderus iawn yn ei chylch yn gynharach heddiw – yn edrych yn gyfforddus i’r blaid Lafur.
Byddai pleidlais gref i Blaid Cymru yn un o seddi’r ffin hefyd yn galonogol i’r cenedlaetholwyr yn dilyn blynyddoedd o adeiladu yno.
Wrexham looks like being a comfortable Labour hold but with a strong Plaid vote
— Adrian Masters (@adrianmasters84) May 7, 2021
Roedd pleidlais yr SNP a Llafur wedi cynyddu bron yr un faint yn etholaeth Glasgow Southside – sef etholaeth Nicola Sturgeon.
Rwy’ newydd taro draw i weld sut mae’r canlyniadau yn siapio ochr arall i’r ffin.
Mae’r stori yn fan’no i Lafur mor wahanol i Ferthyr!
Mae nhw’n cael cweir go iawn ac mae nhw eisoes wedi colli dros 100 o seddi a’r Ceidwadwyr i fyny dros 100.
Y cyngor Llafur mwyaf diweddar i gwympo yw Sheffield.
Mae na lot fawr o gwestiynau gan Lafur yn Lloegr i’w hateb – mewn modd efallai nad yw mor amlwg o bell ffordd yng Nghymru.
Dwy wlad yn dilyn trywydd gwahanol iawn.