Etholiad Senedd 2021 – dydd Gwener

Canlyniadau Etholiad Senedd 2021, a’r holl ymateb

Garmon Ceiro
gan Garmon Ceiro
Adeilad y Senedd gyda logo Golwg360

Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.

Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.

15:38

Mae’n siwr bod hyn yn arwyddocaol rywffordd…

15:35

Os yw’r Ceidwadwyr yn gywir i fod yn hyderus ynghylch eu gobeithion ym Mrycheiniog a Maesyfed yna mae hi’n edrych yn ddu iawn i’r Democratiaid Rhyddfrydol ar draws y canolbarth.

O ystyried y canlyniad siomedig iawn ym Maldwyn a’r adroddiadau o Geredigion bod y bleidlais i’r blaid wedi cwympo eto mae’n bosib iawn na fydd yn llwyddo i ddenu digon o bleidleisiau rhestr i sicrhau sedd ranbarthol yn y canolbarth fel gwobr gysur.

15:33

Yr awgrym o nifer o etholaethau ydi y gall y cyfri barhau tan fory … maen nhw am orffen heddiw tua 21.00 … a’r rhanbarthau wedyn?

15:32

Dosbarth ’99 – cyfle am gwis

Ry’n ni’n dal i aros am ganlyniadau felly… Beth am gwis?

O’r 60 Aelod o’r Senedd a’u hetholwyd i’r Senedd yn 2016, roedd naw wedi cynrychioli eu seddi ers 1999 (pan gynhaliwyd yr etholiad cyntaf). Dosbarth ’99 yw’r enw am y criw yma.

Mae pedwar ohonyn nhw’n wedi penderfynu sefyll eto eleni (gyda phump yn camu o’r neilltu)…

Pwy, felly, yw’r pedwar yma sydd wedi bod yn ddigon dewr ac egniol i roi cynnig arni eto?

Gewch chi’r ateb nes ’mlaen…

 

15:32

Mae nifer seddi’r SNP yn yr Alban wedi codi i 8, gyda gostyngiad bach yng nghanran eu pleidlais a chynnydd bach i’r Ceidwadwyr.

Cynnydd bychan iawn i Lafur yn gyffredinol.

Y Democratiaid Rhyddfrydol sydd wedi cael yr unig sedd arall hyd yn hyn – Orkney & Shetland.

15:27

Dyw Dyffryn Clwyd ddim yn ganlyniad, ond mae’r ffaith fod y sedd honno yn mynd i ail gyfrif yn dweud rhywbeth wrthym.

Mae’r chwalfa i Lafur a welwyd ar draws Clawdd Offa heb ymdreiddio ar draws y ffin.

Bu Dyffryn Clwyd yn sedd ymylol iawn ar sawl achlysur gan gynnwys 2016 ac mae ail gyfrif heddiw yn tanlinellu hynny.

Os yw Dyffryn Clwyd yn agos, mae hynny’n awgrymu oni bai fod ffactorau lleol wrth waith y gall Llafur fod yn fwy hyderus yn Delyn, De Clwyd ac Alyn a Dyfrdrwy.

15:27

Er nad ydi’r Ceidwadwyr i weld yn gwneud cystal ag y bydden nhw wedi dymuno, maen nhw erbyn hyn yn dweud eu bod nhw’n weddol hyderus o droi Brycheiniog a Maesyfed, sedd Kirsty Williams, yn las.

Yn yr etholaeth hon mae Cilmeri, gyda llaw, a ’da ni gyd yn gwybod beth ddigwyddodd yn fanno amser maith yn ôl.

Tybed ai Kirsty Williams fydd Llyw Olaf y Rhyddfrydwyr yng Nghymru?

15:25

Un canlyniad sy’ ’di bod… ond a yw’r esgusodion yn dechrau’n barod?? Sgersli bilîf.

15:23

Mae golwg360 yn deall bod pethau’n edrych yn dda iawn i Blaid Cymru yng Ngheredigion.

Ar sail cyfri’r pleidleisiau post a gwirio’r bocsys, mae’n debyg bod y Blaid yn bell ar y blaen (agos i 50%), gyda’r Ceidwadwyr o bosib yn ail, a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn isel iawn.

Er cyd-destun – daeth y Blaid yn gyntaf yn 2016 gyda 40.7% o’r bleidlais. Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol yn ail gyda 32.6% o’r bleidlais, a’r Ceidwadwyr yn bedwerydd â 7.1%.

15:21

Ydech chi’n gwrando, Llundain??

Yn gynharach, fe gyfeiriodd Richard Wyn Jones at genedlaetholdeb meddal y Blaid Lafur yng Nghymru, a’u bod nhw’n apelio at Gymreictod yn ystod yr ymgyrch.

“Mae’n hollol iawn i ddweud mai dyna oedd ein bwriad ni fel plaid, sef sicrhau ein bod ni ddim yn colli’r bobol yna sydd o blaid datganoli, ond ddim annibyniaeth,” meddai Carwyn Jones, wrth ddweud eu bod nhw’n anelu at beidio â cholli’r cefnogwyr hynny, fel ddigwyddodd yn yr Alban.

“Dim cwato ein cymreictod.

“Partneriaeth yw hwn rhwng pedair gwlad, a ry’n ni’n dewis pa bethau rydyn ni’n rannu, hynny yw ffederaliaeth.

“Y broblem yw dy’n nhw ddim yn gallu clywed hynny yn Llundain, ac os nad ydyn nhw’n gwneud hynny bydd ‘da ni broblem mawr ynghylch dyfodol y Deyrnas Unedig.”