Etholiad Senedd 2021 – dydd Gwener

Canlyniadau Etholiad Senedd 2021, a’r holl ymateb

Garmon Ceiro
gan Garmon Ceiro
Adeilad y Senedd gyda logo Golwg360

Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.

Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.

14:45

Bethan Sayed – “ddim yn clywed bod pethau’n rhy dda i’r Blaid yn y Rhondda”

14:44

Dim nawr, Dafydd! ;-)

14:42

Wedi clywed bod gan Blaid Cymru “dim gobaith” bellach o gadw’r Rhondda.

Os digwydd hynny, bydd hi’n achos arall o’r Blaid yn ennill seddi am un tymor yn unig heb fethu dal ei gafael arnynt. A rhaid gofyn, os na all Leanne Wood – sydd mae’n bosib dadlau o hyd y gwleidydd amlycaf sydd gan Blaid Cymru – wneud hynny, pwy all? A sut?

14:40

Mae seddi yn yr Alban hyd yma yn mynd yn ôl y disgwyl a dirprwy arweinydd yr SNP, John Swinney, wedi cadw’i sedd efo mwyafrif mwy ond symudiad bach, bach at y Ceidwadwyr.

Maen nhw hefyd wedi cadw seddi Aberdeen Donside, Clyde and Milngavie (lle cafodd Llafur gynnydd o 10%) a’r ynysoedd Na h-Eileanan. Fel yng Nghymru, mae yna arwyddion cynnar o lefel weddol uchel o bleidlais.

14:38

Y nifer yn pleidleisio yn Ne Clwyd ddim cweit mor uchel ag a adroddwyd yn flaenorol (59%). Mae’n 44%.

14:34

Nododd Jason mewn sylw isod (14:18) bod sïon yn awgrymu bod y Ceidwadwyr yn bryderus ynghylch eu gallu i gadw gafael ar sedd Aberconwy yn dilyn ymgyrch egnïol gan ymgeisydd ifanc Plaid Cymru, Aaron Wyn.

Mae Aberconwy yn sedd ddiddorol gan fod y Ceidwadwyr, Plaid Cymru a Llafur oll wedi’i hennill ar wahanol adegau mewn etholiadau datganoledig ers 1999. Mae hi’n etholaeth ‘dair ffordd’ ac mae tuedd i’r bleidlais rannu’n reit agos rhwng y dair plaid (er enghraifft yn 2016 roedd y Ceidwadwyr ar 35%, PC ar 31% a Llafur ar 27%).

Os daw pryderon y Ceidwadwyr yn wir bydd hi’n ddiddorol gweld beth fydd wedi digwydd i’r bleidlais Lafur hefyd – a fydd y Plaid Cymru wedi llwyddo denu dogn o’r pleidleiswyr hynny er mwyn cipio’r sedd unwaith eto?

14:33

Dafydd Iwan yn honni ar Radio Cymru y bydd yr etholiad yma’n cael ei gofio am roi annibyniaeth ynghanol y llwyfan… falle wir, ond beth fydd effaith hynny??

14:32

Dwn i ddim a fyddai’r lleill yn cytuno … ond ucha’ yn y byd ydi’r bleidlais, mwya’ tebygol yden ni o gael canlyniadau annisgwyl…

14:31

Ar ddechrau’r blog hwn wnaeth Jason a finne rhoi cynnig ar ddarogan y canlyniad…

Wel, chwarae teg i Jason, mae’n ymddangos bod ei broffwydoliaeth yntau yn eitha’ spot on!

Mae Adrian Masters, o ITV, yn cydweld â fe y bydd y Rhondda yn troi’n goch, ac y bydd Llafur yn cadw Llanelli a Bro Morgannwg…

Dyma fi’n gobeithio bydd fy ’darogan-fap’ i yn diflannu i ebargofiant!

14:28

Mae hi wir gwerth cadw golwg ar y niferoedd sy’n pleidleisio. Mae’r nifer ym Merthyr yn isel (35%) a Wrecsam (43%) …

Mae ble yn union mae trwch y pleidleiswyr yn mynd i gael effaith sylweddol ar y pleidleisiau rhanbarthol a’r brwydrau tynn iawn ar gyfer y seddi rhanbarthol olaf.