Etholiad Senedd 2021 – dydd Gwener

Canlyniadau Etholiad Senedd 2021, a’r holl ymateb

Garmon Ceiro
gan Garmon Ceiro
Adeilad y Senedd gyda logo Golwg360

Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.

Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.

14:31

Ar ddechrau’r blog hwn wnaeth Jason a finne rhoi cynnig ar ddarogan y canlyniad…

Wel, chwarae teg i Jason, mae’n ymddangos bod ei broffwydoliaeth yntau yn eitha’ spot on!

Mae Adrian Masters, o ITV, yn cydweld â fe y bydd y Rhondda yn troi’n goch, ac y bydd Llafur yn cadw Llanelli a Bro Morgannwg…

Dyma fi’n gobeithio bydd fy ’darogan-fap’ i yn diflannu i ebargofiant!

14:28

Mae hi wir gwerth cadw golwg ar y niferoedd sy’n pleidleisio. Mae’r nifer ym Merthyr yn isel (35%) a Wrecsam (43%) …

Mae ble yn union mae trwch y pleidleiswyr yn mynd i gael effaith sylweddol ar y pleidleisiau rhanbarthol a’r brwydrau tynn iawn ar gyfer y seddi rhanbarthol olaf.

14:26

Pethau i edrych amdanyn nhw…. Rhif 4

Pleidlais y Rhanbarthau

Mi fydd y bleidlais yn y rhanbarthau ychydig bach yn wahanol i’r etholaethau; yn syml, am fod cymaint o ymgeiswyr ychwanegol ar y lefel honno.

Ac mi all ychydig gannoedd o bleidleisiau wneud gwahaniaeth pan ddaw hi’n fater o ddosbarthu’r seddi trwy’r elfen bleidleisio cyfrannol.

Y ffordd hawdd i’w mesur ydi mynd fesul sedd, nes i’r pedair sedd ym mhob rhanbarth gael eu llenwi.

Felly, rhaid dechrau efo cyfanswm y pleidleisiau rhanbarthol a rhannu cyfanswm plaid efo nifer y seddi sydd ganddyn nhw eisoes (yn yr etholaethau a’r rhanbarthau) + 1.

Felly, mae plaid A heb seddi yn cyfri ei holl bleidlais a phlaid B efo dwy sedd yn gorfod rhannu efo 3.

Y blaid efo’r bleidlais fwya’ ar ôl y rhannu, sy’n ennill y sedd gynta.

Mae’n rhaid gwneud yr un peth eto i benderfynu’r sedd nesa gan gofio bod gan Blaid A un sedd erbyn hyn.

Mi aiff pethau’n ddiddorol os bydd y pleidiau mawr yn dechrau colli seddi yn yr etholaethau ac mae hyn i’w weld gliria yn y Gogledd.

Yn 2016, mi lwyddodd Plaid Cymru, Llafur a’r Ceidwadwyr i ennill yr etholaethau yn eu cadarnleoedd, felly roedd ychydig tros 25,000 o bleidleisiau yn ddigon i roi dwy sedd.

14:21

Ma hwn yn ddiddorol, chwarae teg… tra bo’ ni’n talu sylw i bob un o’r 40 sedd, dim ond 12 sydd erioed wedi newid dwylo…!

14:18

“Talcen caled” i’r Blaid yn ne Cymru

Yn siarad ar S4C mae Nerys Evans, cyn-Aelod Cynulliad Plaid Cymru (2007-2011) tros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, wedi disgrifio’r heriau sy’n wynebu ei phlaid.

Holwyd am obeithion y blaid yn y Rhondda a Llanelli, a derbyniodd bod “talcen caled” o’u blaenau.

“Wel, ie, bues i’n canfaso yn y ddau etholaeth,” meddai. “Ac mae’n anodd iawn wrth gwrs o ran y cyd-destun.

“Ac mae’r cyfnod etholiad wedi bod yn fyrrach na’r arfer o ran gallu knock-o drysau a chael ein neges ni drosto. Etholiad coronafeirws yw hi wrth gwrs.

“Mewn un ffordd mae’n beth da bod pobol yn ymwybodol o’r Senedd, y Llywodraeth, y pwerau sydd gyda ni fan hyn yng Nghymru. Ac hefyd beth mae’r Llywodraeth wedi bod yn gwneud gyda’r pwerau.

“Ond ie,” atega, “talcen caled i ni yn Llanelli ac yn y Rhondda. A gewn ni weld shwt ma pethe yn troi mas dros yr oriau nesa’.

14:18

Carwyn Jones yn son ar S4C am “edmygaeth” pleidleiswyr tuag at Mark Drakeford… Dicw’n cytuno ac yn ategu ei fod e’n apelio at bleidleiswyr Llafur traddodiadol.

Ar y llaw arall, “Marmite” yw Boris Johnson, medd Carwyn Jones, gan ein hatgoffa bod bwydydd eraill ar gael… diolch byth!

14:18

Sïon cymysg i Blaid Cymru. Tra bod Llafur yn hyderus iawn eu bod nhw wedi cadw Llanelli’n lled-gyfforddus, mae’r Ceidwadwyr yn bryderus iawn ynghylch Aberconwy, lle mae Janet Finch-Saunders yn amddiffyn mwyafrif bychan yn erbyn ymgeisydd ifanc Plaid Cymru, Aaron Wyn.

14:15

Pethau i edrych amdanyn nhw… Rhif 3

Dylanwad Lloegr

Mae yna ddau gerrynt yn tynnu’n groes i’w gilydd eleni … yn ôl y sylwebwyr.

Un ydi’r ffaith fod pobol yn deall yn well nag erioed o’r blaen be ydi’r gwahaniaeth rhwng San Steffan a Bae Caerdydd.

Yn ôl y ddamcaniaeth honno, mi ddylai Llafur wneud yn dda i Gymru oherwydd perfformiad cymharol gry’ Mark Drakeford a’i lywodraeth ynglŷn â’r pandemig.

Ond y cerrynt arall ydi hwnnw o gyfeiriad Lloegr lle mae’n amlwg eisoes fod y Ceidwadwyr yn gwneud yn dda ar gefn y brechlyn.

Mae’r canlyniadau cynta’ o’r Alban hefyd yn awgrymu eu bod yn cryfhau yno ac mi allai’r un peth ddigwydd yng Nghymru.

14:13

Canrannau Pleidleisio

Wrecsam 43%

Mynwy 49.7

Bob un yn fwy na’r tro d’wetha….

14:10

Grŵp arall o seddi i’w gwylio wrth i’r canlyniadau ddod i fewn yw rheini lle mae’n frwydr rhwng Llafur a Phlaid Cymru.

Ar y naill llaw, mae un sedd, sef y Rhondda, sydd yn nwylo Plaid Cymru ar hyn o bryd.

Y canlyniad yn y Rhondda oedd un o’r rhai mwyaf arwyddocaol yn 2016 pan lwyddodd Leanne Wood i gipio’r sedd oddi wrth Leighton Andrews.

Hon yw un o brif dargedau Llafur eleni. Mae’r blaid wedi ymgyrchu’n galed i geisio ei hadennill ac mae Mark Drakeford wedi ymweld a’r etholaeth amryw o weithiau dros y bythefnos ddiwethaf.

Ymhellach, mae rhai o’r adroddiadau cynnar o’r cyfri’n awgrymu bod Llafur yn reit hyderus eu bod wedi llwyddo.

Ar y llaw arall, mae tair o seddi sydd yn nwylo Llafur, ond lle roedd Plaid Cymru yn ail agos nol yn 2016 – Llanelli (382, y sedd fwyaf ymylol yn y Senedd), Blaenau Gwent (650) a Gorllewin Caerdydd (1,176).

Ar bapur dylai dair fod yn seddi targed amlwg i Blaid Cymru, ond mae’r blaid wedi cael trafferthion mewnol ym mhob un o’r etholaethau dros y blynyddoedd diwethaf ac nid yw’r ymgeiswyr nol yn 2016 yn seddi Blaenau Gwent a Gorllewin Caerdydd yn aelodau o’r blaid bellach!

O ganlyniad, o’r dair sedd Llafur yma, mae’n debyg mai Llanelli yw’r unig darged realistig i Blaid Cymru yn ei brwydr etholaethol gyda Llafur.