Etholiad Senedd 2021 – dydd Gwener

Canlyniadau Etholiad Senedd 2021, a’r holl ymateb

Garmon Ceiro
gan Garmon Ceiro
Adeilad y Senedd gyda logo Golwg360

Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.

Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.

14:10

Grŵp arall o seddi i’w gwylio wrth i’r canlyniadau ddod i fewn yw rheini lle mae’n frwydr rhwng Llafur a Phlaid Cymru.

Ar y naill llaw, mae un sedd, sef y Rhondda, sydd yn nwylo Plaid Cymru ar hyn o bryd.

Y canlyniad yn y Rhondda oedd un o’r rhai mwyaf arwyddocaol yn 2016 pan lwyddodd Leanne Wood i gipio’r sedd oddi wrth Leighton Andrews.

Hon yw un o brif dargedau Llafur eleni. Mae’r blaid wedi ymgyrchu’n galed i geisio ei hadennill ac mae Mark Drakeford wedi ymweld a’r etholaeth amryw o weithiau dros y bythefnos ddiwethaf.

Ymhellach, mae rhai o’r adroddiadau cynnar o’r cyfri’n awgrymu bod Llafur yn reit hyderus eu bod wedi llwyddo.

Ar y llaw arall, mae tair o seddi sydd yn nwylo Llafur, ond lle roedd Plaid Cymru yn ail agos nol yn 2016 – Llanelli (382, y sedd fwyaf ymylol yn y Senedd), Blaenau Gwent (650) a Gorllewin Caerdydd (1,176).

Ar bapur dylai dair fod yn seddi targed amlwg i Blaid Cymru, ond mae’r blaid wedi cael trafferthion mewnol ym mhob un o’r etholaethau dros y blynyddoedd diwethaf ac nid yw’r ymgeiswyr nol yn 2016 yn seddi Blaenau Gwent a Gorllewin Caerdydd yn aelodau o’r blaid bellach!

O ganlyniad, o’r dair sedd Llafur yma, mae’n debyg mai Llanelli yw’r unig darged realistig i Blaid Cymru yn ei brwydr etholaethol gyda Llafur.

14:07

Mae ’na bedwar canlyniad wedi’u cyhoeddi yn yr Alban hyd yma: Aberdeen Donside, Clydebank a Milngavie, Ynysoedd y Gorllewin ac Ynysoedd Orkney.

Er bod yr SNP wedi cadw’r tair sedd gyntaf o’r rheiny (mae Orkney’n gadarnle Democrat Rhyddfrydol), mae’n ddifyr fod eu canran o’r bleidlais yn y tair wedi gostwng, gyda gogwydd sylweddol at Lafur yn Clydebank a Milngavie ac un nodedig at y Ceidwadwyr yn Donside.

Ond fel yng Nghymru â Llafur, mae’r gwrthbleidiau’n rhy rhanedig i ennill etholaethau oddi ar yr SNP.

Er, tybed beth ydi goblygiadau gogwydd at bleidiau unoliaethol o ran refferendwm, os bydd y patrwm yn parhau?

14:06

Yn dilyn newyddion drwg am y ganran bleidleisiodd ym Merthyr, mae’r ganran yn Ne Clwyd tipyn iachach, yn ol Llyr Gruffudd…

14:03

Arwydd cadarnhaol?

Mi wnaeth 50% o’r rheiny a oedd yn gymwys i bleidleisio, daro pleidlais yn Nhrefaldwyn (yr etholaeth gyntaf i gyhoeddi’i chanlyniadau). Dyma’r ganran uchaf erieod yn y sedd hon.

Dyw’r tyrnowt erioed wedi cyrraedd 50% yn etholiadau’r Senedd. Gyda phroffil gwleidyddiaeth Cymru yn uwch nag erioed, tybed a fydd hynny’n newid eleni?

14:01

Pethau i edrych amdanyn nhw…Rhif 2

Beth fydd yn digwydd i bleidlais UKIP?

Mewn sawl sedd Lafur, mae’r gwahaniaeth rhyngddyn nhw a’r Ceidwadwyr yn llai nag a gafodd UKIP yn 2016.

Erbyn hyn, ryden ni’n gwybod eu bod nhw wedi mynd â phleidleisiau Llafur bryd hynny; felly, be fydd yn digwydd i’r rheiny?

Heb Brexit, ychydig sy’n debyg i aros efo un o’r pleidiau asgell dde ymylol; os bydd Llafur yn llwyddo i ennill rhai yn ôl, mi allai hynny fod yn ddigon i’w hachub nhw.

OND …Pan ddaw hi i’r rhanbarthau, mi allai’r holl lu o bleidiau bach wneud gwahaniaeth trwy fynd ag ychydig bleidleisiau yma ac acw oddi ar y lleill.

Mwy am hynny yn y munud …

13:59

Mae’r canlyniad ym Maldwyn yn argoeli’n wael iawn i’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Roedd disgwyl i’r Ceidwadwr Russell George i ennill y sedd, ond fe wnaeth hynny’n hawdd gan godi ei bleidlais o 6%. Ar yr un pryd syrthiodd y Rhyddfrydwyr yn ôl i’r trydydd safle tu ôl i Blaid Cymru wrth i’w phleidlais hi gwympo o 11%. Gallai tuedd o’r fath drws nesaf ym Mrycheiniog a Maesyfed olygu bod y rhyddfrydwyr yn colli’r sedd honno – ei hunig sedd yn y senedd ar hyn o bryd.

Yn ogystal, os yw pleidlais ranbarthol y Rhyddfrydwyr hefyd yn syrthio ar yr un lefel ar draws y canolbarth yna mae’n bosib iawn na fydd yn llwyddo i gipio sedd restr fel gwobr gysur ac felly ni fydd gan y blaid unrhyw gynrychiolaeth yn y Senedd nesaf.

13:53

Y sylwebydd gwleidyddol, Melanie Owen, yn dweud ar S4C ei bod hi wedi sbwylio ei phapur pleidlais…!

“Doedd na neb roeddwn i’n gallu dewis!” medde Melanie.

Wel, ma hynny’n sylwebaeth…

13:51

Seddi ymylol

Wrth i’r canlyniadau etholaethol ddechrau dod i mewn, un peth sy’n werth ei nodi yw cymaint ohonynt sy’n seddi cymharol ymylol – yn ôl yn 2016 cafodd 13 o’r 40 sedd etholaeth eu hennill o lai na 3,000 o bleidleisiau (h.y. dros chwarter ohonynt) ac mewn 6 etholaeth roedd y mwyafrif buddugol yn is na 1,000 o bleidleisiau. Ai tebyg fydd y patrwm eleni eto?

Yn achos y seddi etholaethol un categori allai ddylanwadu tipyn ar natur y canlyniadau a gawn erbyn diwedd y cyfri yw rheini y mae Llafur yn eu dal ond lle mae’r Ceidwadwyr yn herio.

Mae Llafur yn dal 12 o seddi etholaethol lle roedd y Ceidwadwyr yn yr ail safle yn 2016 ac mae 4 o’r seddi hyn yn rhai lle ma gan Lafur fwyafrif o lai na 2,000 o bleidleisiau. Mae’r seddi ymylol hyn yn cynnwys Bro Morgannwg (777), Dyffryn Clwyd (768), Gwyr (1,829), Wrecsam (1,325).

Yn ogystal mae rhai seddi eraill lle roedd y mwyafrif Llafur yn dipyn mwy sylweddol yn 2016, ond bod y Ceidwadwyr wedi llwyddo eu cipio yn etholiad San Steffan 2019, er enghraifft De Clwyd (3,016) a Delyn (3,582).

Gallai beth sy’n digwydd yn yr etholaethau hyn ddylanwadu tipyn ar beth fydd cydbwysedd grym y Senedd nesaf ym Mae Caerdydd.

Ffactor arall sy’n werth ei gofio wrth ystyried beth allai ddigwydd yn achos nifer o’r seddi  Llafur/Ceidwadol hyn yw dylanwad y bleidlais UKIP ar y canlyniadau nol yn 2016 – bryd hynny roedd 5 o seddi (Bro Morgannwg, Dyffryn Clwyd, Gwyr, Wrecsam a Delyn) lle daeth y Ceidwadwyr yn ail i Lafur ond lle roedd canran y bleidlais i UKIP yn uwch na’r mwyafrif Llafur. Beth fydd yn digwydd i’r bleidlais honno y tro yma?

13:48

Mater arall fydd yn peri pryder i’r Rhyddfrydwyr yw fod canlyniad Maldwyn yn awgrymu y byddant yn ei chael hi’n anodd ennill sedd rhestr yn y Canolbarth a’r Gorllewin.

Mae hynny’n golygu fod dyfodol cynrychiolaeth seneddol y Blaid yn nwylo Bill Powell a Rodney Berman. Mae hynny wrth reswm yn awgrymu fod na beryg gwirioneddol na fydd unrhyw Democratiaid Rhyddfrydol yn y Senedd newydd.

13:46

Mae’r neges gynta’ wedi dod – chwalfa pleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol ym Madlwyn.

Teimlad tebyg sydd yng Ngheredigion, lle mae’r ymgyrch wedi bod yn anweledig bron.

Heb Kirsty Williams ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, mae’n bosib mai dyma ddiwedd dylanwad yr elfen Ryddfrydol yng ngwleidyddiaeth Cymru ers 150 mlynedd.