Etholiad Senedd 2021 – dydd Gwener

Canlyniadau Etholiad Senedd 2021, a’r holl ymateb

Garmon Ceiro
gan Garmon Ceiro
Adeilad y Senedd gyda logo Golwg360

Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.

Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.

17:37

Mae yna batrwm yn datblygu yn yr Alban hefyd … yr SNP yn cadw eu seddi, er waetha ambell symudiad bach iawn i un cyfeiriad neu’r llall.

Mae ganddyn nhw 25 erbyn hyn, a thair i’r Democratiaid Rhyddfrydol.

17:36

Y patrwm yn parhau – Ken Skates yn cadw De Clwyd i Lafur gyda phleidlais fwy iddo fo yn curo cynnydd i’r Ceidwadwyr hefyd.

Yn Nwyrain Abertawe, fe gynyddodd Mike Hedges ei fwyafrif i Lafur, heb fawr o her gan neb.

Ac er i Lafur wneud ychydig yn well, doedd hynny ddim yn ddigon i ennill yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.

Yr enillydd yno, Samuel Kurtz, yn siarad Cymraeg, ac wedi gorfod ymddiheuro am twits ieuenctid yn ddifrïol am bobol hoyw.

17:36

9,700 o fwyafrif i Lafur yn Nwyrain Abertawe.

17:34

Sam Kurtz, siaradwr Cymraeg, yn ennill ras agos iawn yng Ngorllewin Caerfyrddin i’r Ceidwadwyr.

Twf o 9% ym mhleidlais y Blaid Lafur yn gwneud y sedd yn un ymylol – lle nad oedd hi’n darged mewn gwirionedd.

17:34

Y Ceidwadwyr yn cadw Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro gyda mwyafrif o 936.

17:31

De Clwyd yn dilyn patrwm tebyg i Delyn a Wrecsam – cynnydd (mwy y tro hwn) yn y bleidlais i’r Ceidwadwyr, ond y bleidlais i Lafur hefyd yn codi (o 8%), tra bod y bleidlais i UKIP ers 2016 yn chwalu.

Mae’r canlyniadau hyn yn y gogledd ddwyrain yn rhai arbennig o dda i Lafur ac yn rhai siomedig i’r Ceidwadwyr oedd yn hyderus iawn ynghylch y seddi hyn rai misoedd yn ôl.

17:30

Mwyafrif o 8,652 i Siân Gwenllian yn Arfon.

17:29

“Dw i’n llawenhau yn llwyddiant fy nghyfeillion… ym Mhlaid Cymru a’r Blaid Lafur” medd… dyfalwch pwy? Dafydd Elis Thomas.

“Wnes i bleidleisio dros Mark Drakeford” meddai.

17:27

Clamp o fuddugoliaeth i Siân Gwenllian yn Arfon, mwyafrif o bron 40% a 8,652 o bleidleisiau. Cryn ganlyniad yn sedd leiaf poblog Cymru.

Mae’r 13,760 o bleidleisiau gafodd hi y nifer fwyaf i Blaid Cymru ei chael mewn unrhyw etholiad erioed, boed yn y Senedd neu San Steffan.

Mewn ffordd dylai hon fod yn un o’r canlyniadau mwyaf siomedig i Lafur yng Nghymru, a hwythau’n cael diwrnod cystal. Doedd hi ond ddwy flynedd yn ôl iddyn nhw dargedu’r sedd hon yn San Steffan. Sedd brin sy’n edrych o’u cyrraedd bosib.

17:27

“Canlyniadau Llafur yn dda iawn” medd Richard Wyn Jones ar S4C… “ac anodd rhagweld grwp mawr o ddiddymwyr yn cyrraedd y Senedd”.