Etholiad Senedd 2021 – dydd Gwener

Canlyniadau Etholiad Senedd 2021, a’r holl ymateb

Garmon Ceiro
gan Garmon Ceiro
Adeilad y Senedd gyda logo Golwg360

Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.

Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.

17:50

Jeremy Miles wedi cadw Castell Nedd i Lafur…

17:46

Rebecca Evans yn fuddugol yng Ngŵyr gyda mwyafrif o 4,795 i Lafur.

17:46

Angela Burns yn canmol ei holynynydd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro…

https://twitter.com/AngelaJBurns/status/1390708932528820227

17:45

Mae buddugoliaeth Rebecca Evans yn etholaeth Gwyr i Lafur yn un gwbl glir – cynnydd cry’ yn ei phleidlais a fawr o gynnydd i’r Ceidwadwyr.

Aeth 3,300 pleidlais UKIP y tro diwetha ddim at y Ceidwadwyr … ond falle yn ol at Lafur.

17:43

Yn gyffredinol, mae cryfder y blaid Lafur yn yr etholiad yma’n anhygoel, ac yn peri llawer iawn o gwestiynau i’w gwrthwynebwyr.

Mae cryfder y canlyniadau hyd yma’n fwy na chadarnhau ei safle fel prif blaid Cymru.

Yn fwy na hynny, bydd y Ceidwadwyr – yn sgîl eu haflwyddiant llwyr i dorri drwodd mewn cynifer o seddi targed a chanlyniadau agos sir Benfro – a Phlaid Cymru – sy’n segura’n ddifrifol iawn, iawn – yn gofyn i’w hunain beth ar wyneb y ddaear y gallan nhw ei wneud i herio Llafur.

Siŵr o fod maen nhw wedi bod yn gofyn y cwestiynau hyn i’w hunain ers sbel. Ond hyd yma, mae pa atebion bynnag y maen nhw wedi’u cael wedi bod yr atebion anghywir.

Dydi Llafur ddim yn mynd i’r unman.

17:42

Mi allwn ni ddweud bellach yn sicr bron mai’r newid mawr yn y Senedd nesa fydd chwalfa UKIP a’r gwahanol bleidiau a ddeilliodd ohoni. Felly mae yna gwestiwn ynghylch ble y bydd y seddi rhanbarthol oedd gan UKIP yn mynd.

17:42

Pleidlais Plaid Cymru wedi ei gwasgu yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro. Trydydd cymharol wael mewn sedd lle bu o fewn llai na mil o bleidleisiau i’w chipio yn 1999, 2003 a 2007.

17:40

Jack Sargeant yn dychwelyd i’r Senedd yn Alun a Glannau Dyfrdwy.

17:39

Ac eto fyth … Jack Sargeant yn cadw hen sedd ei dad – a’r yn a gymerodd yntau yn isetholiad 2018 – yn Alun a Glannau Dyfrdwy…

Ei bleidlais yn uwch ac yn ddigon i guro cynnydd gan y Ceidwadwyr hefyd.

17:39

“Canlyniad adeiladol iawn i wleidyddiaeth wahanol Cymru,” meddai Dafydd Elis-Thomas am y canlyniadau hyd yn hyn.

Dywedodd Dafydd Elis-Thomas, sydd wedi sefyll lawr yn yr etholiad eleni, mai un o’r pethau’r oedd yn poeni amdanyn nhw ers dechrau datganoli oedd sefydlu dealltwriaeth ynghylch y broses.

“Bob tro dw i’n gweld pethau yn digwydd yn wahanol yng Nghymru o gymharu â Lloegr dw i’n llawenhau.

“Dim dyna’r tro cyntaf i fi bleidleisio dros wahanol bleidiau,” ychwanegodd wrth gadarnhau ei fod wedi pleidleisio dros Mark Drakeford ddoe.

“Mae’n batrwm cyfan gwbl wahanol i Loegr,” meddai Richard Wyn Jones, wrth ddweud fod pleidleisiau UKIP yng Nghymru’n mynd i’r Blaid Lafur, yn hytrach nag i’r Ceidwadwyr.

“Byddai’r Ceidwadwyr wedi gobeithio cynhaeafu’r bleidlais yna,” meddai Richard Wyn Jones am y gwymp yng nghefnogaeth UKIP yn etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.

“Mae hon sedd reit gysglyd. D’oes yna neb wedi trafod y sedd yma, ac nawr mae hi’n sedd ymylol.”