Etholiad Senedd 2021 – dydd Gwener

Canlyniadau Etholiad Senedd 2021, a’r holl ymateb

Garmon Ceiro
gan Garmon Ceiro
Adeilad y Senedd gyda logo Golwg360

Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.

Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.

20:28

Llafur yn cadw Gogledd Caerdydd.

20:27

Mae stori cynghorau lleol Lloegr yn hollol wahanol i Gymru, gyda’r Ceidwadwyr wedi ennill 162 yn fwy o seddi hyd yma a Llafur yn colli 147.

O ganlyniad, mae’r Ceidwadwyr wedi ennill rheolaeth ar saith cyngor ychwanegol a Llafur wedi colli rheolaeth ar bedwar.

Y collwyr eraill ydi’r Democratiaid Rhyddfrydol a’r Annibynwyr tra bod y Blaid Werdd wedi ennill 29 sedd ychwanegol.

20:21

Dere William ‘chan… ni gyd moyn mynd gatre…

20:20

Bydd rhaid dibynnu ar y rhestr … 

Tra bo’r canlyniadau etholaethol hyd yn hyn wedi bod yn mynd o blaid Llafur, mae’r darlun yn un tipyn mwy siomedig i Blaid Cymru, fel y mae eraill eisoes wedi trafod isod.

Yn yr un modd, er gwaethaf cipio Dyffryn Clwyd a’r tebygrwydd o gipio Brycheiniog a Maesyfed, mae’n debyg mai siomedig fydd y Ceidwadwyr hefyd, yn enwedig o ystyried y gobeithion oedd gan aelodau’r blaid ar gyfer yr etholiad hwn yn dilyn ei llwyddiannau yng Nghymru yn 2019.

O ystyried eu perfformiad cymharol siomedig yn yr etholaethau, mae arwyddocâd y seddi rhestr i Blaid Cymru a’r Ceidwadwyr yn cynyddu cryn dipyn ac fe allai ychydig o lwyddiant yma helpu’r ddwy blaid gyda’r her o roi spin cadarnhaol i’r canlyniadau dros y dyddiau nesaf.

Ac mae’n ddigon posib y gallai’r ddwy blaid wneud yn well ar y rhestr y tro hwn nag yn 2016 – nododd Dafydd Trystan eisoes bod perfformiad etholaethol y pleidiau bach (ar wahân i’r Gwyrddion) wedi bod yn wan hyd yn hyn ac felly nid yw’r rhagolygon yn addawol iddyn hwy o ran y seddi rhestr. Gallai hyn fod yn help mawr i’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru, yn enwedig ar draws y dair rhanbarth ddeheuol lle mae 12 sedd ar gael.

Gyda’r cadarnhad y bydd rhanbarth Canol De Cymru yn aros tan fory i gyfri’r pleidleisiau rhestr, bydd angen aros am sbel eto i gael gweld …

20:19

Llafur yn cadw Aberafan.

20:15

Rydyn ni wedi dweud ei bod hi’n ddiwrnod gwael i Blaid Cymru – mae o – ac yn un siomedig i’r Ceidwadwyr – mae o – ond mae’n dod yn gynyddol amlwg fod yr hyn sy’n wynebu’r Democratiaid Rhyddfrydol ar lefel wahanol.

Maen nhw wedi gweld gostyngiadau difrifol yn eu pleidlais yn eu cefn gwlad traddodiadol a’r ardaloedd dinesig y gwnaethon nhw ymwreiddio ynddynt yn ddiweddarach. 16% i lawr yng Nghanol Caerdydd, 22% i lawr yng Ngheredigion, ac 11% i lawr ym Maldwyn gyda Brycheiniog yn edrych yn ddu.

Mae’r blaid wedi cael ei gwasgu o’r blaen, a mynd drwy gyfnodau anodd, ond nid yn agos i’r graddau hyn yng Nghymru.

Nid dweud mawr ydi dweud fod o’n teimlo bod eu cyfraniad at wleidyddiaeth Cymru ar ben.

20:15

Llafur yn cadw Torfaen.

20:14

Wrth dynnu tuag ar derfyn diwrrnod cyntaf y cyfrif rhywfaint o sylwadau mwy personol wrth wrando ar ganlyniadau Llanelli a’r Rhondda.

Rwy’n dweud hyn wedi cydweithio gydag un o’r buddugwyr yn rhadlon iawn am y ddwy flynedd ddiwethaf – mae Lee Waters i’m tyb i yn rhywun a wneith gyfraniad sylweddol i wleidyddiaeth Cymru dros y cyfnod nesaf.

OND, mae Leanne Wood a Helen Mary Jones wedi rhoi oes o wasanaeth i Blaid Cymru ac wedi gweithio dydd a nos dros eu hetholaethau nhw.

Mae’n arwydd o ba mor galed yw gwleidyddiaeth fod y ddwy ddim yn dychwelyd i’r Senedd er gwaetha’ eu gwaith nodedig.

Yr her yn fan hyn yw fod aelodau o bleidiau eraill hefyd yn gweithio eu heinoes allan o blaid yr etholaeth – neu bod y cyd-destun yn tra-arglwyddiaethu ac felly dyw’r gwaith caled ddim yn cael ei adlewyrchu.

Dwi wir yn gobeitio y bydd y ddwy yn parhau i wneud cyfraniad i wleidyddiaeth Cymru, ac am funud neu ddau gobeithio wnewch chi faddau i mi eiiliad neu ddwy siom er gwaetha rhinweddau eu holynwyr.

Diolch Leanne a Helen. Mi fydd y Senedd yn dlotach lle hebddoch

20:13

Er gwaethaf siom fawr i Blaid Cymru yn Llanelli, mae’n debyg mai yn y Rhondda y bydd ganddi’r cwestiynau mwyaf anodd i’w hateb.

Pam fod y canlyniad yno mor wahanol i’r seddau y llwyddodd Plaid Cymru i’w cadw? (Gan gymryd y bydd etholaeth Adam Price yn dilyn patrwm tebyg i seddau eraill y gorllewin.) Ni ellir beio methiant Leanne Wood am ddiffyg sylw ar y cyfryngau, ac mae hi wedi bod yn aelod gweithgar ac adnabyddus yn lleol.

Mae’r Rhondda wedi dioddef yn waeth na’r rhan fwyaf o leoedd yn sgil Covid, ond dydi hyn ddim wedi effeithio ar boblogrwydd Llywodraeth Cymru.

Mae’n ymddangos mai dim ond unwaith yn y pedwar amser mae Plaid Cymru’n llwyddo yn y cymoedd a’u bod nhw’n gwbl analluog i ddal gafael ar unrhyw enillion. Yn sicr, byddai disgwyl i boblogrwydd personol Leanne Wood wedi sicrhau pleidlais uwch na’r hyn a gafodd.

Efallai fod Llanelli fymryn yn fwy anodd iddyn nhw’r tro hwn. Er bod Helen Mary Jones yn ffigur adnabyddus yn genedlaethol, rhaid cofio nad ydi hi wedi cynrychioli Llanelli ers 10 mlynedd bellach, ac roedd ganddi wrthwynebydd cryf yn Lee Waters.

20:11

Llafur yn cadw Canol Caerdydd.