Etholiad Senedd 2021 – dydd Gwener

Canlyniadau Etholiad Senedd 2021, a’r holl ymateb

Garmon Ceiro
gan Garmon Ceiro
Adeilad y Senedd gyda logo Golwg360

Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.

Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.

20:45

O ystyried y mwyafrifau trawiadol mae Plaid Cymru wedi eu cael yn y gogledd-orllewin a Cheredigion, rhaid bod rhywfaint o siom personol i Adam Price nad adlewyrchwyd hyn yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, ei sedd ei hun, gyda’r blaid Lafur yn cau’r bwlch arno a’r Ceidwadwyr hefyd yn cynyddu eu pleidlais gan 8%.

Mae ei fwyafrif o 6,813 (20.5%) yn un hynod o barchus, ond ni ellir gwadu ei fod yn ganlyniad tra wahanol i weddill y Fro Gymraeg.

20:45

Llafur yn cadw Cwm Cynon.

20:44

Buddugoliaeth gysurus a chlir I Adam Price yn ei etholaeth, ond ni lwyddodd i gael cyfran lawn gymaint o’r bleidlais â’i gyd-aelodau seneddol Plaid Cymru yn y pedair etholaeth arall.

20:44

“I ddweud y peth amlwg, o safbwynt Llafur mae’n ganlyniad gwyrthiol, mae canran eu pleidlais yn 39% ar hyn o bryd,” meddai Vaughan Roderick am lwyddiant y Blaid Lafur.

“Roedd eu canlyniad gorau erioed yn hanes Cymru yn 2011 ar 42%,” ac yn ôl Vaughan Roderick maen nhw’n anelu at hynny eto.

“Buddugoliaeth i blaid sydd wedi bod mewn grym ers 20 mlynedd, d’yw pethau fel hyn ddim yn digwydd mewn democratiaethau.

“Mae Llafur Cymru fel asterix yn dal i oroesi.

“Mae eu gallu nhw i ffeindio ffordd i ennill yn ddigon i ryfeddu dyn.”

Yn gynharach fe wnaeth Jeremy Miles sylw fod y Blaid Lafur wedi defnyddio “gwladgarwch” fel rhan o’u hymgyrch.

“Byddai nifer o aelodau pleidiau adain chwith Ewrop yn gweld hynny fel problem,” meddai Richard Wyn Jones.

“Ond rhan o lwyddiant Llafur yng Nghymru yw eu bod nhw’n gwneud hynny.

“Maen nhw’n taro tant yng Nghymru drwy hynny,” ac ategodd fod hynny’n wir ar gyfer yr SNP yn yr Alban, a’r Ceidwadwyr yn Lloegr.

20:42

Vaughan Roderick yn disgwyl “trafod a thrin” am beth amser ar ol yr etholiad, a dim cyhoeddiad mawr am drefniant, a Richard Wyn Jones yn dweud bod Llafur wedi gwneud mor dda bod y trafod yn “anos – bydd lot o aelodau’n gofyn ‘pam wnawn ni ddim llywodraethu ar ein liwt eun hun?”

Mae’n rhagweld bod clymblaid ffurfiol yn “llawer anos”….

Ac mae Seimon Brooks yn cytuno, ac yn dweud bod gan Lafur “fandad amlwg” i lywodraethu ar eu pen eu hunain…

20:42

Mwyafrif o 6,813 i Adam Price yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

20:41

Mae Adam Price wedi dangos ei wyneb o’r diwedd. Yn siarad â’r BBC roedd yn rhyfeddol o bositif. “Rydym wedi troi’n fudiad Cymru gyfan,” meddai.

Ry’n ni wedi gweld cyfweliadau gan Mark Drakeford ac Adam erbyn hyn. Felly ble ar y ddaear mae Andrew RT Davies yn cuddio?!

20:39

Pe bai Llafur yn llwyddo i ddal gafael ym Mro Morgannwg yn groes i bob disgwyl, mi fydden nhw’n agos iawn at fwyafrif.

Roedd eu buddugoliaeth rwydd yng Ngogledd Caerdydd yn arwydd clir o’r ffordd mae’r gwynt yn chwythu. Rhaid cofio bod hon yn etholaeth mae’r Toriaid wedi ei dal yn y Senedd rhwng 2007 a 2011.

20:38

Pum sedd etholaethol ar ôl! Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Cwm Cynon, Pontypridd, Gorllewin Caerdydd a Bro Morgannwg.

Does dim disgwyl unrhyw syrpreis mawr â phedair o’r rhain, ond mae’n ddigon posib y bydd Bro Morgannwg yn gyffrous. Tybed a wneith Jane Hutt – sydd wedi cynrychioli’r sedd ers dechrau datganoli – yn cadw’i gafael ar y sedd?

Wel, mae’n edrych yn debygol y bydd hi…

 

20:38

Buddugoliaethau mawr eraill i Lafur yng Ngogledd Caerdydd a De Caerdydd a Phenarth…