Etholiad Senedd 2021 – dydd Gwener

Canlyniadau Etholiad Senedd 2021, a’r holl ymateb

Garmon Ceiro
gan Garmon Ceiro
Adeilad y Senedd gyda logo Golwg360

Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.

Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.

17:08

Ycyhydig oriau’n amser hir mewn gwleidyddiaeth … Ro’n i’n meddwl y bore yma y gallai Llafur ennill hyd at 27 o seddau petai pethau’n mynd o’i phlaid – o weld y canlyniadau ac ystyried y sibrydion, dydi o ddim yn edrych yn amhosibl fod 29 allan o’u cyrraedd erbyn hyn. Byddai hynny’n ganlyniad anhygoel iddyn nhw.

17:07

Hefin David wedi cadw Caerffili i’r Blaid Lafur… a hynny gyda mwyafrif mwy o 5,078.

17:07

Sgriwtini – gormod ynteu ddiffyg?

Roedd David TC Davies, Aelod Seneddol Sir Fynwy, yn ddigon swrth wrth siarad â BBC Wales rhai munudau yn ôl.

Roedd yn siarad fel pe bai’r Ceidwadwyr eisoes wedi profi etholiad gwael yng Nghymru – er bod ganddyn nhw fwy o seddi nag unrhyw blaid ar hyn bryd.

A’r cyfryngau oedd yn cael y bai.

“A phob parch i chi – a dw i ddim yn pigo ar y BBC yn benodol – ond dw i ddim yn credu bod Llywodraeth llafur Cymru yn wynebu unrhyw beth tebyg i’r lefel o sgriwtini a Llywodraeth San Steffan,” meddai.

“Dw i ddim hyd yn oed yn siŵr os oes digon o [newyddiadurwyr] yno i roi Llafur dan yr un lefel o sgriwtini â San Steffan.”

Mae’r mater yma yn un diddorol.

Yn siarad â Golwg rhai wythnosau yn ôl dywedodd Lee Waters, AoS Llafur, bod ei blaid yntau yn wynebu llawer yn fwy o sgriwtini na’r pleidiau eraill.

Heb os mae’r cynadleddau wasg covid-19 wedi codi proffil ffigyrau o’r blaid Llafur, ac os caiff Llafur noson dda allwn ddisgwyl tipyn o gwyno am hyn gan y gwrthbleidiau.

17:05

Llafur yn cadw Delyn gyda mwyafrif o 3,711.

17:04

Llafur yn cadw Delyn.

Er fod y Ceidwadwyr wedi codi eu pleidlais yn Nelyn, mi wnaeth Llafur yr un peth wrth i Hannah Blythyn guro – dydi ffenomenon Hartlepool ddim yn digwydd yn y gogledd-ddwyrain hyd yn hyn.

17:03

Hannah Blythyn wedi cadw Delyn i’r Blaid Lafur…

17:02

Pump o’r gloch, oriau o gyfrif, tri chanlyniad.

Bydd y sawl ohonoch oedd yn siomedig na fyddech chi’n cael noson etholiad efallai’n teimlo’n well fod hyn yn debygol o bara’n hirach na’r disgwyl!

16:56

Anfonwch fwyd i’r Rhondda…!

Er, ma Chris Bryant edrych fel se fe’n mwynhau…

16:46

Eluned Morgan o’r Blaid Lafur yn awgrymu bod arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi colli rhywfaint o gefnogaeth trwy fod yn rhy “arlywyddol” a pheidio a rhoi llwyfan i rai fel Leanne Wood.

Y cyn-AoS o’r Blaid, Bethan Sayeed, yn lled-gytuno: “wastad yn well dangos ystod eang o ymgeiswyr”.

16:44

Mae’n llai nag wythnos ers i Adam Price ddweud ei fod yn disgwyl i Blaid Cymru gael “canlyniad hanesyddol” yn etholiadau’r Senedd eleni.

Gydag Aberconwy efallai’n dechrau llithro o’i gafael yn ôl rhai ffynonellau, a Llanelli yn ôl Llafur am ddychwelyd Lee Waters “yn braf”, bosib ei fod yn gywir, am y rhesymau anghywir.

A hithau’n edrych yn gynyddol debygol bod y Blaid am lithro’n ôl unwaith yn rhagor i ennill ei nifer leiaf o etholaethau, sef pump traddodiadol y Fro Gymraeg, erioed – fel yn 2003 a 2011 – tybed a oedd y disgwyliadau’n afrealistig?

A fydd achubiaeth ar y rhestri? Wel, fyddwn ni ddim yn gwybod hynny tan yfory!