Etholiad Senedd 2021 – dydd Gwener

Canlyniadau Etholiad Senedd 2021, a’r holl ymateb

Garmon Ceiro
gan Garmon Ceiro
Adeilad y Senedd gyda logo Golwg360

Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.

Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.

14:55

John Curtice, yr arbenigwr etholiadau, yn credu bod yr SNP yn sicr o fod yn blaid fwya’r Alban… ond rhy gynnar i ddweud a fydd ganddyn nhw fwyafrif clir.

14:54

Os, fel sy’n edrych yn debygol o’r sïon, bydd Plaid Cymru’n colli’r Rhondda… a fydd eu pleidlais yn ddigon i gael ail sedd ranbarthol…?

Mae hynny’n dibynnu i raddau ar hynt pleidlais UKIP…

14:51

O’r hyn dwi’n ei glywed mae Aberconwy yn bell o fod wedi ei benderfynu.

Ond mae ymgeisydd egniol Plaid Cymru yn sicr wedi rhoi rhywfaint o her i Janet Finch Saunders y deilydd Ceidwadol.

Yng nghyd-destun popeth arall ry’n ni di clywed hyd yn hyn am berfformiad y Blaid byddai ennill neu dod yn ail gref yn ganlyniad da iawn i Aaron Wynne ac yn argoeli’n dda am ei ddyfodol yntau fel un o ymgeiswyr y Blaid i’r dyfodol.

Byddai canlyniad da i Blaid Cymru yn Aberconwy (ail cryf) hefyd yn cynnig gobaith gwirioneddol o ddwy sedd rhestr i’r Blaid.

14:50

Canlyniadau lleol Lloegr

“Mae awgrym cynnar bod Keir Starmer wedi methu ag atal y dirywiad pellach yn ei gefnogaeth,” meddai Elliw Gwawr wrth siarad ar S4C.

Dywedodd fod y rhai a wnaeth bleidleisio dros Brexit, wedi symud tuag at gefnogi’r Ceidwadwyr, a bod “isetholiad Hartlepoool yn enghraifft o hynny, sedd gryf i Lafur ers iddi gael ei ffurfio.”

Ychwanegodd ei fod yn “dipyn o gamp i’r Ceidwadwyr” allu ennill o 7,000 o bleidleisiau, ac i’r blaid sydd mewn llywodraeth ers cydyd allu ennill is-etholiadau.

“Mae cynghorau yn y gogledd lle mae llafur wedi cadw grym yn y cyngor ers hynny, mae nhw wedi’u colli nawr.

“Dim one-off oedd hyn yn 2019, ond bod newid hirdymor, o bosib, yn fan hyn lle mae cefnogwyr Llafur yn troi at y blaid Geidwadol.”

Ategodd fod cwestiynau’n cael eu codi ynghylch arweinyddiaeth Keir Starmer.

14:49

Llafur wedi “trio rhwystro’r llif”

Yn siarad ar S4C mae Richard Wyn Jones, academydd o Brifysgol Caerdydd, wedi taflu goleuni ar strategaeth Llafur Cymru eleni.

Yn etholiad cyffredinol 2017 wnaeth Llafur yn “dda iawn” ymysg pobol sy’n teimlo’n Gymreig, ac mae’r blaid wedi ceisio manteisio ar hynny eleni, meddai.

“Mae yna garfan o bleidleiswyr sydd yn mynd o’r Blaid Lafur i Blaid Cymru – gan ddibynnu os yw’n etholiad San Steffan neu’n etholiad datganoledig,” meddai. “Maen nhw’n trio rhwystro’r llif.

“Felly mae’r ymgyrch wedi bod yn Gymreig. Os ydych chi’n edrych ar y darllediadau gwleidyddol mae yna gorau a baneri Cymru, ac mae yna fryniau gwyrdd hardd! Mae’r cenedlaetholdeb meddal yna.”

Wrth drafod y Rhondda dywedodd bod Llafur wedi ceisio’i gorau glas i gipio’r sedd rhag Plaid Cymru – yn rhannol, meddai, oherwydd y gallan nhw gipio’r sedd heb ddryllio’i gobeithion yn rhanbarth Canol De Cymru.

14:46

Carwyn Jones am Ddyffryn Clwyd, 46.3% wedi pleidleisio yno.

“Dyna’r nifer mwyaf sydd wedi pleidleisio yn yr etholaeth yno erioed,” meddai Carwyn Jones.

“Dw i’n meddwl fod hynny’n galonogol.”

14:45

Bethan Sayed – “ddim yn clywed bod pethau’n rhy dda i’r Blaid yn y Rhondda”

14:44

Dim nawr, Dafydd! ;-)

14:42

Wedi clywed bod gan Blaid Cymru “dim gobaith” bellach o gadw’r Rhondda.

Os digwydd hynny, bydd hi’n achos arall o’r Blaid yn ennill seddi am un tymor yn unig heb fethu dal ei gafael arnynt. A rhaid gofyn, os na all Leanne Wood – sydd mae’n bosib dadlau o hyd y gwleidydd amlycaf sydd gan Blaid Cymru – wneud hynny, pwy all? A sut?

14:40

Mae seddi yn yr Alban hyd yma yn mynd yn ôl y disgwyl a dirprwy arweinydd yr SNP, John Swinney, wedi cadw’i sedd efo mwyafrif mwy ond symudiad bach, bach at y Ceidwadwyr.

Maen nhw hefyd wedi cadw seddi Aberdeen Donside, Clyde and Milngavie (lle cafodd Llafur gynnydd o 10%) a’r ynysoedd Na h-Eileanan. Fel yng Nghymru, mae yna arwyddion cynnar o lefel weddol uchel o bleidlais.