Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.
Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.
Ail-gyfrif am ddigwydd yn Nyffryn Clwyd, y Ceidwadwyr ar y blaen o drwch blewyn.
O ystyried fod hon yn sedd a oedd yn odds on iddyn nhw ei chipio, mae hyn yn eithaf annisgwyl, ac yn awgrymu bod ‘wal goch’ Llafur yng ngogledd-ddwyrain Cymru efallai’n wytnach nag yr oeddem ni’n ei ddisgwyl.
Os taw dim ond crafu dros y llinell ddarfod a wnaiff y Torïaid yma, eu prif sedd darged ynghyd â Bro Morgannwg, mae’n awgrymu dargyfeiriad sicr iawn rhwng gwleidyddiaeth Cymru a Lloegr a diwrnod siomedig i’r Ceidwadwyr ar ôl disgwyliadau mawr yma.
Gallai ail gyfnod Andrew RT wrth y llyw fod yn un byr.
Aberconwy
“Mae hi wedi bod yn ras tri cheffyl dros y blynyddoedd,” meddai Elen Wyn, un o sylwebwyr S4C, am y frwydr yn Aberconwy.
“Dw i wedi bod yn siarad gyda Janet Finch-Saunders, a dywedodd hi ei bod hi’n dawel hyderus, a’i bod wedi dotio efo’r holl gefnogaeth drwy’r pleidleisiau post.
“Ond mae Aaron Wynne yn dawel hyderus hefyd, ond ddim eisiau bod yn rhy hyderus chwaith.
“Mae gan Blaid Cymru fynydd i’w ddringo i gipio yr etholaeth yma, neu ella ddim cweit, bryn neu allt ella.”
“Gobeithio’ch bod chi’n gwneud y mwyaf o’r heulwen heddiw ’ma” medd Megan Williams Tywydd ar S4C…
…ddim rili, Megan! Ni’n styc o fla’n cyfrifiadur.
Tywydd gwlyb i ddod gyda llaw. :-(
Diolch i bawb wnaeth gynnig atebion i’r pos bach wrth gychwyn y cyfrif … y cwestiwn:
Faint o etholaethau mae Plaid Cymru wedi eu hennill a’u cadw tu allan i’r Fro Gymraeg?
Yr ateb hyd heddiw yw… sero.
Ac mae arnai ofn i selogion y Blaid mod i bellach yn disgwyl i’r record hynny barhau pan glywn ni ganlyniad y Rhondda yn hwyrach heddiw.
Mae’r ystadegyn yn cynnig her i Blaid Cymru wrth reswm ac yn un o’r pethau rwy’n siwr y bydd yn destun crafu pen yn dilyn etholiad a fydd yn gweld cynnydd pwrpasol mewn rhai mannau a chanlyniadau siomedig (iawn) mewn mannau eraill.
Bethan Sayed yn dweud ar y BBC fod Adam Price yn “arweinydd newydd ac mae angen amser ar arweinwyr newydd” a chael ei holi am ei ddyfodol wrth y llyw, er nad atebodd hi hynny’n glir. Ond mae’n eithaf rhyfeddol, ar ôl un canlyniad yn unig, am dri o’r gloch y pnawn, nad dyma’r tro cyntaf heddiw i’w ddyfodol gael ei drafod.
Ydy cyllyll cenedlaetholgar yn cael eu miniogi’n barod?
Gary Pritchard yn siarad gyda’r Gohebydd Democratiaeth Leol, Gareth Wyn Williams, yn dilyn ei fuddugoliaeth yn ward Siriol yn is-etholiad Cyngor Môn…
Gary Pritchard yn dilyn ei fuddugoliaeth yn ward Seiriol. pic.twitter.com/ZPf186UGvk
— Gareth Wyn Williams (@GarethWyn84) May 7, 2021
Dyma glip i chi o Chris Bryant, Aelod Seneddol y Rhondda, yn ymfalchio yn y sïon y bydd Leanne Wood, AoS Plaid Cymru y Rhondda, yn colli ei sedd…
“Dw i’n obeithiol iawn y bydd Mark Drakeford yn medru ffurfio Llywodraeth heb unrhyw fath o glymblaid â Phlaid Cymru,” meddai.
"People wanted to give Plaid a chance last time and frankly, Leanne and Adam Price have blown it"
Labour MP @RhonddaBryant says Plaid Cymru have missed their opportunity in the Rhondda. #SeneddElection2021 https://t.co/GidcoiD9d8 pic.twitter.com/xgjBgsVys2
— ITV Wales News (@ITVWales) May 7, 2021
John Curtice, yr arbenigwr etholiadau, yn credu bod yr SNP yn sicr o fod yn blaid fwya’r Alban… ond rhy gynnar i ddweud a fydd ganddyn nhw fwyafrif clir.
Os, fel sy’n edrych yn debygol o’r sïon, bydd Plaid Cymru’n colli’r Rhondda… a fydd eu pleidlais yn ddigon i gael ail sedd ranbarthol…?
Mae hynny’n dibynnu i raddau ar hynt pleidlais UKIP…
O’r hyn dwi’n ei glywed mae Aberconwy yn bell o fod wedi ei benderfynu.
Ond mae ymgeisydd egniol Plaid Cymru yn sicr wedi rhoi rhywfaint o her i Janet Finch Saunders y deilydd Ceidwadol.
Yng nghyd-destun popeth arall ry’n ni di clywed hyd yn hyn am berfformiad y Blaid byddai ennill neu dod yn ail gref yn ganlyniad da iawn i Aaron Wynne ac yn argoeli’n dda am ei ddyfodol yntau fel un o ymgeiswyr y Blaid i’r dyfodol.
Byddai canlyniad da i Blaid Cymru yn Aberconwy (ail cryf) hefyd yn cynnig gobaith gwirioneddol o ddwy sedd rhestr i’r Blaid.