Etholiad Senedd 2021 – dydd Gwener

Canlyniadau Etholiad Senedd 2021, a’r holl ymateb

Garmon Ceiro
gan Garmon Ceiro
Adeilad y Senedd gyda logo Golwg360

Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.

Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.

16:56

Anfonwch fwyd i’r Rhondda…!

Er, ma Chris Bryant edrych fel se fe’n mwynhau…

16:46

Eluned Morgan o’r Blaid Lafur yn awgrymu bod arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi colli rhywfaint o gefnogaeth trwy fod yn rhy “arlywyddol” a pheidio a rhoi llwyfan i rai fel Leanne Wood.

Y cyn-AoS o’r Blaid, Bethan Sayeed, yn lled-gytuno: “wastad yn well dangos ystod eang o ymgeiswyr”.

16:44

Mae’n llai nag wythnos ers i Adam Price ddweud ei fod yn disgwyl i Blaid Cymru gael “canlyniad hanesyddol” yn etholiadau’r Senedd eleni.

Gydag Aberconwy efallai’n dechrau llithro o’i gafael yn ôl rhai ffynonellau, a Llanelli yn ôl Llafur am ddychwelyd Lee Waters “yn braf”, bosib ei fod yn gywir, am y rhesymau anghywir.

A hithau’n edrych yn gynyddol debygol bod y Blaid am lithro’n ôl unwaith yn rhagor i ennill ei nifer leiaf o etholaethau, sef pump traddodiadol y Fro Gymraeg, erioed – fel yn 2003 a 2011 – tybed a oedd y disgwyliadau’n afrealistig?

A fydd achubiaeth ar y rhestri? Wel, fyddwn ni ddim yn gwybod hynny tan yfory!

16:42

Bodlonrwydd sy’n anfodloni

Yn siarad â BBC Wales mae Mark Drakeford wedi dweud na ddylwn fod yn anfodlon os nad yw tyrnowt yn llawer uwch eleni.

“Wel dw i’n credu yr oedd hi’n etholiad hynod anodd o ran tyrnowt,” meddai. “Dw i wedi cwrdd â phobol sydd yn nerfus ynghylch mynd i’r orsaf bleidleisio.

“Maen nhw’n bryderus am nad ydyn nhw wedi gadael eu tai cyhyd – wythnosau, os nad misoedd i rai.

“Rydym wedi gweld ciwiau mewn llawer o orsafoedd pleidleisio yma, gyda phobol yn troi am adre heb bleidleisio am ei fod yn cymryd cyhyd.

“Felly ar y cyfan mae’r amgylchiadau [wedi bod yn anodd] ac mae cyfyngiadau wedi bod ar yr ymgyrchu.

“Felly byddai cael tyrnowt jest ychydig yn uwch yng Nghymru, wel, ni ddylid peidio â chanmol hynny.”

Mae yna awgrym bod canran y rheiny a bleidleisiodd ar ei fyny ond ddim dros 50% – dyw’r tyrnowt erioed wedi cyrraedd 50%, heb sôn a bod yn uwch na hynny.

Ydy safiad Marky D yn dal dŵr? Sa i’n berffaith siŵr bod e’…

Wedi 20 mlynedd o ddatganoli, ac ar ôl deuddeg mis lle mae proffil Llywodraeth Cymru wedi bod yn uwch nag erioed, dylai fod y Cymry yn fwy parod nag erioed i fwrw pleidlais tros eu Senedd.

Onid methiant fyddai peidio a chael record o dyrnowt?

16:42

“Roedden ni’n disgwyl cael canlyniad da heddiw, ond roedden ni’n gwybod hefyd ein bod ni ddim am ennill,” meddai Glyn Davies, Cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig, am obeithion ei blaid heddiw.

“Roedd yn bwysig symud ymlaen o’r tro diwethaf.

Aeth Glyn Davies yn ei flaen i ddymuno “pob lwc” i’r Blaid Lafur,

“Dw i’n credu y bydd y Ceidwadwyr yn dod yn ail yn yr etholiad, dw i’n disgwyl i Lafur fod y blaid mwya.

“Mae wedi bod yn etholiad od iawn, bydd pawb yn dweud ein bod ni methu cnocio ar ddrysau, fod pobol ddim isio siarad, a dydyn ni methu cysylltu â phobol.”

Ychwanegodd Glyn Davies ei bod hi’n bwysig fod y Ceidwadwyr Cymreig yn symud ymlaen ar ôl yr etholiad.

16:39

Ffynhonnell Geidwadol yn dweud wrth S4C y bydd Wrecsam yn aros yn nwylo Llafur…

16:36

Y sïon diweddara ydi fod Llafur yn weddol hyderus yn Wrecsam ac Alyn a Glannau Dyfrdwy… ond Plaid Cymru’n llai gobeithiol am gipio Aberconwy.

16:29

Ar ôl clywed am ei buddugoliaeth, fe wnaeth Nicola Sturgeon ddiolch i’r Swyddog Canlyniadau, a phawb sydd wedi gweithio i sicrhau fod yr etholiadau’n cael eu cynnal yn yr Alban.

“Mae’r etholiad yma yn un sydd wedi’i gynnal dan amgylchiadau anodd a heriol, fel pob agwedd arall ar ein bywydau.

“Hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i’r tîm ymgyrchu.

“Braint bennaf fy mywyd yw cynrychioli’r etholaeth sydd gan yr amrywiaeth diwylliannol mwyaf yn yr Alban.

“Rydyn ni yn nyddiau cynnar iawn, iawn y marathon cyfri hwn.

Ategodd Nicola Sturgeon eu bod nhw “ar y ffordd i gael y fraint o ffurfio’r Llywodraeth nesaf.”

16:26

Ble ydyn ni?

A hithau bron yn 8 awr ers cychwyn y cyfrif mae gennym gronfa fechan iawn o ganlyniadau i’w dadansoddi.

Ond erbyn hyn mae digon o sibrydion ac awrgymiadau gan y pleidiau. Mae hi erbyn hyn yn bosibiliad real taw dim on Dyffryn Clwyd bydd y Ceidwadwyr yn ei gipio oddi ar Lafur heno.

Gyda disgwyliadau mor uchel a pherfformiadau cryf yn Lloegr byddai hynny’n ganlyniad siomedig iawn i’r Ceidwadwyr.

Fel arall mae hi i Lafur, gyda’r Rhondda wedi ei chipio yn ol pob golwg a phleidlais gref ar draws y wlad gall Mark Drakeford ddisgwyl dychwelyd i’r Senedd gyda rhwng 28 a 30 o seddi – dyw hi ddim yn amhosib hyd yn oed i Lafur gipio 31 sedd – mwyafrif clir am y tro cyntaf yn ei hanes.

Mae tipyn o bleidleisiau eto i’w cyfrif ond rwy’n amau taw’r siampen coch fydd yn cael ei oeri ar hyn o bryd … er o nabod y Prif Weinidog mae’n bosib taw gwin neu cordial cartref wedi ei wneud o ffrwythau o’r allotment fydd ei ddewis yntau!

16:25

Y Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud na fyddai’n cymryd arwyddion y gallai Llafur gipio’r Rhondda oddi ar Leanne Wood fel arwydd bod awydd ei phlaid am annibyniaeth i Gymru wedi cael ei guro.

Dywedodd: “Rwy’n siŵr nad yw ar ben fel dadl. Ond gallaf ddweud wrthych yn gwbl onest, y cannoedd o ddrysau a gurais a sgyrsiau a gefais, ni soniodd yr un person am y gair annibyniaeth i mi.

“Felly, i rai pobl mae’n ffocws go iawn, mae’n defnyddio eu syniad o ddyfodol Cymru. Ond ar garreg y drws doedd e ddim yn digwydd mewn gwirionedd.”