Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.
Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.
Julie James wedi cadw Gorllewin Abertawe i’r Blaid Lafur…
Seimon Brooks yn croesawu llwyddiant Alun Davies ym Mlaenau Gwent a “dull amlbleidiol tuag at faterion cyfansoddiadol” i wladgarwyr…
https://twitter.com/Seimon_Brooks_/status/1390718375987453958
Fel hyn y mae hi’n edrych ar hyn o bryd. Llafur a’r Ceidwadwyr yn cynyddu eu pleidlais yn barchus iawn hyd yma; er, wrth gwrs, yn achos yr ail, ddim digon yn y llefydd cywir.
Bydd y Ceidwadwyr yn gobeithio am berfformiad tebyg yn y rhestri, lle mae nifer y pleidleisiau’n mynd i fod yn bwysig iawn o ystyried eu haflwyddiant cymharol yn yr etholaethau.
Fodd bynnag, os ydi cyfran ddigonol o’u cefnogwyr yn dewis pleidiau eraill fanno – o bosib Plaid Diddymu, Reform neu hyd yn oed UKIP – gallai pethau fod yn anos o lawer.
Y cwestiwn ydi, a fyddai peidio ag ennill etholaethau er mwyn ennill seddi rhestr yn fargen y bydd y sawl sy’n rhedeg blaid yn fodlon arni.
https://twitter.com/EuropeElects/status/1390719095713185793
Llafur yn cadw Gorllewin Abertawe.
“Dw i’n ffyddiog y cawn ni fwyafrif parchus iawn ym Mrycheiniog a Maesyfed,” meddai’r ymgeisydd Ceidwadol Tomos Dafydd Davies.
Nid yw’r Blaid Geidwadol wedi llwyddo i fwrw’r ‘wal goch’ yn y Gogledd Ddwyrain, “i’r un graddau yr oedden ni’n ei ddisgwyl, ac yn gobeithio amdano,” meddai.
“Maen nhw’n seddi nad ydyn ni erioed wedi’u cipio yng nghyd-destun datganoli, ac fe ddaethom ni o fewn trwch blewyn.
“Mae’n rhwystredig bod o fewn trwch blewyn.”
Tra bo fi’n cael paned fe gewn ni musical interlude….
https://twitter.com/gaitoms/status/1390719994145689607
Yr hyn sydd fwyaf trawiadol am ganlyniad Ynys Môn ydi’r gwahaniaeth anferth rhwng patrymau pleidleisio etholiadau Senedd Cymru a San Steffan. Lai na 18 mis yn ôl, trydydd oedd Plaid Cymru, ac ymgeisydd ddieithr o Kensington yn cipio’r sedd i’r Toriaid. All barn yr etholwyr ddim bod wedi newid cymaint â hynny mewn amser mor fyr.
Mae patrwm cenedlaethol cyson wedi bod o Blaid Cymru’n gwneud yn well yn etholiadau Senedd Cymru – o leiaf o ran canrannau – a’r Toriaid ddim cystal. Un ffactor dros hyn yn sicr yw bod elfennau mwy Cymreig y boblogaeth yn fwy tebygol o bleidleisio yn etholiadau Senedd Cymru. Lle mae rhywle fel Môn yn y cwestiwn, fodd bynnag, mae’n amlwg fod miloedd o bobl yn pleidleisio i bleidiau gwahanol yn y ddau etholiad.
Ry’n ni dros hanner ffordd nawr o ran canlyniadau etholaethau. Os ‘ych chi wedi bod yn dilyn o’r dechre – da iawn chi!
Sôn am ddiwrnod diflas i’r Ceidwadwyr yn eu seddi targed.
Roedd ganddyn nhw un llygad ar Ynys Môn, nid i’w hennill ond i atgyfnerthu eu pleidlais yn barod at etholiadau sydd i ddod.
Er eu bod nhw wedi cynyddu eu pleidlais gan 9% (yn bennaf drwy waddol UKIP), mae Rhun ap Iorwerth wedi’i ddychwelyd gyda mwyafrif o bron i ddeg mil, gan o bosib eto sicrhau mwyafrif uchaf Cymru (o ran nifer y pleidleisiau).
Byddan nhw wedi gobeithio cau’r bwlch hwnnw’n sylweddol fwy na hyn.
Ar lefel y Senedd, mae’n werth nodi ei bod hi’n ymddangos hefyd fod Llafur yn tanberfformio’n gymharol yn ardaloedd traddodiadol y Fro Gymraeg. Gallai fod goblygiadau gwleidyddol i hynny o ran pa flaenoriaeth a gaiff y Gymraeg dros y Senedd nesaf.
Huw Irranca-Davies yn cadw Ogwr i’r blaid Lafur.