Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.
Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.
Pethau i edrych amdanyn nhw…. Rhif 1
Faint fydd yn pleidleisio?
Fel rheol mae nifer isel o bleidleiswyr yn ffafrio’r pleidiau sydd â chefnogaeth soled a threfniadau da – hyd yn oed yn oes y pleidleisiau post.
Erbyn hyn, oherwydd y post, dydi’r tywydd ddim yn cael cymaint o effaith: yr hen syniad oedd, tywydd braf = da i Lafur.
Weithiau, mi allwch chi gael lefel pleidleisio’n amrywio’n sylweddol rhwng plaid a phlaid – os ydi cefnogwyr wedi cael eu siomi.
Mi ddigwyddodd hynny i Lafur fwy nag unwaith mewn etholiadau diweddar.
Un elfen fach arall ychwanegol y tro yma – faint o’r bobol ifanc 16 ac 17 oed fydd yn pleidleisio; roedd llai na’r hanner wedi cofrestru.
Canlyniad Maldwyn yn un difyr iawn. Dim sioc o ran y fuddugoliaeth Geidwadol sylweddol – ond y Democratiaid Rhyddfrydol yn drydydd y tu ôl i Blaid Cymru (na wnaeth, chwi gofiwch, sefyll yma yn Etholiad Cyffredinol 2019). Os ydi patrwm tebyg yn cael ei ailadrodd yn eu pleidlais ledled Cymru, bydd hyd yn oed ennill sedd restr yn heriol.
Er bod sylw heddiw ar bleidiau eraill, mae posibiliad cryf y bydd yr hen draddodiad Rhyddfrydol Cymreig yn dod i ben yn gyfan gwbl heddiw mewn ffordd ddigon anurddasol.
David Deans o’r BBC yn nodi bod pleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol i lawr 10.9% … etholiad anodd arall iddyn nhw o bosib…
https://twitter.com/DeansOfCardiff/status/1390647735326593025
Â’r canlyniadau yn dod trwyddo gyda’r dydd eleni, mae newyddiadurwyr hyd a lled Cymru wedi bod yn llawenhau – noson gynnar oedd hi i’r rhan fwyaf ohonom neithiwr!
Wedi dweud hynny mae disgwyl diwrnod ddigon hir heddiw, ac mae newyddiadurwyr amlycaf Cymru wedi rhoi cip tu ôl y llen o’r hyn a fydd yn cadw nhw i fynd dros yr oriau nesa’…
Dim ond dŵr a ffrwythau sydd gan griw golwg360 – ry’n ni’n griw iach!
https://twitter.com/DeansOfCardiff/status/1390598400375234563
https://twitter.com/ruthmosalski/status/1390644527107559426
Ers tro dwi di meddwl fod rhannau o Faldwyn yn debyg i Geredigion. Elwyn Vaughan i’r Blaid yn ymgeisydd rhagorol ac efallai wedi dechrau elwa ar botensial Plaid Cymru yn y sedd hwnnw. Y canlyniad ym Maldwyn yn atgoffa rhywun hefyd y bydd na wahaniaethau mawr iawn ar draws y wlad yn hynt a helynt y pleidiau.
Canlyniad cyntaf y dydd, gyda Russell George yn cadw Maldwyn i’r Ceidwadwyr.
Ceidwadwyr wedi cadw Sir Drefaldwyn… Russell George sy’n fuddugol yno….
https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1390645622466916355
Mae’r pleidiau yn dechrau ymateb i’r hyn maen nhw’n ei weld yn digwydd yn yr etholiad, sy’n rhoi syniad i ni sut mae pethau’n mynd.
Y tu hwnt i Ddyffryn Clwyd a Wrecsam, mae’r Ceidwadwyr yn bod yn, wel, ceidwadol iawn yn eu disgwyliadau, heb gyfeirio fawr ddim at eu gobeithion yn y de rai diwrnodau’n ôl.
Gyda Llafur yn swnio’n gynyddol hyderus mewn seddi edrychai dan fygythiad, ac yn obeithiol iawn yn y Rhondda, mae Plaid Cymru’n i weld yn braenau’r tir ar gyfer etholiad siomedig drwy sôn am y dyfodol ychydig pellach na’r oriau nesaf.
A innau wedi gweld ciwio ac yn gobeithio am ganran uchel yn pleidleisio… dyma gnoc gynnar i’r gobeithion hynny…
Gyda’r ffigyrau newydd eu cyhoeddi, 35% o’r rhai sy’n gymwys wnaeth fwrw’u pleidlais yn etholaeth Merthyr Tudful a Rhymni.
Roedd yna isetholiadau lleol ar Ynys Môn hefyd, yn wardiau Seiriol a Chaergybi, ac mae canlyniad ward Seiriol yn hysbys eisoes…
https://twitter.com/LDRMonGwynedd/status/1390642900040564742