Etholiad Senedd 2021 – dydd Gwener

Canlyniadau Etholiad Senedd 2021, a’r holl ymateb

Garmon Ceiro
gan Garmon Ceiro
Adeilad y Senedd gyda logo Golwg360

Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.

Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.

17:58

Mae buddugoliaeth fawr Mabon ap Gwynfor i Blaid Cymru yn Nwyfor Meirionnydd yn cadarnhau’r patrwm, fod y pleidiau yn cryfhau yn eu cadarnleoedd.

Mae wedi llwyddo i ennill mewn sedd sy’n rhannol fel yr un yr oedd ei daid, Gwynfor Evans, wedi sefyll ynddi.

Mi gafodd bron 2,000 yn fwy o bleidleisiau na’i ragflaenydd Dafydd Elis-Thomas.

Ac, er ei fod wedi gadael y Blaid ar ol ennill yn 2016, fe ddiolchodd Mabon ap Gwynfor yn gynnes iddo a’i ganmol am ei wasanaeth i Feirionnydd.

17:56

Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) yn mynd i’r Senedd yn hawdd, Ceidwadwyr yn ail pell, Llafur yn drydydd, Propel yn bedwerydd, Llais Gwynedd yn bumed

“Dw i wrth fy modd… mae’n etholaeth arbennig iawn” medd cyn-ddeiliad y sedd, Dafydd Elis Thomas

17:55

Y Ceidwadwyr yn cadw Gorllewin Clwyd.

17:54

Coch i gyd

Mae gan Rhanbarth Gorllewin De Cymru chwech sedd: Dwyrain Abertawe, Gorllewin Abertawe, Castell-nedd, Gŵyr, Ogwr, Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae Llafur wastad wedi ennill pob un o’r seddi yma, ym mhob un etholiad Senedd, ac mae’n edrych yn debygol y byddan nhw’n ennill pob un eleni eto.

Hyd yma maen nhw eisoes wedi ennill Castell-nedd, Gŵyr, a Dwyrain Abertawe.

17:52

Mae’n debyg na fydd Llyr Huws Gruffydd yn rhy siomedig ar ôl dod yn drydydd gwael yn Ne Clwyd.  Bydd methiant Plaid Cymru i gipio Aberconwy yn golygu y bydd yn gwbl sicr o ddal gafael ar ei sedd ar restr y gogledd. Gallai’r canlyniadau etholaethol roi siawns am ail sedd ar y rhestr i Blaid Cymru hefyd, i Carrie Harper.

Pleidlais Plaid Cymru yn anochel o gael ei gwasgu yn Ne Clwyd lle nad ydyn nhw erioed wedi gwneud yn arbennig o dda.

17:51

A Darren Millar wedi cadw Gorllewin Clwyd i’r Ceidwadwyr…

17:50

Jeremy Miles wedi cadw Castell Nedd i Lafur…

17:46

Rebecca Evans yn fuddugol yng Ngŵyr gyda mwyafrif o 4,795 i Lafur.

17:46

Angela Burns yn canmol ei holynynydd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro…

https://twitter.com/AngelaJBurns/status/1390708932528820227

17:45

Mae buddugoliaeth Rebecca Evans yn etholaeth Gwyr i Lafur yn un gwbl glir – cynnydd cry’ yn ei phleidlais a fawr o gynnydd i’r Ceidwadwyr.

Aeth 3,300 pleidlais UKIP y tro diwetha ddim at y Ceidwadwyr … ond falle yn ol at Lafur.