Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.
Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.
40.5% wedi pleidleisio ym Mlaenau Gwent…
Turnout in Blaenau Gwent was 40.5% Constituency count getting underway.
— Alun Davies AS / MS 🏴🇪🇺 (@AlunDaviesMS) May 7, 2021
Dim sioc ym Môn….
Rhun ap Iorwerth secured the biggest majority in the Senedd back in 2016 (9,510) and it doesn't feel like a major shock is in the air this afternoon. #YnysMon #LDReporter
— Gareth Wyn Williams (@GarethWyn84) May 7, 2021
Roedd disgwyl canlyniadau oddi wrth Llanelli, Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Ceredigion, y Rhondda, Dyffryn Clwyd, y ddwy sedd yn Abertawe, a Gŵyr, oll cyn tri o’r gloch.
Wel, ry’n ni’n dal i aros! Chwarae teg i griw Maldwyn am gyfri’r pleidleisiau mor gyflym – ac well i’r gweddill frysio!
Un o’r seddi bu’r Ceidwadwyr gyda chymorth y pleidiau unoliaethol yn ei dargedau oedd Banffshire & Buchan Coast.
Mae’r canlyniad newydd ei gyhoeddi a’r SNP yn ei gadw o drwch blewyn a gogwydd o 10% i’r Ceidwadwyr.
Gall hynny beri rhywfaint o bryder i’r SNP gan fod y ffin rhwng mwyafrif a chwympo dau neu dri sedd yn brin mor fach.
Cawn weld wrth i fwy o’r seddi ymylol yno gyhoeddi eu canlyniadau.
A ninnau ond wedi cael un canlyniad etholaethol, efallai ei bod hi braidd yn gynnar i ddechrau meddwl am y seddi rhanbarthol, ond …
Un cwestiwn allweddol wrth ystyried beth allai ddigwydd gyda’r seddi rhanbarthol yw beth fydd hynt y 7 o seddi y llwyddodd UKIP eu cipio nol yn 2016.
Mae’n debygol iawn na fydd UKIP yn llwyddo i gynnal yr un lefel o gefnogaeth y tro hwn ac mae’n bur debygol na fydd yn llwyddo i gipio unrhyw seddi rhestr.
A fydd y seddi felly yn mynd yn ôl i rai o’r pleidiau mwy – er enghraifft seddi UKIP yn nwyrain de Cymru yn cael eu rhannu unwaith eto rhwng PC a’r Ceidwadwyr?
Neu, a oes gobaith i rai o’r pleidiau adain dde eraill sydd wedi ymddangos ers 2017 yn cael llwyddiant gyda’r seddi rhestr ar draul UKIP? Er enghraifft, mae’r gefnogaeth i Abolish the Assembly mewn rhai arolygon barn wedi bod tua 7% sydd o gwmpas y trothwy sydd angen ei gyrraedd i fod â gobaith o gipio sedd restr.
Un peth sy’n debygol iawn yw y gallai pethau fynd yn agos iawn rhwng nifer ro bleidiau gwahanol pan ddown i ddyrannu’r seddi rhestr olaf mewn nifer o’r rhanbarthau – gallai rhai cannoedd o bleidleisiau’n unig naill ffordd neu’r llall gael dylanwad mawr.
Ail-gyfrif am ddigwydd yn Nyffryn Clwyd, y Ceidwadwyr ar y blaen o drwch blewyn.
O ystyried fod hon yn sedd a oedd yn odds on iddyn nhw ei chipio, mae hyn yn eithaf annisgwyl, ac yn awgrymu bod ‘wal goch’ Llafur yng ngogledd-ddwyrain Cymru efallai’n wytnach nag yr oeddem ni’n ei ddisgwyl.
Os taw dim ond crafu dros y llinell ddarfod a wnaiff y Torïaid yma, eu prif sedd darged ynghyd â Bro Morgannwg, mae’n awgrymu dargyfeiriad sicr iawn rhwng gwleidyddiaeth Cymru a Lloegr a diwrnod siomedig i’r Ceidwadwyr ar ôl disgwyliadau mawr yma.
Gallai ail gyfnod Andrew RT wrth y llyw fod yn un byr.
Aberconwy
“Mae hi wedi bod yn ras tri cheffyl dros y blynyddoedd,” meddai Elen Wyn, un o sylwebwyr S4C, am y frwydr yn Aberconwy.
“Dw i wedi bod yn siarad gyda Janet Finch-Saunders, a dywedodd hi ei bod hi’n dawel hyderus, a’i bod wedi dotio efo’r holl gefnogaeth drwy’r pleidleisiau post.
“Ond mae Aaron Wynne yn dawel hyderus hefyd, ond ddim eisiau bod yn rhy hyderus chwaith.
“Mae gan Blaid Cymru fynydd i’w ddringo i gipio yr etholaeth yma, neu ella ddim cweit, bryn neu allt ella.”
“Gobeithio’ch bod chi’n gwneud y mwyaf o’r heulwen heddiw ’ma” medd Megan Williams Tywydd ar S4C…
…ddim rili, Megan! Ni’n styc o fla’n cyfrifiadur.
Tywydd gwlyb i ddod gyda llaw. :-(
Diolch i bawb wnaeth gynnig atebion i’r pos bach wrth gychwyn y cyfrif … y cwestiwn:
Faint o etholaethau mae Plaid Cymru wedi eu hennill a’u cadw tu allan i’r Fro Gymraeg?
Yr ateb hyd heddiw yw… sero.
Ac mae arnai ofn i selogion y Blaid mod i bellach yn disgwyl i’r record hynny barhau pan glywn ni ganlyniad y Rhondda yn hwyrach heddiw.
Mae’r ystadegyn yn cynnig her i Blaid Cymru wrth reswm ac yn un o’r pethau rwy’n siwr y bydd yn destun crafu pen yn dilyn etholiad a fydd yn gweld cynnydd pwrpasol mewn rhai mannau a chanlyniadau siomedig (iawn) mewn mannau eraill.
Bethan Sayed yn dweud ar y BBC fod Adam Price yn “arweinydd newydd ac mae angen amser ar arweinwyr newydd” a chael ei holi am ei ddyfodol wrth y llyw, er nad atebodd hi hynny’n glir. Ond mae’n eithaf rhyfeddol, ar ôl un canlyniad yn unig, am dri o’r gloch y pnawn, nad dyma’r tro cyntaf heddiw i’w ddyfodol gael ei drafod.
Ydy cyllyll cenedlaetholgar yn cael eu miniogi’n barod?