Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.
Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.
Dydyn ni heb sôn rhyw lawer am y pleidiau llai hyd yma. Yr un amlycaf o’u plith ydi Plaid Diddymu sydd, hyd yma yn yr etholaethau o leiaf, wedi cael tua 1% o’r bleidlais.
Mae’n bwysig cofio wrth gwrs nad oedden nhw’n canolbwyntio ar ennill etholaethau nac yn sefyll ymhobman, ond i wneud argraff byddai rhywun wedi disgwyl eu bod nhw’n gwneud rhywfaint yn well yn y llefydd roedden nhw’n sefyll.
Mae dal yn ddigon tebygol y byddan nhw’n dychwelyd aelodau rhestr, ond go brin y down nhw unrhyw beth yn agos at efelychu llwyddiant UKIP yn 2016.
https://twitter.com/HMorganThompson/status/1390710120632528898
O weld canlyniadau’r Gogledd, dydi hi ddim yn amhosib, hyd y gwela i, i Blaid Cymru gael dwy sedd ranbarthol ac i’r Ceidwadwyr a Llafur hyd yn oed gael un yr un … mae’n dibynnu a fydd un o’r pleidiau bach yn gwneud yn well yn y rhanbarthau.
Mabon ap Gwynfor o Blaid Cymru yn son wrth y Cambrian News am ei fuddugoliaeth yn Nwyfor Meirionnydd: “Mae’n etholaeth mor hanesyddol ac mae’r bobl yma yn wych felly mae cael eu dewis fel eu haelod o’r Senedd yn anrhydedd enfawr”
https://twitter.com/CambrianNews/status/1390726160242327561
Y blaid Lafur yn cadw Pen-y-bont ar Ogwr.
Er mai ychydig dros hanner yr etholaethau sydd wedi eu cyhoeddi, mae’r canlyniadau’n ymddangos yn glir fel pleidlais gref o hyder yn Mark Drakeford fel pris weinidog. Mae’r ffordd mae Cymru wedi torri ei chwys ei hun o dan ei arweiniad yn y pandemi yn awgrymru fod Llafur yn llwyddo i gipio’r rhan fwyaf o’r bleidlais wladgarol Gymreig yn y rhan fwyaf o Gymru. Yr unig leoedd lle nad yw hyn yn wir yw cadarnleoedd Plaid Cymru yn y Gymru Gymraeg.
Mae hi’n edrych yn dda iawn i Blaid Cymru gadw eu sedd yng Ngheredigion, meddai ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer yr etholaeth.
“Dw i’n credu fod yna wastad obaith” i’r Democratiaid Rhyddfrydol ennill y sedd, ategodd Cadan ap Tomos.
“Rydyn ni wedi gweld her fawr dros y bum mlynedd ddiwethaf yma.
“Beth bynnag fydd y canlyniadau mae angen i ni fel plaid gymryd amser i ffeindio ein hunaniaeth yma yng Nghymru, a chreu neges i fynd allan at bobol Cymru yn y blynyddoedd sydd i ddod.
Dywedodd fod angen “codi ymwybyddiaeth ymysg pobol Cymru am beth yw’r neges sydd gennym ni i bobol Cymru ynghylch sut i wella eu bywydau nhw.
Fe wnaeth Cadan ap Tomos gydnabod fod slogan ei blaid i “roi adferiad gyntaf” “ychydig bach yn bland“.
“Fi’n credu, i fod yn onest, fod o bach yn bland, mae yna le i wella ar hynny. Ond d’yw etholiad ddim yn cael ei ennill oherwydd slogan.”
Aeth yn ei flaen i ddweud fod etholiad yn cael ei ennill yn sgil gwaith caled ar lawr gwlad, a syniadau.
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wastad yn cael trafferth cadw pleidleisiau’r rhestr ranbarthol, meddai Richard Wyn Jones.
“Mae’n edrych yn ofnadwy iddyn nhw.”
Dywedodd Betsan Powys a Richard Wyn Jones fod y Democratiaid Rhyddfrydol yn parhau i geisio dod dros y “chwalfa” ar ôl iddyn nhw glymbleidio â’r Ceidwadwyr yn San Steffan yn 2010.
“Maen nhw’n dal i drio dod dros y chwalfa. Mae’n dal i frifo,” meddai Betsan Powys.
“Maen nhw wedi chwalu eu hygrededd eu hunain,” ychwanegodd Richard Wyn Jones.
Y diweddara o’r Alban
Mae’r SNP bellach ar 32 a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar 4. Dim ond dwy sedd sydd wedi newid – y ddwy i’r SNP.
Ar ddechre’r blog byw yma wnaeth Jason a finnau rhoi cynnig ar ddyfalu y canlyniadau…
Hyd yma mae fy ’darogan-fap’ yn gywir. Y cwestiwn mawr yn awr yw: ‘Pryd fydd fy mhroffwydoliaeth yn chwalu’n ddarnau?!’
Mae gen i deimlad yr oeddwn i’n or-optimistaidd am obeithion y Blaid yn y Rhondda, ac yn or-optimisatidd am obeithion y Toriaid ym Mro Morgannwg…
Roedd Jason yn darogan y byddai rhan helaeth o’r de ddwyrain yn goch. Dw i’n dechrau credu mai fe oedd yn iawn!
Darogan etholiadau’r Senedd
O weld y canlyniadau hyd yn hyn, mae dosbarthu’r pleidleisiau rhanbarthol am fod yn ddiddorol iawn oherwydd diffyg y pleidiau llai.
Mae’r pleidiau mawr yn debyg o ennill mwy ohonyn nhw … ond rhaid cofio na fydd y bleidlais ranbarthol yn union fel yr etholaethau.
Gyda’r Diddymwyr i’w gweld yn perfformio’n wael, mae ambell un yn gofyn a ddylid bod wedi eu gwahodd i’r ddadl deledu…
https://twitter.com/Traedmawr/status/1390724239855079426