Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.
Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.
Llafur wedi dal mla’n i Ddwyrain Casnewydd… John Griffiths oedd eu hymgeisydd yno… mwyafrif o 3584
https://twitter.com/WelshLabour/status/1390730766951370752
John Griffiths yn cadw Dwyrain Casnewydd i Lafur.
Mae John Griffiths wedi dal ymlaen i’w sedd yn Nwyrain Casnewydd…
A dyma fi’n mantesisio ar y cyfle i ateb fy nghwestiwn cwis! Pa aelodau o ddosbarth ’99 (unigolion sydd wedi bod â sedd yn y Senedd ers 1999) sydd yn sefyll eleni eto?
Dim ond pedawr sydd, a dyma nhw:
- Elin Jones – Ceredigion
- Jane Hutt – Bro Morgannwg
- Lynne Neagle – Torfaen
- John Griffiths – Dwyrain Casnewydd
CYWIRIAD GEN I!
Ddaeth Nick Ramsey ddim yn olaf ym Mynwy – fe gurodd o Blaid Diddymu’r Cynulliad (a Mark Reckless, neb llai), Plaid Diwygio, y Gynghrair Rhyddid a Gwlad.
‘Dwn i ddim a ydi hynny am wneud iddo deimlo’n llawer gwell.
Dau ganlyniad arall arwyddocaol – buddugoliaeth rwydd i Lafur ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a pherfformiad cryf gan Lafur ym Mynwy hefyd, sydd wedi bod yn sedd gadarn i’r Toriaid ers 1999.
Nick Ramsey, a gynrychiolodd yr etholaeth fel Aelod Toriaidd ers 2007, yn methu’n llwyr wrth sefyll fel ymgeisydd annibynnol. Yn y gwaelodion heb fawr mwy na hanner pleidleisiau Plaid Cymru hyd yn oed. Sy’n codi cwestiwn o faint o gefnogaeth personol sydd gan lawer o’n gwleidyddion.
O leiaf cafodd fymryn mwy o bleidleisiau na Mark Reckless dros Abolish. Hen bryd i hwnnw fynd yn ôl i fod yn fethiant gwleidyddol yn ei wlad ei hun?
Carwyn Jones yn llongyfarch
Yn siarad ar BBC Wales mae Carwyn Jones, cyn-AoS Pen-y-bont ar Ogwr, wedi llongyfarch ei olynydd Sarah Murphy.
“Mae’n hyfryd gweld Sarah yn ennill,” meddai. “Mae’r sedd mewn dwylo saff. Mi weithiodd hi mor galed. Dyw canlyniadau fel hyn ddim jest yn dod o nunlle.
“Mae pobol yn gweithio’n galed iawn am hyn. Ac mae jest yn grêt gweld mwyafrif cyffyrddus da – yn enwedig ar ôl beth ddigwyddodd yn 2019.”
Wnaeth y Ceidwadwyr gipio’r sedd yn etholiad cyffredinol 2019 – roedd y sedd wedi bod yng ngafael Llafur am ddegawdau cyn hynny (ers 1987).
SNP… 1, 2, 3…?
Mae’r SNP wedi cipio sedd arall oddi ar y Ceidwadwyr gan fynd yn nes eto at fwyafrif clir … sedd neu ddwy ychwanegol yn ddigon rwan…
Ceidwadwyr yn cadw Mynwy gyda mwyafrif o 3,845.
Awtsh.
Diwedd eithriadol o anurddasol i gyfnod Nick Ramsey yng ngwleidyddiaeth Cymru.
Mae o wedi dod yn olaf ym Mynwy, yr etholaeth bu’n ei chynrychioli ers 2007, gan ennill llai o bleidleisiau na Phlaid Cymru, y Gwyrddion a’r Democratiaid Rhyddfrydol.
Gyda 3% o’r bleidlais, dydi o heb hyd yn oed cadw ei flaendal.
Leave means… Labour?
Mwy a mwy o bobl yn tynnu sylw at lwyddiant Llafur i gymryd pleidleisiau mewn ardaloedd â chefnogaeth fawr i Brexit… yng Nghymru… stori arall yn Lloegr
https://twitter.com/RWynJones/status/1390727433247145988