Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.
Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.
Dai Lloyd a’r severance package
Felly, dyna fe, mae cyfnod Dai Lloyd yn y Senedd wedi dod i ben. Mae wedi methu ag ennill Gorllewin Abertawe i’r Blaid ac mi fydd yn dweud hwyl fawr i Fae Caerdydd.
Druan a fe nagefe? Wel, na. Bydd Dai yn olreit!
Dan reolau’r Senedd mae’r AoS rheiny sydd yn sefyll eto yn gymwys i dderbyn ‘grant ailsefydlu’.
Mae hynny’n wir hyd yn oed i’r AoS rheiny – fel Dai – nad yw’n amddiffyn yn union yr un sedd.
Mae wedi methu ag ennill Gorllewin Abertawe, ond sedd rhanbarthol oedd e’n ei chynrychioli Gorllewin De Cymru (doedd e’ ddim ar unrhyw un o’r rhestrau rhanbarthol eleni).
Felly faint bydd Dr Lloyd yn ei dderbyn?
Pan gollodd ei sedd yn 2011 mi dderbyniodd ‘grant ailsefydlu’ £41,815.44. Y tro yma mi fydd yn gymwys i dderbyn £33,912.50 (sy’n gyfystyr â phum mis o dâl).
Felly peidiwch a phoeni am Dai. Bydd e’n iawn!
Leanne Wood â “dagrau yn ei llygaid”
Rhondda:
Gyda'r cyfri ar ei anterth yma, mae ffynhonnell o'r Blaid Lafur yn dweud eu bod nhw "hyd yn oed yn fwy hapus" gyda beth maen nhw'n gweld.Leanne Wood, gyda dagrau yn ei llygaid, yn dweud bod ganddi dim i'w ddweud, ac yn cadarnhau na fydd hi yn gwneud unrhyw gyfweliadau.
— Rhys Williams (@RhysWilliamsBBC) May 7, 2021
Julie James wedi cadw Gorllewin Abertawe i’r Blaid Lafur…
Seimon Brooks yn croesawu llwyddiant Alun Davies ym Mlaenau Gwent a “dull amlbleidiol tuag at faterion cyfansoddiadol” i wladgarwyr…
Huge swing to @AlunDaviesMS in Blaenau Gwent. A key voice on the pro-sovereignty wing of the Labour Party. Welsh patriots who think outside the box and are prepared to consider a multi-party approach to constitutional matters will welcome his re-election.
— Simon Brooks (@Seimon_Brooks_) May 7, 2021
Fel hyn y mae hi’n edrych ar hyn o bryd. Llafur a’r Ceidwadwyr yn cynyddu eu pleidlais yn barchus iawn hyd yma; er, wrth gwrs, yn achos yr ail, ddim digon yn y llefydd cywir.
Bydd y Ceidwadwyr yn gobeithio am berfformiad tebyg yn y rhestri, lle mae nifer y pleidleisiau’n mynd i fod yn bwysig iawn o ystyried eu haflwyddiant cymharol yn yr etholaethau.
Fodd bynnag, os ydi cyfran ddigonol o’u cefnogwyr yn dewis pleidiau eraill fanno – o bosib Plaid Diddymu, Reform neu hyd yn oed UKIP – gallai pethau fod yn anos o lawer.
Y cwestiwn ydi, a fyddai peidio ag ennill etholaethau er mwyn ennill seddi rhestr yn fargen y bydd y sawl sy’n rhedeg blaid yn fodlon arni.
UK (Wales) election:
21/40 constituency (first past the post) declared
LAB-S&D: 37.7% (+5)
CON-ECR: 27.9% (+4.9)
PC-G/EFA: 23.1% (+0.4)
LDEM-RE: 3.8% (-1.5)
REF~NI: 1.7% (+1.7)
AWAP-*: 1.3% (+1.3)
UKIP~ID: 1.1% (-12)+/- vs 2016 election
Live blog: https://t.co/kTbTpMlgM8 pic.twitter.com/zriSHLKdor
— Europe Elects (@EuropeElects) May 7, 2021
Llafur yn cadw Gorllewin Abertawe.
“Dw i’n ffyddiog y cawn ni fwyafrif parchus iawn ym Mrycheiniog a Maesyfed,” meddai’r ymgeisydd Ceidwadol Tomos Dafydd Davies.
Nid yw’r Blaid Geidwadol wedi llwyddo i fwrw’r ‘wal goch’ yn y Gogledd Ddwyrain, “i’r un graddau yr oedden ni’n ei ddisgwyl, ac yn gobeithio amdano,” meddai.
“Maen nhw’n seddi nad ydyn ni erioed wedi’u cipio yng nghyd-destun datganoli, ac fe ddaethom ni o fewn trwch blewyn.
“Mae’n rhwystredig bod o fewn trwch blewyn.”
Tra bo fi’n cael paned fe gewn ni musical interlude….
Llong o gyfarchion @mabonapgwynfor ???????? pic.twitter.com/l1yWfkbd7y
— Gai Toms (@gaitoms) May 7, 2021
Yr hyn sydd fwyaf trawiadol am ganlyniad Ynys Môn ydi’r gwahaniaeth anferth rhwng patrymau pleidleisio etholiadau Senedd Cymru a San Steffan. Lai na 18 mis yn ôl, trydydd oedd Plaid Cymru, ac ymgeisydd ddieithr o Kensington yn cipio’r sedd i’r Toriaid. All barn yr etholwyr ddim bod wedi newid cymaint â hynny mewn amser mor fyr.
Mae patrwm cenedlaethol cyson wedi bod o Blaid Cymru’n gwneud yn well yn etholiadau Senedd Cymru – o leiaf o ran canrannau – a’r Toriaid ddim cystal. Un ffactor dros hyn yn sicr yw bod elfennau mwy Cymreig y boblogaeth yn fwy tebygol o bleidleisio yn etholiadau Senedd Cymru. Lle mae rhywle fel Môn yn y cwestiwn, fodd bynnag, mae’n amlwg fod miloedd o bobl yn pleidleisio i bleidiau gwahanol yn y ddau etholiad.
Ry’n ni dros hanner ffordd nawr o ran canlyniadau etholaethau. Os ‘ych chi wedi bod yn dilyn o’r dechre – da iawn chi!