Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.
Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi chwalu yng Nghanol Caerdydd hefyd … eu pleidlais wedi haneru bron. Ond Llafur yn gry iawn eto a Phlaid Cymru’n dod yn drydydd gan ddod yn agos at ddyblu’u pleidlais.
Rhanbarthau Canol De Cymru a Dwyrain De Cymru yn cyfri fory… lwcus bo’ dim byd ’da ni’n planned te…!
“Mae’r canlyniad yn y Rhondda yn un torcalonnus i bob pwrpas,” meddai Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion yn San Steffan.
Dywedodd fod Leanne Wood yn aelod sy’n uchel iawn ei pharch yng Nghymru, a thu hwnt.
“Mae nifer o bethau mewn etholiad sydd tu hwnt i’ch rheolaeth chi. O be dw i ar ddeall, fe wnaeth Leanne bopeth o fewn ei rheolaeth.
“Ond, mae Elizabeth Buffy Williams yn uchel ei pharch yn yr etholaeth.”
“[Mae’n bosib] edrych ar y Rhondda fel sedd mae’r Blaid Lafur wedi bod yn llwyddiannus wrth sianelu ei hadnoddau.
“Fe wnaeth y tîm ymgyrchu yn Llanelli eu gorau glas, ac mae hi wedi bod yn anodd i bob plaid oherwydd Covid,” ychwanegodd Ben Lake yn dilyn colled Plaid Cymru yno.
“Roedden nhw’n brwydro’n erbyn Lee Waters, sy’n ddeiliad uchel ei barch.”
Yn ôl Richard Wyn Jones, mae’r Blaid Lafur wedi llwyddo i “droi y sedd ymylol yn sedd ddiogel”.
“Dw i jyst ddim yn meddwl bod peiriant ymgyrchu Plaid Cymru – ei threfniadaeth ganolog hi – y gallu i gasglu data [ddigon da]”
“Mae Plaid Cymru ar ei hôl hi yn y maes yma.”
“Sut ydyn ni’n efelychu’r peirianwaith yna tu hwnt i’n cadarnleoedd ni? Dyma fydd un o’r gwersi,” ategodd Ben Lake wrth ddweud fod gan Blaid Cymru beirianwaith yn eu cadarnleoedd.
“Dw i ddim yn credu” bod cwestiynau ynghylch arweinyddiaeth Plaid Cymru, ychwanegodd yr Aelod Seneddol..
“Fel pawb yn y blaid fyddwn ni’n siomedig nad ydyn ni’n creu llywodraeth.
Dywedodd fod ei blaid wedi “boddi ar y lan yn yr etholiad yma”, ond nad yw’n credu bod cwestiynau ynghylch arweinyddiaeth Adam Price.
Mae canlyniadau pob un etholaeth mewn 3/5 rhanbarth bellach wedi’u cyhoeddi. Canol De Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru yw’r ddau sydd ar ôl. Mae disgwyl i ganlyniadau rhanbarthau Cymru gael eu cyhoeddi yfory.
Dyma fap o’r sefyllfa fel y ma’i…
Clymblaid yn annhebygol iawn?
Y cwestiwn mawr rwan… a fydd ar Lafur angen unrhyw help i ffurfio llywodraeth?
Rhywfaint o ‘ddealltwriaeth’ falle, ond mae clymblaid yn ymddangos yn annhebygol iawn.
Mae canlyniadau Llafur yn Llanelli a’r Rhondda yr un mor drawiadol a buddugoliaeth Plaid Cymru yng Ngheredigion.
Mae’n dangos fod Llafur yn dal i allu troi’r sgriws pan fo angen.
Ond mae patrwm gwleidyddol Cymru yn fwy soled nag erioed – pob un o’r prif bleidiau wedi cryfhau eu safleoedd yn eu cadarnleoedd ond heb wneud marc fel arall.
“Y gwir amdani ydi” medd Richard Wyn Jones “dw i jyst ddim yn meddwl bod peiriant ymgyrchu Plaid Cymru – ei threfniadaeth ganolog hi – y gallu i gasglu data [ddigon da]” yn dilyn canlyniadau Llanelli a’r Rhondda.
Mae’n hysbys na thair sedd ganolbwyntiodd Plaid Cymru arnynt yn yr etholiad hwn o ran ymgyrchu ac adnoddau: Aberconwy, Llanelli a’r Rhondda.
Yn Llanelli, gostyngodd y bleidlais gan 7.9% (y fuddugoliaeth hawsaf o gryn dipyn i unrhyw blaid yn y sedd honno); gan 3.8% yn Aberconwy a chan 19% yn y Rhondda. Gyda cholled Leanne Wood, mae’r Blaid wedi colli ei gwleidydd amlycaf.
Oes, mae yna sefyllfaoedd gwahanol ymhob un, a chan yr etholiad hwn ei gyd-destun ei hun, ond o feddwl na dim ond tair o 40 oedden nhw wir yn canolbwyntio arnynt, mae’r rhain yn ganlyniadau gwirioneddol, sobor o wael.
Mae Richard Wyn Jones ar S4C yn codi amheuon am ddulliau ymgyrchu, peirianwaith a threfniadaeth Plaid Cymru; diffygion sy’n eithaf hysbys oddi fewn iddi ond nad oes unrhyw un wedi mynd i’r afael â nhw.
Yn amlwg, ni ddatryswyd y problemau hyn at yr etholiad hwn, maen nhw wedi cael eu gwthio’n ôl ers blynyddoedd gan arweinwyr gwahanol i ganolbwyntio ar feysydd eraill.
Go brin y gall Plaid Cymru ohirio’r gwaith hwnnw mwyach.
Canlyniad Ceredigion oedd y diweddaraf mewn cyfres o ergydion difrifol i obeithion y Democratiaid Rhyddfrydol i barhau fel plaid berthnasol yng Nghymru.
O’r seddi sydd wedi’u cyhoeddi hyd yn hyn, dim ond mewn 5 ohonynt mae’r Rhyddfrydwyr wedi llwyddo i sicrhau dros 5% o’r bleidlais ac felly ad-ennill ei hernes.
Gyda’r adroddiadau o’r cyfri ym Mrycheiniog a Maesyfed yn arogli’n ddrwg ar hyn o bryd, ac o gofio tuedd y Rhyddfrydwyr i berfformio’n waeth ar y bleidlais rhestr na’r un etholaethol, mae’n bosib iawn na fydd gan y blaid gynrychiolaeth yn y Senedd nesaf.
O gofio etifeddiaeth hanesyddol y traddodiad Rhyddfrydol yng Nghymru, byddai hynny’n newid mawr.