Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.
Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.
I ategu beth ddywedodd Dylan Iorwerth, yn ôl canlyniad Merthyr o leiaf, mae’r bleidlais UKIP – ac efallai Brexit/Reform UK ers 2016 – wedi dychwelyd at y blaid Lafur.
Y peth arwyddocaol am hyn ydi ei fod i’r gwrthwyneb o’r sefyllfa yn Lloegr, lle mae’n ymddangos fod nifer fawr o bleidleiswyr a drodd oddi wrth Lafur at UKIP a Phlaid Brexit wedi troi at y Ceidwadwyr yn hytrach na’u hen blaid.
Richard Wyn Jones yn galw buddugoliaeth Dawn Bowden ym Merthyr yn “wiriondeddol ddiddorol”
Y Ceidwadwyr yn cael diwrnod da yn Lloegr mewn seddi fel hyn, ond hynny ddim yn digwydd yng Nghymru.
“Buddugoliaeth ryfeddol i Lafur Cymru” medd Dicw.
“Cwymp enfawr mewn pleidlais UKIP, mae’r bleidlais honno wedi mynd i Lafur,” meddai, “buddugoliaeth enfawr i’r Blaid Lafur.”
Buddugoliaeth fawr i Dawn Bowden, Llafur, ym Merthyr – cynnydd o fwy na 3,000 yn ei phleidlais – arwydd clir fod pleidlais UKIP wedi mynd yn ol at Lafur – 4277 y tro diwetha.
Y blaid Lafur yn dal ei gafael ar Ferthyr gyda mwyafrif o 9,311.
Dawn Bowden wedi cadw Merthyr i Lafur… gyda mwyafrif o bron 10,000
Ian Gwynne yn ail i Blaid Cymru…
Mae’n debyg eu bod yn ailgyfri’r pleidleisiau yn Nyffryn Clwyd, a bod disgwyl canlyniad o fewn yr awr. Dyma un o seddi mwyaf cyffrous yr etholiad – sedd coch sy’n debygol o droi’n las…
Mae’n siwr bod hyn yn arwyddocaol rywffordd…
https://twitter.com/RhysWilliamsBBC/status/1390669850532622338
Os yw’r Ceidwadwyr yn gywir i fod yn hyderus ynghylch eu gobeithion ym Mrycheiniog a Maesyfed yna mae hi’n edrych yn ddu iawn i’r Democratiaid Rhyddfrydol ar draws y canolbarth.
O ystyried y canlyniad siomedig iawn ym Maldwyn a’r adroddiadau o Geredigion bod y bleidlais i’r blaid wedi cwympo eto mae’n bosib iawn na fydd yn llwyddo i ddenu digon o bleidleisiau rhestr i sicrhau sedd ranbarthol yn y canolbarth fel gwobr gysur.
Yr awgrym o nifer o etholaethau ydi y gall y cyfri barhau tan fory … maen nhw am orffen heddiw tua 21.00 … a’r rhanbarthau wedyn?
Dosbarth ’99 – cyfle am gwis
Ry’n ni’n dal i aros am ganlyniadau felly… Beth am gwis?
O’r 60 Aelod o’r Senedd a’u hetholwyd i’r Senedd yn 2016, roedd naw wedi cynrychioli eu seddi ers 1999 (pan gynhaliwyd yr etholiad cyntaf). Dosbarth ’99 yw’r enw am y criw yma.
Mae pedwar ohonyn nhw’n wedi penderfynu sefyll eto eleni (gyda phump yn camu o’r neilltu)…
Pwy, felly, yw’r pedwar yma sydd wedi bod yn ddigon dewr ac egniol i roi cynnig arni eto?
Gewch chi’r ateb nes ’mlaen…