Etholiad Senedd 2021 – dydd Gwener

Canlyniadau Etholiad Senedd 2021, a’r holl ymateb

Garmon Ceiro
gan Garmon Ceiro
Adeilad y Senedd gyda logo Golwg360

Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.

Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.

19:49

Mae’n hysbys na thair sedd ganolbwyntiodd Plaid Cymru arnynt yn yr etholiad hwn o ran ymgyrchu ac adnoddau: Aberconwy, Llanelli a’r Rhondda.

Yn Llanelli, gostyngodd y bleidlais gan 7.9% (y fuddugoliaeth hawsaf o gryn dipyn i unrhyw blaid yn y sedd honno); gan 3.8% yn Aberconwy a chan 19% yn y Rhondda. Gyda cholled Leanne Wood, mae’r Blaid wedi colli ei gwleidydd amlycaf.

Oes, mae yna sefyllfaoedd gwahanol ymhob un, a chan yr etholiad hwn ei gyd-destun ei hun, ond o feddwl na dim ond tair o 40 oedden nhw wir yn canolbwyntio arnynt, mae’r rhain yn ganlyniadau gwirioneddol, sobor o wael.

Mae Richard Wyn Jones ar S4C yn codi amheuon am ddulliau ymgyrchu, peirianwaith a threfniadaeth Plaid Cymru; diffygion sy’n eithaf hysbys oddi fewn iddi ond nad oes unrhyw un wedi mynd i’r afael â nhw.

Yn amlwg, ni ddatryswyd y problemau hyn at yr etholiad hwn, maen nhw wedi cael eu gwthio’n ôl ers blynyddoedd gan arweinwyr gwahanol i ganolbwyntio ar feysydd eraill.

Go brin y gall Plaid Cymru ohirio’r gwaith hwnnw mwyach.

19:47

Canlyniad Ceredigion oedd y diweddaraf mewn cyfres o ergydion difrifol i obeithion y Democratiaid Rhyddfrydol i barhau fel plaid berthnasol yng Nghymru.

O’r seddi sydd wedi’u cyhoeddi hyd yn hyn, dim ond mewn 5 ohonynt mae’r Rhyddfrydwyr wedi llwyddo i sicrhau dros 5% o’r bleidlais ac felly ad-ennill ei hernes.

Gyda’r adroddiadau o’r cyfri ym Mrycheiniog a Maesyfed yn arogli’n ddrwg ar hyn o bryd, ac o gofio tuedd y Rhyddfrydwyr i berfformio’n waeth ar y bleidlais rhestr na’r un etholaethol, mae’n bosib iawn na fydd gan y blaid gynrychiolaeth yn y Senedd nesaf.

O gofio etifeddiaeth hanesyddol y traddodiad Rhyddfrydol yng Nghymru, byddai hynny’n newid mawr.

 

19:47

Ergyd drom i’r blaid

Mae’n rhaid bod Plaid Cymru yn hynod siomedig â’r ddau ganlyniad diweddaraf – Llanelli a’r Rhondda.

Yn y ddau achos mae’r Blaid wedi colli dau AoS hynod proffil uchel (Helen Mary Jones a Leanne Wood), ac yn y ddau achos mae cefnogaeth tuag Lafur wedi cynyddu cryn dipyn.

Mae Helen Mary Jones hefyd ar restr rhanbarth Canolbarth a De Cymru (yn yr ail safle) ond mae’n hynod annhebygol o ennill sedd yma.

19:46

Sut i grynhoi diwrnod gyda sawl syrpreis yng Nghymru?

Wrth ddeffro roedd yr awgrymiadau o batrwm Lloegr yn peri pryder i Lafur – OND, mae’n amlwg erbyn hyn fod pobl wedi pleidleisio yn unol a’u gwethfawrogiad o waith gofalus a manwl Mark Drakeford fel Prif Weinidog.

Gall Llafur felly fod yn hapus iawn taw dim ond un sedd a gollwyd, ac fe ennillwyd y Rhondda yn ol.

Bydd y Ceidwadwyr, rwy’n tybio, yn siomedig – er gwaetha’r holl gobeithio dyw ennill Dyffryn Clwyd a Brycheiniog a Maesyfed yn fawr o return, pan mae’r blaid yn Lloegr yn gwneud gystal. Bydd Plaid Cymru yn siomedig rwy’n siwr – ond tybed oes cyfle ar y rhestrau.

Mae brwydr y rhestr yn dechrau siapio – bydd hi’n ymgiprys rhwng Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr yn bennaf, ond fe all rhai o’r pleidiau llai ymgiprys am y bedwaredd sedd.

Noder ar y pwynt hwn fod canlyniadau y Democratiaid Rhyddfrydol cyn waethed y bydd hi’n syndod go iawn pe tai ganddynt gyfle am sedd rhanbarthol. Os am sioc yfory (neu’n hwyrach heno) gwylier am y Gwyrddion … mae’n anhebyg y byddant yn ennill sedd, ond o’r pleidiau bach nhw yw’r unig rhai sydd wedi perfformio’n gymeradwy mewn etholaethau.

Oni bai fod ‘na nifer o Doriaid yn benthyg eu hail bleidlais i Abolish rwy’n fodlon mentro erbyn hyn na fydd na aelodau Abolish yn y Senedd.

19:45

Y blaid Lafur yn cipio’r Rhondda oddi wrth Plaid Cymru.

19:44

Pleidlais Leanne Wood i lawr 19%

19:43

Buffy Williams wedi cipio’r Rhondda yn ol oddi wrth Leanne Wood a Phlaid Cymru gyda mwyafrif o bron 5,500

19:42

“Dydych chi ddim yn ennill etholiad yn yr wythnosau cyn yr etholiad,” meddai Ben Lake yn dilyn buddugoliaeth Elin Jones yng Ngheredigion.

Yn hytrach, mae’r gefnogaeth yn cael ei gasglu dros y blynyddoedd blaenorol, meddai.

“Byddwn ni’n gweithio gyda’n gilydd, dros y bobol i haeddu’r fath yna o gefnogaeth,” meddai Ben Lake.

“Rhaid cyfaddef ein bod ni’n mynd mewn i’r etholiad moyn ennill, mae hynny’n siomedig.”

Un peth sy’n “ganolog” meddai Ben Lake yw fod pethau ar newid mewn ardaloedd yng Nghymru lle nad yw Plaid Cymru wedi cael ymgeiswyr cyson, na gallu adeiladu cefnogaeth gyson.

Cyfeiriodd at y gefnogaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a Blaenau Gwent wrth drafod hynny.

“Mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru, yn y Senedd, mae unigolyn yn gallu gwneud lot o wahaniaeth. Mae yna wleidyddiaeth ar lefel bersonol yng Nghymru.

“Fel y cyfryw mae deiliaid y seddi yn gwneud yn dda iawn,” meddai Ben Lake.

“Falle fod yna rywbeth ar lefel lleol iawn yn digwydd mewn ambell etholaeth, lle mae pobol yn cefnogi’r sawl sydd wedi’u cynrychioli nhw am y bum mlynedd ddiwethaf.”

19:42

Ail-ethol Lee Waters yn Llanelli.

19:40

Lee Waters wedi cadw Llanelli i’r Blaid Lafur….