Etholiad Senedd 2021 – dydd Gwener

Canlyniadau Etholiad Senedd 2021, a’r holl ymateb

Garmon Ceiro
gan Garmon Ceiro
Adeilad y Senedd gyda logo Golwg360

Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.

Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.

17:27

“Canlyniadau Llafur yn dda iawn” medd Richard Wyn Jones ar S4C… “ac anodd rhagweld grwp mawr o ddiddymwyr yn cyrraedd y Senedd”.

17:27

Mae Vaughan Gething, sy’n gobeithio cael ei ail-ethol dros y Blaid Lafur, wedi dweud fod heddiw’n “ddiwrnod gweddol gadarnhaol i ni hyd yn hyn.”

“Rydyn ni wedi dringo mynydd i ennill. Rydyn ni’n disgwyl mai’r Blaid Lafur fydd y blaid fwyaf yn Senedd Cymru.

“Canlyniadau positif iawn i ni yn Nelyn a Wrecsam, ac yng Nghaerffili.

“Mae’r ymateb i’r pandemig wedi bod yn bwysig ar y stepen drws, a chafodd ei godi’n amlach na’r un mater arall.

“Mae’r ffordd y mae Mark Drakeford wedi trin y pandemig wedi dylanwadu ar y ffordd y gwnaeth pobol bleidleisio ddoe.”

Dywedodd Vaughan Gething fod rhaid aros nes clywed mwy o ganlyniadau cyn gallu dweud sut fydd y Llywodraeth nesaf yn edrych.

17:26

Ken Skates yn ennill mwyafrif o 2,913 yn Ne Clwyd.

17:25

Un arall yn cadw ei sedd…. Ken Skates yn cadw De Clwyd yn goch….

Sedd oedd wedi’i thargedu gan y Ceidwadwyr.

17:25

Buddugoliaeth glir Llafur yng Nghaerffili yn sicr o fod yn siom i Blaid Cymru, eto i gyd perfformiad cadarn gan Delyth Jewell, un o sêr ifanc y Blaid. Mae’n dibynnu’n hollol pa mor uchel oedd y gobeithion yn y lle cyntaf. Plaid Cymru bob amser â phresenoldeb cadarn yng Nghaerffili ers is-etholiad 1968 pan ddaeth Phil Williams o fewn llai na 2000 o bleidleisiau i gipio’r sedd seneddol, ond erioed wedi llwyddo i dorri trwodd yma.

 

17:23

Llafur yn fuddugol yn Islwyn.

17:22

Mae’r canlyniadau yn hedfan atom ni nawr. Er bod pethau’n dechre poethi, rhaid cofio bod y seddi mwyaf cyffrous eto i ddod. Gan eithrio Dyffryn Clwyd ry’n ni ond wedi gweld gwleidyddion cyfarwydd yn cadw’i seddi… Rhagor o gyffro i ddod!

 

17:21

Mae Paul Windsor Davies wedi llwyddo i gadw Preseli Penfro, er gwaetha’ perfformiad cry’ iawn gan Lafur ac un da gan Blaid Cymru.

Mae yna batrwm arall cyfarwydd yn datblygu – bod aelodau presennol yn cadw eu seddi.

Gyda’r pandemig, mae wedi bod yn fwy anodd nag arfer i herwyr wneud eu marc.

17:20

Y Ceidwadwyr yn cadw Preseli Penfro.

17:19

Fel yn Nelyn gwelwyd cynnydd (bach) ym mhleidlais Llafur a’r Ceidwadwyr yn Wrecsam, ond yn wahanol i etholiad San Steffan yn 2019 Llafur sy’n dal ei gafael ar y sedd, a hynny gyda mwyafrif digon tebyg i 2016.

Unwaith eto, y newid mawr ers 2016 yw’r cwymp o 10% ym mhleidlais UKIP. Fodd bynnag dyw canlyniadau Wrecsam a Delyn ddim yn awgrymu bod hwn yn llifo’n syth tuag at y Ceidwadwyr yn y Gogledd Ddwyrain fel roedd rhai yn rhengoedd y blaid wedi gobeithio.