Etholiad Senedd 2021 – dydd Gwener

Canlyniadau Etholiad Senedd 2021, a’r holl ymateb

Garmon Ceiro
gan Garmon Ceiro
Adeilad y Senedd gyda logo Golwg360

Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.

Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.

19:06

SNP… 1, 2, 3…?

Mae’r SNP wedi cipio sedd arall oddi ar y Ceidwadwyr gan fynd yn nes eto at fwyafrif clir … sedd neu ddwy ychwanegol yn ddigon rwan…

19:05

Ceidwadwyr yn cadw Mynwy gyda mwyafrif o 3,845.

19:04

Awtsh.

Diwedd eithriadol o anurddasol i gyfnod Nick Ramsey yng ngwleidyddiaeth Cymru.

Mae o wedi dod yn olaf ym Mynwy, yr etholaeth bu’n ei chynrychioli ers 2007, gan ennill llai o bleidleisiau na Phlaid Cymru, y Gwyrddion a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Gyda 3% o’r bleidlais, dydi o heb hyd yn oed cadw ei flaendal.

19:04

Leave means… Labour?

Mwy a mwy o bobl yn tynnu sylw at lwyddiant Llafur i gymryd pleidleisiau mewn ardaloedd â chefnogaeth fawr i Brexit… yng Nghymru… stori arall yn Lloegr

https://twitter.com/RWynJones/status/1390727433247145988

19:01

Dydyn ni heb sôn rhyw lawer am y pleidiau llai hyd yma. Yr un amlycaf o’u plith ydi Plaid Diddymu sydd, hyd yma yn yr etholaethau o leiaf, wedi cael tua 1% o’r bleidlais.

Mae’n bwysig cofio wrth gwrs nad oedden nhw’n canolbwyntio ar ennill etholaethau nac yn sefyll ymhobman, ond i wneud argraff byddai rhywun wedi disgwyl eu bod nhw’n gwneud rhywfaint yn well yn y llefydd roedden nhw’n sefyll.

Mae dal yn ddigon tebygol y byddan nhw’n dychwelyd aelodau rhestr, ond go brin y down nhw unrhyw beth yn agos at efelychu llwyddiant UKIP yn 2016.

https://twitter.com/HMorganThompson/status/1390710120632528898

18:59

O weld canlyniadau’r Gogledd, dydi hi ddim yn amhosib, hyd y gwela i, i Blaid Cymru gael dwy sedd ranbarthol ac i’r Ceidwadwyr a Llafur hyd yn oed gael un yr un … mae’n dibynnu a fydd un o’r pleidiau bach yn gwneud yn well yn y rhanbarthau.

18:57

Mabon ap Gwynfor o Blaid Cymru yn son wrth y Cambrian News am ei fuddugoliaeth yn Nwyfor Meirionnydd: “Mae’n etholaeth mor hanesyddol ac mae’r bobl yma yn wych felly mae cael eu dewis fel eu haelod o’r Senedd yn anrhydedd enfawr”

https://twitter.com/CambrianNews/status/1390726160242327561

18:56

Y blaid Lafur yn cadw Pen-y-bont ar Ogwr.

18:54

Er mai ychydig dros hanner yr etholaethau sydd wedi eu cyhoeddi, mae’r canlyniadau’n ymddangos yn glir fel pleidlais gref o hyder yn Mark Drakeford fel pris weinidog. Mae’r ffordd mae Cymru wedi torri ei chwys ei hun o dan ei arweiniad yn y pandemi yn awgrymru fod Llafur yn llwyddo i gipio’r rhan fwyaf o’r bleidlais wladgarol Gymreig yn y rhan fwyaf o Gymru. Yr unig leoedd lle nad yw hyn yn wir yw cadarnleoedd Plaid Cymru yn y Gymru Gymraeg.

18:54

Mae hi’n edrych yn dda iawn i Blaid Cymru gadw eu sedd yng Ngheredigion, meddai ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer yr etholaeth.

“Dw i’n credu fod yna wastad obaith” i’r Democratiaid Rhyddfrydol ennill y sedd, ategodd Cadan ap Tomos.

“Rydyn ni wedi gweld her fawr dros y bum mlynedd ddiwethaf yma.

“Beth bynnag fydd y canlyniadau mae angen i ni fel plaid gymryd amser i ffeindio ein hunaniaeth yma yng Nghymru, a chreu neges i fynd allan at bobol Cymru yn y blynyddoedd sydd i ddod.

Dywedodd fod angen “codi ymwybyddiaeth ymysg pobol Cymru am beth yw’r neges sydd gennym ni i bobol Cymru ynghylch sut i wella eu bywydau nhw.

Fe wnaeth Cadan ap Tomos gydnabod fod slogan ei blaid i “roi adferiad gyntaf” “ychydig bach yn bland“.

“Fi’n credu, i fod yn onest, fod o bach yn bland, mae yna le i wella ar hynny. Ond d’yw etholiad ddim yn cael ei ennill oherwydd slogan.”

Aeth yn ei flaen i ddweud fod etholiad yn cael ei ennill yn sgil gwaith caled ar lawr gwlad, a syniadau.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wastad yn cael trafferth cadw pleidleisiau’r rhestr ranbarthol, meddai Richard Wyn Jones.

“Mae’n edrych yn ofnadwy iddyn nhw.”

Dywedodd Betsan Powys a Richard Wyn Jones fod y Democratiaid Rhyddfrydol yn parhau i geisio dod dros y “chwalfa” ar ôl iddyn nhw glymbleidio â’r Ceidwadwyr yn San Steffan yn 2010.

“Maen nhw’n dal i drio dod dros y chwalfa. Mae’n dal i frifo,” meddai Betsan Powys.

“Maen nhw wedi chwalu eu hygrededd eu hunain,” ychwanegodd Richard Wyn Jones.