Blog byw Etholiad Senedd 2021 gyda fi, Garmon Ceiro, yng nghwmni Gohebydd Senedd Golwg, Iolo Jones, colofnydd Golwg, Jason Morgan, gohebydd golwg360 Cadi Dafydd… gyda chyfraniadau gan y sylwebyddion gwleidyddol Dafydd Trystan a Huw Prys Jones, Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth, a chyd-sefydlydd Golwg, Dylan Iorwerth.
Dilynwch flog byw dydd Sadwrn am y diweddaraf.
“Ymgyrch hynod bositif i’r blaid, mae hi wedi rhoi egni newydd i ni, ac i’r mudiad annibyniaeth,” meddai Adam Price wrth S4C.
“Mae’r egni yma yn arbennig gan bobol ifanc.”
Mae hynny’n beth da “nid yn unig i Blaid Cymru, ond i ddyfodol Cymru, oherwydd nhw ydi’r dyfodol”.
“Roedden ni’n dymuno mwy o gynnydd, ond gawn ni weld lle’r ydyn ni’n sefyll ar ddiwedd y dydd.”
Bydd canlyniadau’r rhestr ranbarthol yn allweddol er mwyn gweld y rhifyddeg, ategodd.
Nid oes rheswm i roi annibyniaeth i’r neilltu yn sgil y pandemig, meddai Adam Price.
“Dw i’n darogan y bydd refferendwm yn yr Alban o fewn dwy flynedd, a bydden nhw’n ennill.
“Mae dyddiau’r Deyrnas Gyfunol yn dod i ben, mae angen i Gymru baratoi ar gyfer hynny… Dechrau paratoi ar gyfer y realiti sy’n digwydd o flaen ein llygaid ni. Rhaid cydio yn bositif yn y seiliau sydd gennym ni.
“Dw i’n fwy penderfynol nag erioed yn fy mywyd fy mod i isio bod yn rhan o’r adeg dyngedfennol yma.
“Rhaid i ni droi’r mudiad annibyniaeth yn dorfol.”
"Yn sicr hoffen i wedi gweld mwy o gynnydd, dim oherwydd y blaid, ond oherwydd Cymru"
Ymateb Arweinydd Plaid Cymru @Adamprice i'r canlyniadau hyd yn hyn.#Senedd2021 #Etholiad2021 pic.twitter.com/DU8YRKF6Jw
— Newyddion S4C (@NewyddionS4C) May 7, 2021
‘Eiliad yn hanes Cymru’ – Vaughan Roderick ar y Democratiaid Rhyddfrydol yn diflannu o’r Canolbarth
'Mae hon yn eiliad yn hanes Cymru'
Dadansoddiad @VaughanRoderick o sefyllfa'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi iddynt eu hunig sedd y blaid. pic.twitter.com/qbZSZzVDWt
— Newyddion S4C (@NewyddionS4C) May 7, 2021
Llafur yn cadw Pontypridd.
Adam Price yw’r unig un o aelodau Plaid Cymru i ennill gyda llai o fwyafrif – bron 2,000 yn llai. Ond roedd wedi cynyddu ei bleidlais.
Roedd yna gynnydd i Lafur a’r Ceidwadwyr yn ei sedd hefyd.
“Ymgyrch hynod bositif i’r Blaid” medd Adam Price sydd “wedi rhoi egni newydd i ni ac i’r mudiad annibyniaeth… ry’n ni wedi troi’n fudiad Cymru gyfan, Cymru bendbaladr…”
Newn ni alw hynna’n ‘positif sbin’, falle, ife…?
O ystyried y mwyafrifau trawiadol mae Plaid Cymru wedi eu cael yn y gogledd-orllewin a Cheredigion, rhaid bod rhywfaint o siom personol i Adam Price nad adlewyrchwyd hyn yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, ei sedd ei hun, gyda’r blaid Lafur yn cau’r bwlch arno a’r Ceidwadwyr hefyd yn cynyddu eu pleidlais gan 8%.
Mae ei fwyafrif o 6,813 (20.5%) yn un hynod o barchus, ond ni ellir gwadu ei fod yn ganlyniad tra wahanol i weddill y Fro Gymraeg.
Llafur yn cadw Cwm Cynon.
Buddugoliaeth gysurus a chlir I Adam Price yn ei etholaeth, ond ni lwyddodd i gael cyfran lawn gymaint o’r bleidlais â’i gyd-aelodau seneddol Plaid Cymru yn y pedair etholaeth arall.
“I ddweud y peth amlwg, o safbwynt Llafur mae’n ganlyniad gwyrthiol, mae canran eu pleidlais yn 39% ar hyn o bryd,” meddai Vaughan Roderick am lwyddiant y Blaid Lafur.
“Roedd eu canlyniad gorau erioed yn hanes Cymru yn 2011 ar 42%,” ac yn ôl Vaughan Roderick maen nhw’n anelu at hynny eto.
“Buddugoliaeth i blaid sydd wedi bod mewn grym ers 20 mlynedd, d’yw pethau fel hyn ddim yn digwydd mewn democratiaethau.
“Mae Llafur Cymru fel asterix yn dal i oroesi.
“Mae eu gallu nhw i ffeindio ffordd i ennill yn ddigon i ryfeddu dyn.”
Yn gynharach fe wnaeth Jeremy Miles sylw fod y Blaid Lafur wedi defnyddio “gwladgarwch” fel rhan o’u hymgyrch.
“Byddai nifer o aelodau pleidiau adain chwith Ewrop yn gweld hynny fel problem,” meddai Richard Wyn Jones.
“Ond rhan o lwyddiant Llafur yng Nghymru yw eu bod nhw’n gwneud hynny.
“Maen nhw’n taro tant yng Nghymru drwy hynny,” ac ategodd fod hynny’n wir ar gyfer yr SNP yn yr Alban, a’r Ceidwadwyr yn Lloegr.
Vaughan Roderick yn disgwyl “trafod a thrin” am beth amser ar ol yr etholiad, a dim cyhoeddiad mawr am drefniant, a Richard Wyn Jones yn dweud bod Llafur wedi gwneud mor dda bod y trafod yn “anos – bydd lot o aelodau’n gofyn ‘pam wnawn ni ddim llywodraethu ar ein liwt eun hun?”
Mae’n rhagweld bod clymblaid ffurfiol yn “llawer anos”….
Ac mae Seimon Brooks yn cytuno, ac yn dweud bod gan Lafur “fandad amlwg” i lywodraethu ar eu pen eu hunain…
O safbwynt foesol, mae'n siŵr y gellid dadlau fod buddugoliaeth Llafur yn un mor gadarn fod ganddynt hawl i lywodraethu ar eu pennau eu hunain, hyd yn oed pe baent ar 28 neu 29 sedd, a dylai pleidiau eraill barchu hynny. Gan Lafur mai mandad amlwg cenedl y Cymry.
— Simon Brooks (@Seimon_Brooks_) May 7, 2021