Bradley Wiggins (Llun: PA)
Mae pedwar beic a chit gwerth £40,000 wedi cael eu dwyn oddi ar dîm Syr Bradley Wiggins yng Nghaerdydd.

Mae’r tîm yn y brifddinas ar gyfer Velothon Cymru.

Cafodd cydrannau’r beiciau eu dwyn o fan y tu allan i’r Premier Inn ar Ffordd Pentwyn yn gynnar y bore ma, meddai Heddlu’r De.

Mae’r beiciau’n werth £10,000 yr un, a’r olwynion yn werth £650 yr un.

Cafodd y tîm ei sefydlu yn 2015 i feithrin doniau beicwyr ifainc.