David Williams Llun: S4C
Mae newyddiadurwr profiadol yn dychwelyd at stori y bu bron iddo ag ymddiswyddo drosti ugain mlynedd yn ôl.
Nos Fawrth ar S4C, bydd David Williams yn cyflwyno’r rhaglen Cam-drin Plant: Y Gwir sy’n Lladd am ei ymchwiliadau i gam-drin plant sydd bellach wedi’u profi’n wir.
Ond yn 1994, fe fu bron i David Williams ymddiswyddo wedi i gyn-uwch arolygydd yr heddlu yng ngogledd Cymru, Gordon Anglesea, ennill achos enllib yn erbyn ITV. Mae Gordon Anglesea bellach dan glo am ymosodiadau anweddus ar ddau fachgen yn eu harddegau yn yr 1980au.
‘Mater o gywilydd i’r genedl’
“Bron imi ymddiswyddo a chefnu ar fy ngyrfa fel newyddiadurwr y pryd hynny,” meddai David Williams.
“Dim ond cefnogaeth fy ngwraig Rhiannon a chefnogaeth fy nghydweithwyr a’m perswadiodd i ddal ati.
“Rwy’n gobeithio y bydd y rhaglen hon yn gwneud i bobl sylweddoli bod yr achosion yma o gam-drin plant mewn cartrefi gofal yn y Gogledd yn fater o gywilydd i’r genedl. Y cywilydd ydi na wnaeth cymdeithas goelio’r bobl sydd wedi dioddef na’r rhai fel Alison Taylor a oedd yn siarad ar eu rhan.
“I rai o’r dioddefwyr, doedd y ffaith nad oedd neb yn eu credu yn ormod, a tydyn nhw ddim wedi byw i weld cyfiawnder – iddyn nhw roedd dweud y gwir wedi eu lladd.”
‘Peryglon yn dal yno’
Fe ddechreuodd David Williams, 66 oed, ymchwilio i achosion o gam-drin plant yn nechrau’r 1990au pan wnaeth glywed stori cyn-weithiwr cymdeithasol Alison Taylor, a oedd wedi cael ei diswyddo am iddi wneud honiadau am gam-drin corfforol o blant mewn cartref yng Ngwynedd, Tŷ’r Felin ym Mangor.
“Y gwir yw na allwn ni byth dweud na fydd o byth yn digwydd eto,” meddai David Williams. “Efallai na welwn y fath lefel o paedophiles mewn cartrefi gofal eto, ond mae’n digwydd ar y we bellach.
“Fel dywedodd un plismon wrtha i, ‘dw i’n poeni am ddiogelwch fy merch wrth iddi gerdded adra o’r ysgol ond ‘dw i’n poeni mwy am beth mae hi’n gweld pan mae’n agor ei laptop ar ôl cyrraedd adra’. Mae’r peryglon yn dal yno’.”
Cam-drin Plant: Y Gwir sy’n Lladd, nos Fawrth, Rhagfyr 13, 9.30yh, S4C