Mae’r RSPCA yn cynghori perchnogion anifeiliaid i lunio cynlluniau rhag ofn iddyn nhw gael eu heffeithio gan lifogydd.
Maen nhw’n annog pobol i symud anifeiliaid i dir uwch os oes llifogydd, neu symud anifeiliaid anwes tu mewn, a’u rhoi nhw fyny grisiau os yn bosib.
“Rydyn ni’n annog perchnogion anifeiliaid anwes i gadw llygad ar y rhagolygon tywydd eu hardal nhw, a chynllunio ymlaen llaw i sicrhau diogelwch eu hanifeiliaid,” meddai llefarydd ar ran yr RSPCA, Amy Ockelford.
“Gwnewch yn siŵr bod gennych chi gynllun fel eich bod chi’n gwybod sut i gael eich teulu, ac eich anifeiliaid, allan o berygl pe bai llifogydd yn eich effeithio.
“Mae llifogydd yn codi’n sydyn felly byddwn ni’n annog pobol i weithredu’n gynnar, a pheidio byth roi eu hunain mewn perygl i helpu anifeiliaid ond, yn hytrach, galw ein tîm achub brys ar 0300 1234 999 am help.”
Mae’r RSPCA wedi cyhoeddi canllawiau yn sgil y tywydd